Newyddion Croeso i rhifyn mis Hydref o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
10am Arweinydd y Dydd a Chroeso – Dilwyn Price efo Wendy Jones, Prif Swyddog a Mary Trinder, Cadeirydd Uchel Siryf Clwyd - Zoe Henderson – “Hanes a Rôl yr Uchel Siryf” 10am – 4pm Ffair Cyllidwyr, mae’r cyllidwyr sydd wedi’u cadarnhau hyd yma yn
cynnwys y canlynol: - Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
- Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr
- Loteri Treftadaeth
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl
- Local Giving
- Moondance
- Chwaraeon Conwy / Chwaraeon Anabledd
- Loto Lwcus
- Porthol Cyllid Cymru
Siaradwyr Gwadd: Esyllt Adair, Rheolwr Cronfa Fferm Wynt Coedwig
Clocaenog “Hanfodion Cais Da am Gyllid”. Mae Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn cefnogi cymunedau yn ardal wledig Conwy a Sir Ddinbych i gyflawni pethau rhyfeddol drwy fuddsoddiad tymor hir o £19 miliwn, dros oes y fferm wynt. Linda Tavernor (Gweithredu Cymunedol Abergele / Banciau Bwyd Conwy) Sefydliad gwirfoddol ac
Elusen gofrestredig yw Gweithredu Cymunedol Abergele sy’n darparu gwasanaethau i bobl leol yn Abergele a thu hwnt gan gynnwys Banc Bwyd Ardal Abergele, Cyngor Arian Cymunedol Abergele a Sied Ieuenctid Abergele. 4pm ymlaen Cyfleoedd Rhwydweithio 5pm Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CVSC – plus Guest Speaker: Huw Lomas – (Home-Start Conwy, “Amseroedd yn Newid”) Mae Home-Start yn rhwydwaith cymunedol lleol o wirfoddolwyr
hyfforddedig a chefnogaeth arbenigol i helpu teuluoedd gyda phlant ifanc drwy gyfnodau heriol. Drwy gydol y
dydd: Radio Bayside- Cyfweliadau a phodlediad radio. Coffi a Chacen, Cyfleoedd Rhwydweithio a
Raffl
Croeso i aelod o staff newydd CVSC
S’mae, Rachel Ginnelly ydw i a dechreuais i yn rôl Swyddog Grantiau gyda CVSC fis yn ôl. Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o dîm CVSC. Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa hyd yn hyn yn gweithio yn y trydydd sector ac
yn ei gefnogi, mewn gwahanol rannau o’r DU. Symudais i Ogledd Cymru 5 mlynedd yn ôl ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle hwn i weithio gyda grwpiau o bob rhan o ardal Gogledd Cymru gan wneud gwaith gwych yn eu cymunedau.
|
|
Deddf Elusennau Newydd 2022
Mae newidiadau’n cael eu cyflwyno gan Ddeddf Elusennau 2022, a fydd yn diwygio Deddf Elusennau 2011. Yr hydref hwn, bydd y gyfres gyntaf o newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau newydd 2022 yn
dod i rym. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: - pŵer newydd y gall ymddiriedolwyr ei ddefnyddio i gael eu talu am ddarparu nwyddau i'r elusen
- pŵer newydd i alluogi ymddiriedolwyr i brosesu rhai taliadau ‘ex gratia’ – lle maent yn teimlo rhwymedigaeth foesol yn rhesymol – heb ddod i’r Comisiwn (bydd trothwyon ariannol yn berthnasol)
- lle nad yw apeliadau codi arian yn codi digon o arian, neu ormod, bydd rheolau symlach a mwy cymesur yn berthnasol
Bydd y darpariaethau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf yn ei gwneud yn symlach i elusennau newid eu dogfennau llywodraethu, rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio ‘cronfeydd gwaddol parhaol’ a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o
ran y cyngor sydd ei angen wrth werthu tir. Bydd y rhain yn dod i rym y flwyddyn nesaf.
|
|
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid?
Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol:
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC.
Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Datganiad i’r Wasg: Elusen Canser Plant The Joshua Tree yn sicrhau cyllid gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr i gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ganserau plentyndod ar
draws Gogledd Cymru
Mae’r elusen canser plant, The Joshua Tree, yn parhau i gefnogi teuluoedd ar draws Gogledd Cymru diolch i arian a sicrhawyd gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr. Bydd y grant yn gwella'n sylweddol y cymorth y mae The Joshua Tree yn ei gynnig
i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan ganserau plentyndod ar draws Gogledd Cymru. Mae The Joshua Tree wedi bod yn ddarparwr rhaglenni cymorth pwrpasol i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl yr holl aelodau uniongyrchol ac estynedig o’r teulu sy’n cael eu heffeithio gan ganserau plentyndod, ar draws Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, ers dros 16 mlynedd. Cafodd yr
elusen ei sefydlu yn 2006 gan Lynda a David Hill ar ôl i'w mab gael diagnosis o lewcemia. Darganfu'r teulu ddiffyg amlwg mewn gwasanaethau cymorth i holl aelodau'r teulu yn ystod profiad trawmatig o ganser plentyndod. Bydd y cyllid grant o £47,242.00 yn rhoi sicrwydd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth ar draws Gogledd Cymru ac o ‘Hwb’ Cymorth i Deuluoedd ym
Mochdre, Bae Colwyn, i gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ganserau plentyndod.
Dywedodd Danielle Percival, Rheolwr Cymorth i Deuluoedd The Joshua Tree: “Diolch i Sefydliad Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr, rydyn ni wedi gallu cefnogi’r nifer cynyddol o atgyfeiriadau teuluol o Ogledd Cymru, gyda sesiynau therapiwtig un i un, gweithgareddau grŵp cefnogi cyfoedion a
gweithgareddau teuluol, yn ystod ac ar ôl triniaeth.” Mae’r ffocws wrth galon yr elusen yn parhau i fod ar gynnig cymorth i’r teulu cyfan, o ddiagnosis, trwy driniaeth a thu hwnt, gan gydnabod yn benodol y gall y cyfnod ar ôl y driniaeth fod yn gyfnod heriol, pan mae teuluoedd yn gorfod addasu i’w ‘normal newydd’. Mae’r elusen yn cynnig cymorth i helpu i
bontio’r bwlch sydd ar ôl pan fydd rhwyd ddiogelwch y driniaeth yn dod i ben.
Dywedodd Rich Driffield, Prif Weithredwr The Joshua Tree: “Mae’r angen teuluol yng Ngogledd Cymru wedi’i gydnabod dros nifer o flynyddoedd bellach. Mae’r cyllid a ddarperir gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn gyfraniad a fydd yn galluogi i ni barhau i gynnig y cymorth y mae ei wir angen i
deuluoedd ar draws Gogledd Cymru, gan ein helpu i barhau i estyn allan at y rhai sydd wedi profi’r boen anodd ei dirnad a ddaw yn sgil diagnosis o ganser plentyndod.”
Dywedodd Neil Pringle, Rheolwr Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr: “Mae Gwynt y Môr yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi Elusen Canser Plant The Joshua Tree. Ar adeg o straen a phryder aruthrol i deuluoedd,
mae'n galonogol gwybod bod sefydliadau fel The Joshua Tree wrth law i helpu. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw gyda’r prosiect yma ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gwasanaeth rhagorol maen nhw’n ei ddarparu ar draws ein cymunedau.
|
|
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae'n wir, ar ddydd Sadwrn 29ain Hydref bydd y raffl genedlaethol yn cael ei chynnal, a bydd un person lwcus yn ennill TALEB BEIC ANHYGOEL gwerth £1,000, diolch i The Bike Factory! |
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Sefydliad gwirfoddol bach yw'r grwp Venture Drama a sefydlwyd yn 2012 i gefnogi oedolion ag amrywiaeth o anableddau corfforol a dysgu o wahanol oedrannau trwy weithgareddau creadigol. Cynhelir cyfarfodydd yng Nghanolfan
Gymunedol y Drindod, Llandudno bob nos Fawrth 7pm-9pm yn ystod y tymor. Oherwydd ymddeoliad, mae angen gwirfoddolwr nawr i redeg y grŵp. Nid grŵp perfformio yn unig fohono ac nid yw gweithgareddau wedi’u cyfyngu i ddrama a gallant gynnwys adrodd straeon, sesiynau celf a chrefft, cerddoriaeth a mwy. Maent yn canolbwyntio ar rymuso, magu hyder a chysylltiadau cymdeithasol. Fel Arweinydd Grŵp Gwirfoddolwyr, dylai fod gennych ddiddordeb mewn gwella bywydau pobl anabl yn eich cymuned, bod yn
rhagweithiol a bod â llawer o syniadau creadigol, empathig a meddu ar agwedd gadarnhaol a deall pwysigrwydd cyfrinachedd. Bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon.
