Llandudno Extravaganza - Business and Community Meeting - 6 December 2022

Published: Thu, 12/01/22

Cylchredwyd ar ran/ circulated on behalf of Conwy Business Centre
View in browser
 
 

 1 Rhagfyr 2022 / 1 December 2022 

 

Please scroll down for English

 
 
 
 
 
 

 Strafagansa Llandudno

Cyfarfod Cyswllt Busnesau a’r Gymuned

Ble – Neuadd y Dref Llandudno
 
Pryd – Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 6pm–8pm
 
Pwy – Busnesau lleol, y gymuned leol
Hoffai Pwyllgor Strafagansa Fictoraidd Llandudno eich gwahodd chi i’n cyfarfod cyswllt busnesau a’r gymuned. Dros y 15 mis diwethaf, rydym wedi parhau i drefnu Strafagansa Fictoraidd hynod boblogaidd Llandudno ac wedi ail-frandio Ffair Nadolig Llandudno fel Strafagansa Nadolig Llandudno.
Wrth symud ymlaen, un o’r pethau yr hoffem ei wneud yw cydweithio mwy â’r gymuned leol a busnesau lleol i fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n codi yn sgil ochr weithredol y digwyddiadau hyn. Hoffem hefyd weld sut y gallwn gynnwys mwy ar y gymuned leol a busnesau lleol yn y cyfnod cyn y digwyddiadau a thra mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal.
Mae Strafagansa Fictoraidd Llandudno wedi bod yn allweddol i wneud Llandudno’n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid fel y mae heddiw. Ers y digwyddiad cyntaf yn 1986, mae wedi dangos ein tref i lawer o ymwelwyr newydd sydd wedi dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym eisiau parhau i fod yn rhan o stori Llandudno ond bob blwyddyn mae logisteg y digwyddiadau hyn yn mynd yn fwy o her. Os gallwn i gyd ddod ynghyd fel cymuned, gall Pwyllgor Strafagansa Fictoraidd Llandudno barhau i wneud ei orau glas i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn gweithio er budd pawb.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i gyfarfod â’n pwyllgor a thrafod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd. Os nad ydych chi’n gallu dod i’r cyfarfod ond os hoffech gael sgwrs gyda ni, anfonwch e-bost at y cyfeiriad isod.
Cysylltwch â ni – llandudnoextravaganza@gmail.com
Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod chi.
Cofion cynnes
Chris Williams
Cadeirydd Strafagansa Fictoraidd Llandudno
 
 
 

Llandudno Extravaganza
Business and Community Connect Meeting

Where - Llandudno Town Hall
When - Tuesday 6th December 6pm – 8pm
Who - Local businesses, Local community


The Llandudno Victorian Extravaganza committee would like to invite you to our business and community connect meeting. Over the last 15 months we have continued to organise the ever-popular Llandudno Victorian Extravaganza and taken on the former Llandudno Christmas Fair rebranding it the Llandudno Christmas Extravaganza.
Moving forward one of the things we would like to do is to work closer with the local community and businesses to address some of the issues caused by the operational side of these events. We would also like to see how we can get the local community and businesses more involved during the lead up to events and whilst the event is operating.
The Llandudno Victorian Extravaganza has played a vital role in making Llandudno the successful tourist destination it is today. Since its first event in 1986 it has showcased our town to many new visitors who have continued to visit year after year. We want to continue being a part of Llandudno’s story but each year the logistics of these events become more challenging. If we can come together as a community, then the Llandudno Victorian Extravaganza committee can continue to do it’s best to make sure these events are working in everyone’s best interest.
Please take this opportunity to meet our committee and discuss how we can work together. If you are unable to attend this meeting but you would like to have a conversation with us, send an email to the address below.
Contact us - llandudnoextravaganza@gmail.com
We look forward to meeting you.
Kind Regards
Chris Williams
Llandudno Victorian Extravaganza Chairman
 
 
 
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options