Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr / Visitor Levy Consultation

Published: Thu, 11/17/22

Llywodraeth Cymru / Welsh Government



Mae swyddogion Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Bydd yr ardoll yn creu refeniw i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth yn eu hardaloedd. Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Bydd angen deddfwriaeth newydd i roi’r polisi hwn ar waith ac mae’n annhebyg y bydd mesurau’n dod i rym am sawl blwyddyn, a hynny os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo.
 
Rydym yn cynnig y bydd ardoll ymwelwyr yn dâl ychwanegol bach a fydd i’w godi ar arosiadau mewn llety ymwelwyr dros nos a osodir yn fasnachol. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol am ffurf yr ardoll yn cael eu gwneud ar ôl yr ymgynghoriad ac ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael.
 
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 13 Rhagfyr 2022. Hoffem glywed gan ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau i helpu i lunio unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu. Byddem yn ddiolchgar petaech yn rhannu manylion yr ymgynghoriad drwy’ch rhwydweithiau. Cysylltwch drwy e-bost os hoffech ein pecyn o asedau digidol ar gyfer yr ardoll ymwelwyr.
 
Mae yna ddogfen ymgynghori lawn, fersiwn fyrrach i gymunedau a phobl ifanc a fersiwn hawdd ei deall. Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU
 
Bydd adroddiad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn yn 2023.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau i YmgynghoriadArdollYmwelwyr@llyw.cymru
Diolch yn fawr
Tim Ardoll Ymwelwyr, Trysorlys Cymru
 
Welsh Treasury officials in Welsh Government are working on proposals that will give local authorities discretionary powers to introduce a visitor levy. This will generate revenue to support investment in the tourism industry in their areas. Introducing a visitor levy is a Welsh Government  Programme for Government commitment and is being carried out in collaboration with Plaid Cymru as part of the  Co-operation Agreement. This policy will require new legislation and measures are unlikely to come into force for several years, if approved by the Senedd. 
 
We are proposing that a visitor levy will represent a small additional charge that will apply to stays in overnight, commercially-let visitor accommodation. Final decisions on the design of a levy will be taken following the consultation and considering all available evidence.
 
The consultation is open until 13 December 2022 . We want to hear from as wide-ranging views as possible to help shape any proposals taken forward. We would be grateful if you would share the consultation details via your networks.
There is a full consultation document, a shorter community/ youth version and an easy read option. Discretionary visitor levy for local authorities | GOV.WALES
A report on the consultation responses will be published in Spring 2023.
 
Any queries should be sent to VisitorLevyConsultation@gov.wales
 
Visitor Levy Team – Welsh Treasury.
 
Diolch yn fawr
 
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options