|
|
Gwarchodfa Natur RSPB Conwy
Mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt bendigedig ac yn lle perffaith i deuluoedd ddarganfod byd natur. Maen nhw'n chwilio am Wirfoddolwyr Manwerthu i helpu yn y siop
yng Ngwarchodfa Natur RSPB Conwy. Mae’r gwirfoddolwyr yn gwasanaethu cwsmeriaid, yn stocio silffoedd ac yn gwneud y siopau’n llefydd cyfeillgar i ymweld â hwy. Mae’r elw a wneir o'r siopau yn galluogi'r RSPB i barhau i warchod bywyd gwyllt. Er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael ymweliad pleserus a diogel, mae angen tîm o wirfoddolwyr i helpu popeth i redeg yn esmwyth. Mae’r gwirfoddolwyr yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr ac yn siarad am y cynhyrchion, fel bwyd adar a theclynnau bwydo. Maent hefyd
yn sicrhau bod y silffoedd wedi cael eu stocio a bod y gofod manwerthu yn lân ac yn daclus. Bydd cefnogaeth a hyfforddiant yn cael eu darparu ond byddai cael y sgiliau neu'r profiad canlynol yn dda: sgiliau cyfathrebu da; mwynhau gweithio fel rhan o dîm; parodrwydd i fod yn hyblyg ac ymgymryd â thasgau gwahanol yn ôl yr angen; profiad manwerthu blaenorol. Mae hon yn rôl werth chweil gyda thîm cyfeillgar lle byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael profiad o weithio yn y diwydiant manwerthu.
Mae’r arian a godir drwy adrannau manwerthu ac arlwyo’r RSPB yn cyfrannu at gadwraeth natur, felly byddwch yn cael boddhad o wneud gwahaniaeth.
|
|
Cynllun Cefnogi Plant Cyn Ysgol Conwy
Mae Cynllun Cefnogi Plant Cyn Ysgol Conwy yn darparu cefnogaeth i rieni / gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol, i gael mynediad i’w cylch chwarae cyn ysgol lleol neu ddarpariaeth feithrin er mwyn gwneud y mwyaf o botensial y plant ar
gyfer chwarae a dysgu. Mae’n gynllun wedi’i sefydlu sy’n cael ei weithredu gan grŵp gwirfoddol profiadol, sydd â’r nod o gynnig dewis o gyfleoedd chwarae cyn ysgol cynhwysol i deuluoedd. Maent yn chwilio am Wirfoddolwyr i ymuno â phwyllgor y cynllun, ac yn benodol Ysgrifennydd a fydd yn gyfrifol am gysylltu â’r cydlynydd. Mae cydlynydd y cynllun yn gweithredu fel cyswllt rhwng y teuluoedd, y lleoliadau a gweithwyr proffesiynol, gan gynnig arweiniad a chymorth. Gallai’r tasgau
eraill gynnwys: gohebiaeth â’r pwyllgor rheoli gan gynnwys cyhoeddi agendâu a dogfennau ategol ar gyfer cyfarfodydd, mynychu a chofnodi cyfarfodydd a’u dosbarthu wedyn. Hoffai’r cynllun hefyd i un o’r gwirfoddolwyr weithio ochr yn ochr â’r Cadeirydd presennol i ddysgu’r rôl hon, gyda’r bwriad o gymryd y rôl hon yn y dyfodol.
|
|
|
|