Newyddion
Croeso i rhifyn mis Awst o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Sioe Wledig Llanrwst
Gyda CGGC yn dathlu 25 mlynedd o wasanaeth cymunedol di-dor yng Nghonwy, pa ffordd well na mynd allan i'r gymuned, felly dyna a wnaethom. Mae CGGC yn ôl ar y
ffordd!
Roedd dydd Sadwrn 25 Mehefin yn ddiwrnod mawr yn nyffryn Conwy, a gyda’r addewid o dywydd braf trodd llygaid pawb at Sioe Wledig Llanrwst, gan gynnwys CGGC. Ar ôl cloi a llwytho
Car y Llan, fe wnaeth y tîm dewr gyrraedd safle’r sioe yn gynnar yn y bore.
Fe gafodd y babell ei chodi – ’wnawn ni ddim sôn mwy am hynny! Fe gafodd deunyddiau’r stondin a’r nwyddau hyrwyddo eu gosod yn eu lle ac roeddem ar agor yn barod amdani. Gyda
gweithgareddau'r plant yn llawn, roedd hyn yn rhoi cyfle i’r rhieni sgwrsio wrth i'r plant wneud bathodynnau, lliwio a'r gwaith hollbwysig o gasglu sticeri!
Roedd llawer o "Helo pwy ydych chi, beth ydych chi'n ei wneud"? Nid yw'n dasg hawdd ei hegluro wrth i CGGC wneud ychydig o bopeth i bawb, y trydydd
sector.
Llwyddodd Car y Llan, ein menter dosbarthu presgripsiynau gwledig a chludiant i apwyntiadau meddygol sy’n cael ei chyllido gan Sefydliad Steve Morgan, i ddenu diddordeb mawr.
Roedd gwirfoddolwyr presennol a chyn-wirfoddolwyr yn uno i gefnogi prosiect o'r fath yng Nghonwy wledig.
Gydag ymholiadau am brosiectau, cymorth i fanciau bwyd, pryderon ynghylch argyfwng ynni a rhaglenni grant, roedd y staff yn brysur drwy’r dydd.
Hoffai CGGC ddiolch i Sioe Wledig Llanrwst am y cyfle i fynd i ddigwyddiad blynyddol mwyaf y dyffryn a llongyfarchiadau i’r trefnwyr ar gynnal sioe wych oedd wedi'i threfnu'n
dda.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at gwrdd â ffrindiau hen a newydd yn 2023
Neil Pringle, Rheolwr Cronfa Gwynt y Môr a Car y Llan
Croeso i aelod o staff newydd CVSC
Helo, fy enw i yw Josephine Hastings ac fi ydi’r Swyddog Grantiau Newydd i CVSC. Dechreuais weithio
diwedd mis Gorffennaf ac rwyf yn gyffroes i fod yn rhan o’r tîm. Dechreuais wirfoddoli i CVSC yn 2017 gyda Panel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid ac rwyf yn ddiolchgar o gael y cyfle i weithio gyda’r tîm grantiau gan fy mod yn gwybod y pethau gwych y gallant wneud!
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid?
Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol:
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC.
Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Agoriad Swyddogol Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Agorwyd fferm wynt ar y tir Coedwig Clocaenog RWE yng Ngogledd
Cymru, yn swyddogol gan Julie James MS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd ar yr 8fed o Orffennaf. Ymunodd CGGC, pwysigion, arweinwyr cymunedol a busnes, cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru a thîm datblygu RWE â’r Gweinidog, i ddathlu’r achlysur, mewn lleoliad hyfryd : Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Dŵr Cymru Welsh Water.
Fferm wynt Coedwig Clocaenog, gyda 96 MW, yw’r fferm wynt ar y tir fwyaf yn fflyd RWE yn y DU, ac mae wedi’i lleoli ar ystâd goetir Gweinidogion Cymru, ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er bod y fferm wynt wedi bod ar waith ers dros flwyddyn, mae cyfyngiadau COVID wedi atal RWE rhag dathlu’r gamp.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Roedd yn bleser gennyf agor fferm wynt ar y tir Coedwig Clocaenog RWE yn swyddogol. Mae ynni gwynt ar y tir eisoes yn cyfrif am 39% o’n
cynhyrchiant trydan adnewyddadwy yng Nghymru ond mae gennym uchelgeisiau mawr yn y sector hwn.
Mae gennym y weledigaeth i Gymru ddod yn allforwyr net ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy’n cefnogi’r economi ac yn cadw gwerth yng Nghymru. Rydym am adfywio’r diwydiant fel ein bod yn dod â
manteision i’n cymunedau ac yn creu swyddi medrus.
Rydym eisoes wedi cymryd camau mawr i wneud sero net yn realiti yng Nghymru. Rydym eisiau rhwydwaith trydan sy’n gallach, yn wyrddach ac yn gallu cefnogi dyfodol carbon isel, sy’n diwallu
anghenion ein cymunedau a’n pobl yn y dyfodol. Darparu’r gwerth hirdymor gorau i Gymru. Mae RWE yn ddatblygwr mawr a phwysig yng Nghymru, rydym yn edrych tuag atynt i osod safon uchel ymhlith y gymuned ddatblygwyr ac yn gyffrous i weld y gwahaniaeth y gallant ei wneud i ddyfodol ynni adnewyddadwy yng Nghymru.”
|
|
Mary Trinder, Cadeirydd Ymddiriedolwyr CVSC
Ar ôl ei chwblhau yn 2020, dechreuodd fferm wynt Coedwig Clocaenog
yr RWE ddarparu cronfa buddsoddi cymunedol flynyddol o £768,000 i’r ardal leol.
