CGGC yn cyrraedd carreg filltir o 25 mlynedd! / CVSC reaches a 25-year milestone!

Published: Mon, 06/20/22


Mae CGGC yn dathlu 25 mlynedd ers cefnogi, datblygu a hyrwyddo gweithgarwch gwirfoddol yma yng Nghonwy!

Rydym yn hynod falch o’n cyflawniadau hyd yma, ac yn edrych ymlaen at ein dathliadau blwyddyn o hyd gan gynnwys digwyddiad diwrnod arddangos arbennig gyda phartneriaid trydydd sector a CCB yn Neuadd y Dref Llandudno ddydd Mercher 19eg Hydref.
Yn y cyfamser, edrychwch ar ein logo dathlu newydd arbennig sydd wedi'i ddylunio gan aelod o'n staff ni ein hunain, Kasia, ac ymunwch â ni ar ein stondin gyfeillgar i deuluoedd yn Sioe Llanrwst ar ddydd Sadwrn 25ain Mehefin – dewch draw i ddweud helo, dod i wybod am wasanaethau CGGC ar hyn o bryd a gweld ein hystod o nwyddau dathlu newydd!

A picture containing calendar

Description automatically generated

CVSC reaches a 25-year milestone!

CVSC is celebrating its 25-year anniversary of supporting, developing and promoting voluntary activity here in Conwy!

We are extremely proud of our achievements to date and are looking forward to our yearlong celebrations including a special showcase day event with third sector partners and AGM in Llandudno Town Hall on Wednesday 19th October. In the meantime, check out our special new celebratory logo designed by our very own member of staff, Kasia, and join us at our family friendly stand at the Llanrwst Show on Saturday 25th June – come along to say hello, find out about current CVSC services and see our range of new celebratory merchandise!