Transform your Community / Rhoi help llaw i natur

Published: Wed, 07/06/22

Cylchredwyd ar ran Cadw Gymru'n daclus / Circulated on behalf of Keep Wales Tidy

Transform your community with a free garden package from Local Places for Nature

Environmental charity Keep Wales Tidy is giving away hundreds of free garden packages to communities across the country.
Since the first year of Local Places for Nature in 2020, nearly 800 gardens have been created, restored and enhanced. Community groups and organisations of all shapes and sizes got involved – from disability charities and youth groups to social enterprises and carer groups.
Applications have now reopened, and communities are being urged to get involved early to avoid missing out. The new online application system makes it very easy to apply and review progress, as well as offering resources, guidance and updates from the Local Places for Nature scheme.  You can choose from small or larger-scale wildlife and food growing gardens, or for the first time the scheme is offering a new community orchard package.
Minister for Climate Change, Julie James said: “The pandemic has given us all a greater appreciation of nature and its importance on our health and mental wellbeing.
“I’m pleased to be supporting another year of Local Places for Nature. The programme makes it easy for people from all backgrounds and abilities to get involved, as a community, to create and enjoy nature in the places where we live and spend most of our time.
“Valuing nature and taking small local level actions is so important as part of the collective effort needed to tackle the nature emergency, and support the variety of plants and animals we love to see in Wales.”
Deputy Chief Executive for Keep Wales Tidy Louise Tambini said:
“Over the past two years, people have really appreciated the value of nature and we’re delighted to offer again free garden packs to communities. We know that gardening and being out in nature has a positive impact on mental wellbeing, and it’s a great way to keep fit and meet new people. Through Local Places for Nature, we have created hundreds of new habitats and spaces for nature, which is vital in the current climate emergency and decline in biodiversity.”
“Thanks to the ongoing support of Welsh Government and our partners our garden packs include all the materials and tools you need to create a new space for nature and Keep Wales Tidy staff will be on hand to install the garden.”
The initiative is jointly funded by the Welsh Government, part of a wider Welsh Government ‘Local Places for Nature’ programme committed to creating, restoring and enhancing nature ‘on your doorstep’ and The National Lottery Heritage Fund.
To apply for a free garden pack, visit the Keep Wales Tidy website www.keepwalestidy.cymru/nature 

Notes to editors
  1. For communications support, please contact Nia Lloyd on 07469 118914 or email nia.lloyd@keepwalestidy.cymru
  2. For more information on Local Places for Nature, please contact the team at nature@keepwalestidy.cymru
  3. Keep Wales Tidy is a registered environmental charity working to protect our environment now and for the future. Visit our website for more information: www.keepwalestidy.cymru

Rhoi help llaw i natur.  Cannoedd o becynnau gardd newydd am ddim ar gael i gymunedau

Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi cannoedd o becynnau gardd am ddim i gymunedau ar draws y wlad.
Ers 2020, mae bron 800 o erddi eu creu, eu hadfer a’u gwella trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur.  Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
Mae’r ceisiadau bellach wedi ailagor, ac mae cymunedau yn cael eu hannog i gymryd rhan ac osgoi colli’r cyfle. Mae’r system ymgeisio ar-lein newydd yn ei gwneud hi’n hawdd iawn gwneud cais, yn ogystal â chynnig adnoddau, arweiniad a diweddariadau o’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Gallwch ddewis o erddi bywyd gwyllt a thyfu bwyd bach neu ar raddfa fwy, neu am y tro cyntaf mae'r cynllun yn cynnig pecyn perllan gymunedol newydd.
Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r pandemig wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i ni i gyd o natur a’i phwysigrwydd i’n hiechyd a’n lles meddwl. Rwy’n falch o gefnogi blwyddyn arall o Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’r rhaglen yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl o bob cefndir a gallu gymryd rhan, fel cymuned, i greu a mwynhau byd natur yn y mannau lle rydyn ni’n byw ac yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser.
“Mae gwerthfawrogi byd natur a chymryd camau bach lleol mor bwysig fel rhan o’r ymdrech ar y cyd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chefnogi’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid rydyn ni’n caru eu gweld yng Nghymru.”
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus Louise Tambini:
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl wir wedi gwerthfawrogi gwerth byd natur ac rydym yn falch iawn o gynnig pecynnau garddio am ddim eto i gymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod garddio a bod allan ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les meddwl, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini a chwrdd â phobl newydd. Trwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym wedi creu cannoedd o gynefinoedd a mannau newydd ar gyfer natur, sy’n hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd bresennol a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
“Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mae ein pecynnau gardd yn cynnwys yr holl ddeunyddiau ac offer sydd eu hangen arnoch i greu gofod newydd ar gyfer natur a bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i osod yr ardd.”
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.
Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.  I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature 

Nodiadau i olygyddion
  1. Am gymorth cyfathrebu, cysylltwch ag Nia Lloyd on 07469 118914 neu ebostiwch amy.lloyd@keepwalestidy.cymru
  2. Am fwy o wybodaeth am Leoedd Lleol ar gyfer Natur, cysylltwch â’r tîm yn nature@keepwalestidy.cymru
  3. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sydd yn gweithio i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.  Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth: www.keepwalestidy.cymru
 
Marchnata a Chyfathrebu | Marketing and Communications
 
 
Cadwch Gymru'n Daclus | Keep Wales Tidy
 
 
33‑35 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9HB | 33‑35 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9HB
Comms@keepwalestidy.cymru
www.keepwalestidy.cymru