Roedd CVSC yn falch iawn o groesawu dros 100 o gyfranogwyr o sefydliadau ar draws sir Conwy a thu hwnt i ddathlu ein pen-blwydd yn 25 yn Neuadd y Dref Llandudno ar 19 Hydref ar gyfer ein Ffair Gyllido a’n Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol.
Dechreuodd y diwrnod gyda’r Ffair Gyllido a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o gronfeydd gan gynnwys y rhai a weinyddir gan CGGC sydd yn cynnwys Gwynt y Môr, Gwastadeddau’r Rhyl a Choedwig Clocaenog, yn ogystal â llu o gronfeydd allanol gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Roedd cyfle hefyd i gael cyngor a gwybodaeth ar wirfoddoli, llywodraethu, ymgysylltu a chydgynhyrchu yn ogystal â sgwrs ar ysgrifennu ceisiadau grant gan Esyllt Adair, Rheolwr Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog.
Rhedodd y digwyddiad yn ddidrafferth diolch i’n MC am y diwrnod, Dilwyn Price, a fu’n diddanu ac ennyn
diddordeb pawb, gan sicrhau bod popeth yn rhedeg ar amser, gan gynnwys cyfle am goffi a llawer o gacen.
Yn dilyn y ffair ariannu agorwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan ein Cadeirydd, Mary Trinder, ynghyd â Wendy Jones, Prif Swyddog a’n Rheolwr Busnes David O’Neill, gyflwynodd y cyfrifon. Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur i ni
yn CGGC ac roedd nifer o aelodau newydd o staff wedi ymuno â ni ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.
Ar ôl i’r busnes swyddogol ddod i ben ac roedd y raffl wedi ei thynnu gyda gwobrau gwych gan gynnwys taleb ar gyfer ZipWorld a photel o wisgi AberFalls, roedd yn bleser gennym groesawu Hugh
Lomas, Ymddiriedolwr Home-Start Conwy a roddodd drosolwg gwych o’r gwaith anhygoel a wneir gan Home-Start, yn lleol ac yn genedlaethol a rhoddodd ddiweddariad ar eu prosiect diweddaraf ar ôl cymryd drosodd Canolfan Gymunedol Tan Lan a'i hailwampio a'i hail-lansio fel Y Ganolfan Lafant.