Mae'r gronfa yn cael ei rheoli a'i gweinyddu'n annibynnol gan Gymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) ar ran cymunedau lleol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Ei nod yw sefydlu gwaddol hirhoedlog
drwy sicrhau buddion sy’n newid bywydau’r cymunedau cyfagos. Hyd yn hyn, mae cronfa fferm wynt Coedwig Clocaenog wedi buddsoddi £1.181 miliwn drwy 96 o grantiau, gan greu mwy na 24 o swyddi a diogelu 62 arall yn y broses.
|
|
Esyllt Adair, Rheolwr Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Ychwanegodd Rheolwr y Gronfa i CGGC, Esyllt Adair: “Rydym yn edrych
ymlaen at weld yr effeithiau cadarnhaol hirdymor y bydd y gronfa gymunedol hon yn eu cael ar yr economi leol. Byddem yn annog busnesau, grwpiau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’r gronfa i gysylltu â ni i drafod eu prosiectau neu eu syniadau cyn gynted â phosibl, fel y gallwn eu cefnogi drwy’r broses ymgeisio. Mae hwn yn gyfle gwych, ac rydym am weithio’n agos gyda phobl leol i wneud y mwyaf o effaith y buddsoddiad sylweddol hwn.”
|
|
Marian Jones, Cynorthwyydd Gweinyddol Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
|
|
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus
yn ateb heb risg, heb ffioedd, i godi arian ar-lein – a nawr mae gennym reswm ychwanegol i chi gofrestru – taleb Currys PC World gwerth £1,000.
Mae ein loteri eisoes yn helpu achosion lleol i godi arian di-ben-draw drwy gydol y flwyddyn. Gall y rhan fwyaf o grwpiau dielw gofrestru i ddechrau
defnyddio'r ateb codi arian cymunedol ar-lein yma heddiw!
Bydd eich cefnogwyr yn cael cyfle i ennill gwobrau ariannol o hyd at £25,000 bob wythnos!
Hefyd, os ydych chi wedi'ch cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 27 Awst byddwch yn cael cyfle i ennill gwobr genedlaethol ychwanegol i
hyrwyddo cefnogwyr newydd posibl – taleb Currys PC World gwerth £1,000! Does dim byd i'w golli, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr yno i gefnogi eich achos – dim ond bonws ychwanegol yw'r siawns o ennill gwobr!
Ond beth yw’r anfantais? Dim byd! Dim ond £1 yr wythnos yw pris y tocynnau loteri gyda mwy yn mynd yn uniongyrchol i'ch achos chi na mewn unrhyw loteri
fawr arall. Gallwch weld yn union ble mae pob ceiniog yn mynd ar ein gwefan ni.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud wrth gynifer o bobl ag y gallwch chi i'ch cefnogi drwy eich tudalen loteri. Gyda dim ond 50 o chwaraewyr rheolaidd gallech chi godi mwy na £1,000 y flwyddyn – ac mae’r chwaraewyr yn aml yn rhoi eu henillion yn ôl i'ch achos chi hefyd!
Ewch amdani? Does dim risg o gwbl, dim ffioedd ymlaen llaw, a dim trafferth – cofrestrwch NAWR i ddechrau codi mwy o arian, yn
|
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
Bob dydd mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS) yn helpu miloedd o
bobl hŷn i fyw'r bywyd maen nhw ei eisiau, drwy gefnogi a darparu gwasanaethau ymarferol er mwyn parhau i fod yn annibynnol ac yn egnïol. Maen nhw’n chwilio am Wirfoddolwyr Cwmni yn y Cartref i leihau unigrwydd ac ynysu ar draws Bae Colwyn (Bae Colwyn, Llandrillo yn Rhos a Hen Golwyn) drwy ddarparu ymweliadau â phobl o'r genhedlaeth hŷn sy'n byw ar eu pen eu hunain ac sydd naill ai’n methu neu’n ei chael yn anodd gadael eu cartref. Mae gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaeth ymweld
y mae ei wir angen â phobl yn eu cartrefi eu hunain. Nid gwasanaeth gofal yw hwn, felly nid oes disgwyl i wirfoddolwyr ddarparu unrhyw dasgau gofal personol. Byddwch yn cyfrannu at ymdrech yr RVS i helpu pobl hŷn i gael y gorau o fywyd wrth ddatblygu sgiliau a phrofiad a gwneud ffrindiau newydd. Bydd hyfforddiant a deunyddiau yn cael eu darparu gan yr RVS a'ch Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu.
|
|
Idlewild Animal Sanctuary
Mae Idlewild Animal Sanctuary yn elusen sy'n darparu gofal i amrywiaeth o
anifeiliaid sy'n darparu gwasanaethau Achub, Adsefydlu, Rhyddhau ac Ailgartrefu. Mae'n darparu hafan ddiogel ar gyfer anifeiliaid sydd wedi'u gadael ac anifeiliaid nad oes neb eu heisiau yn eu noddfa yn Nyffryn Conwy ac maent yn chwilio am unigolion ymroddedig sy'n angerddol am les a gofal anifeiliaid i ddod yn Wirfoddolwyr Gofal a Chymorth Anifeiliaid er mwyn helpu gyda threfn bob dydd a chyfoethogi/gofalu am les yr holl anifeiliaid sydd dan eu gofal.
Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored ym mhob tywydd, wrth eich bodd yn cysylltu â natur ac amrywiaeth eang o anifeiliaid, ac eisiau cael profiad o gefnogi, gofalu am ac adsefydlu anifeiliaid, cysylltwch â ni. Mae'r
cyfle hwn yn cefnogi iechyd a lles drwy ymgysylltu â natur a rôl therapiwtig anifeiliaid. Oherwydd lleoliad gwledig y noddfa, mae gallu gyrru yn ddymunol.
|
|
|
|