Gwobrau Cymunedol Uchel Siryf Clwyd 2023/ The High Sheriff of Clwyd Community Awards 2023

Published: Thu, 12/08/22


Mae’r broses enwebu ar gyfer Gwobrau’r Uchel Siryf ar gyfer 2023 bellach ar droed. Enwebwch rywun arbennig sy'n gwneud pethau gwych yma yn Sir Conwy!

Dyddiad Cau Dydd Llun 16eg Ionawr 2023
Lansiwyd Gwobrau Uchel Siryf Clwyd yn 2013 i gydnabod unigolion neu sefydliadau neu grwpiau gwirfoddol / cymunedol (gyda nodau elusennol) sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at eu cymunedau priodol.

Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi parhau i’n herio ni i gyd, ac mae’r Uchel Siryf yn awyddus i gydnabod gwaith amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn ein cymunedau ar draws Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Bydd yr Uchel Siryf yn cydnabod dau wirfoddolwr unigol ac un sefydliad gwirfoddol o bob sir yn y Gwobrau.

“Mae’r sector gwirfoddol a chymunedol yn darparu gwasanaeth hanfodol i alluogi pobl i fyw bywydau llawn ac annibynnol. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, yn dilyn pandemig, ac wrth wynebu argyfwng costau byw yn ogystal ag argyfyngau hinsawdd a natur, un o’r canlyniadau mwyaf trawiadol fu cyflawniadau cymaint sydd wedi gwirfoddoli i helpu unigolion, cymunedau a’r amgylchedd. Mae ymateb gwirfoddolwyr yn genedlaethol ac yn lleol yma yng Nghlwyd wedi bod yn anhygoel.” Zoe Henderson, Uchel Siryf Clwyd 2022/23

Bydd tair gwobr fel a ganlyn:
· Dwy wobr i unigolion o bob un o'r prif ardaloedd, sef Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam sy'n ffurfio hen sir Clwyd
· Un wobr i sefydliad neu grŵp gwirfoddol / cymunedol (gyda nodau elusennol) sy'n gweithredu o fewn pob un o'r prif ardaloedd, sef Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam sy'n ffurfio hen sir Clwyd
Bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrau mewn digwyddiad a gynhelir yn Rhuthun ym mis Mawrth 2023 – manylion i ddilyn.

The High Sheriff Awards nomination process for 2023 is now underway. Nominate someone special who does great things here in Conwy!

Closing Date Monday 16th January 2023
The High Sheriff of Clwyd Awards were launched in 2013 to recognise individuals or voluntary/ community organisations or groups (with charitable aims) that have made an outstanding contribution to their respective communities.

The past couple of years have continued to challenge us all, and the High Sheriff is keen to recognise the invaluable work of volunteers in our communities across Flintshire, Conwy, Denbighshire, and Wrexham during this past year. The High Sheriff will be recognising two individual volunteers and one voluntary organisation from each county at the Awards.

“The voluntary and community sector provides a vital service to enable people to live fulfilling and independent lives. In these unprecedented times, following a pandemic, and facing a cost of living crisis as well as climate and nature emergencies, one of the most impressive consequences has been the achievements of so many who have volunteered to help individuals, communities and the environment. The response of volunteers nationally and locally here in Clwyd has been amazing.” Zoe Henderson, High Sheriff of Clwyd 2022/23


There will be three awards as follows: 
· Two awards for individuals from each of the principal areas, namely Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham that form the preserved county of Clwyd 
· One award for a voluntary/community organisation or group (with charitable aims) operating within each of the principal areas, namely Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham that form the preserved county of Clwyd
 

The winners will be presented with their awards at an event to be held in Ruthin in March 2023- details to follow.
 
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options