Newyddion Croeso i rhifyn mis Rhagfyr o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Weithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ddatrysiad codi arian ar-lein dim risg, dim ffioedd – a’r Nadolig yma mae gennym ni reswm ychwanegol i chi gofrestru – cerdyn anrheg John
Lewis gwerth £1,000! Os ydych chi wedi cofrestru ac wedi'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr, byddwch yn cael mynediad i'r wobr ychwanegol genedlaethol yma i'ch hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd!
Mae cronfeydd cymunedol Gwynt y Môr a Chlocaenog yn lansio Cronfa Argyfwng Ynni ar gyfer sefydliadau sydd yn ardaloedd presennol y cronfeydd o hyd at £5000. Mae canllawiau a ffurflen gais ar gael ar ein gwefan.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn partneriaeth a Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yn darparu cyllid Canolfannau Clyd Llywodraeth Cymru (LLC).
Cynllun Grantiau Bychain y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Ar gyfer Prosiectau sy'n cefnogi pobl yng Nghonwy a Sir Ddinbych
Mae CGGC a CGGSDd yn lansio cynllun grantiau bach ar gyfer y trydydd sector, a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Bydd grantiau ar
gael rhwng £1000 a £10,000. Tîm Grantiau CGGC fydd yn gweinyddu'r cynllun grantiau, mewn partneriaeth â CGGSDd. Mae Cynllun Grantiau Bach y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) wedi’i anelu at
brosiectau sy’n cefnogi pobl hŷn â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol yn Sir Conwy a/neu Sir Ddinbych sy’n ategu’r nod ‘Gofal Cywir, Lle Iawn, Tro Cyntaf’. Mae canllawiau a ffurflen gais i'w gweld ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at dîm grantiau CGGC – grants@cvsc.org.uk Rydym yn eich annog i gael sgwrs anffurfiol gyda swyddog grantiau CGGC cyn llenwi eich cais.
|
|
Cronfa Papur Llafar Aberconwy
Mae Papur Llafar Aberconwy yn dirwyn i ben ac felly mae grantiau cyfyngedig ar gael i grwpiau o'r trydydd sector yn ardal Aberconwy. Gweler ffurflen gais ar y ddolen wedi'i chynllunio i helpu ymgeiswyr ddeall mwy am y gronfa yma gan gynnwys nodau a blaenoriaethau'r grant, pwy sy'n gallu gwneud cais am arian,
a'r hyn sy'n ofynnol gan ymgeiswyr.
|
|
|
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr 5 Rhagfyr
Gwnaeth y Cenhedloedd Unedig greu’r Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ym 1985 i ddathlu ‘pŵer a photensial gwirfoddoliaeth’. Mae’r diwrnod yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i’w cymunedau.
|
|
Mae Cri'r Gylfinir yn brosiect 4 blynedd a ariennir gan yr UE gyda’r nod o atal diflaniad y gylfiniriaid sy’n bridio yng Nghymru drwy wella eu cyfradd llwyddiant bridio. Maen nhw'n recriwtio Gwirfoddolwyr Syrfewyr i fonitro gylfiniriaid sy'n bridio. Fel syrfëwr gwirfoddol byddwch yn gwneud dau arolwg cerdded
adar yr ucheldir i nodi tiriogaethau gylfinir gan ddilyn gan ymweliadau nythu wythnosol i fonitro llwyddiant. Bydd yr arolygon cerdded drosodd yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2023 o amgylch Ysbyty Ifan ac ardal Hiraethog. Bydd angen i chi allu adnabod adar yr ucheldir a chael digon o amynedd a dyfalbarhad i wylio rhywogaeth sy'n gallu ymddwyn mewn ffordd cryptig iawn o amgylch lleoliadau eu nythod. Mae'r arolygon cerdded drosodd yn gofyn am lefel dda o ffitrwydd, ac ar adegau,
bydd angen i chi gerdded dros dir garw mewn lleoliadau anghysbell. Byddwch yn cael hyfforddiant a gwybodaeth, cefnogaeth a chyfleoedd i gwrdd â gwirfoddolwyr o'r un anian yn rheolaidd. Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu. Maent hefyd yn recriwtio gwirfoddolwyr angerddol i helpu i arolygu ansawdd cynefinoedd a helaethrwydd ysglyfaethwyr yn un o gadarnleoedd bridio gylfinirod olaf Cymru.
|
|
Mae'r Groes Goch Brydeinig yn recriwtio Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gyfer eu canolfan yn Abergele. Os ydych chi'n mwynhau bod mewn amgylchedd swyddfa, yn gydymdeimladol ac yn hoffi cyfarfod â phobl, efallai mai dyma'r rôl i chi. Diolch i wirfoddolwyr fel chi gall y Groes Goch Brydeinig ddarparu cadeiriau olwyn ac offer symudedd arall i bobl yn eich cymuned leol i'w helpu drwy argyfwng.
Mae'r gwasanaeth hanfodol hwn yn galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth ac ansawdd eu bywyd ar ôl salwch neu anaf. Mae'r tasgau'n cynnwys darparu gwasanaethau cwsmeriaid gwych, dosbarthu cadeiriau olwyn / offer a derbyn dychweliadau, defnyddio system rheoli stoc gyfrifiadurol, dangos defnydd diogel o'r offer, derbyn taliadau / rhoddion. Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio’ch sgiliau presennol neu ddysgu rhai newydd. Bydd yr holl hyfforddiant ar gyfer y rôl yn cael ei ddarparu. Ad-delir costau
teithio rhesymol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.
|
|
Mae NWAMI yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i leihau troseddau casineb drwy gyfnewid a dysgu diwylliannol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ddiwylliannol. Mae’n chwilio am Gynorthwy-ydd Gweinyddol Gwirfoddol i helpu gyda thasgau bob dydd fel
ffeilio, cadw cyfrifon, ateb galwadau ffôn sy'n dod i mewn, a chadw'r swyddfa'n daclus ac ati. Mae sgiliau TG sylfaenol yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rhoddir hyfforddiant sefydlu llawn, a byddwch yn derbyn
cefnogaeth ac arweiniad ar hyd y ffordd, yn ogystal â mynediad i gyfleoedd hyfforddi. Bydd treuliau parod yn cael eu had-dalu lle bo'n briodol. Dewch draw i ymuno â ni, dysgu sgiliau newydd, a chwrdd â phobl newydd!
|
|
|
|