Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl / Unpaid Carers Support Scheme

Published: Mon, 05/16/22


Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl

Bydd taliad untro o £500 ar gael gan Lywodraeth Cymru i ofalwyr di-dâl cymwys yng Nghymru  – a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022. Bydd awdurdodau lleol unigol yn gweinyddu ac yn talu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol sydd ar lawer o ofalwyr di-dâl yn sgil y pandemig, ac i’w helpu nhw i gwrdd â rhai o’r costau ychwanegol.   Mae’r taliad wedi’i dargedu ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel. 

Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn y taliad:
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n gymwys i dderbyn Grant Cefnogi Gofalwyr Di-dâl ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 9am ar 16 Mai 2022 tan 5pm ar 15 Gorffennaf 2022

SYLWCH Y BYDD Y COFRESTRIAD YN CAU AR 15 GORFFENNAF 2022.

Bydd hawlwyr llwyddiannus yn cael eu talu drwy BACS i gyfrif banc perthnasol yr unigolyn rhwng mis Mehefin 2022 a diwedd mis Medi 2022.
Sylwch, bydd arnoch chi angen cyflwyno/cofrestru hawliad gyda Chyngor eich ardal chi nid Cyngor yr ardal y mae’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol). 

Ymgeisiwch Yma

Os oes gennych gwestiwn am y cynllun, cysylltwch â unpaidcarerspayment@conwy.gov.uk



Unpaid Carers Support Scheme

A one-off £500 payment from the Welsh Government will be available to all eligible unpaid carers in Wales who were in receipt of Carers Allowance on 31 March 2022. The Unpaid Carers Support Grant will be administered and paid by individual Local Authorities on behalf of the Welsh Government.

The payment is being made in recognition of the increased financial pressures many unpaid carers have experienced during the pandemic, and to help with some of the additional costs they have incurred.  The payment is targeted towards those individuals who care for someone for at least 35 hours a week and have low incomes.

Individuals are not eligible for the payment if:
If you believe you may qualify for the Unpaid Carers Support Grant and live within Conwy County Borough, you can submit a claim through this website from 9am on 16 May 2022 up to 5pm on the 15 July, 2022. 

PLEASE NOTE REGISTRATION WILL CLOSE ON 15TH JULY 2022.

Successful claims will be paid by BACS transfer into the relevant person’s bank account from June 2022 through to the end of September 2022.
Please note, you will need to submit/register a claim  with the Council where you live, not the Council where the person you care for lives (if it is different). 

APPLY HERE

If you have a question about the scheme, please contact unpaidcarerspayment@conwy.gov.uk