Amdani Conwy!
Mae prosiect uchelgeisiol i ddatblygu cyfleoedd
gwirfoddoli mewn cymunedau gwledig ac ar gyfer pobl gydag anableddau wedi derbyn £247,000 o gronfa fawreddog Dinas Gwirfoddoli Spirit of 2012.
Fel un o’r ardaloedd ar restr hir statws
Dinas Diwylliant 2025 gwahoddwyd Conwy i wneud cais am gyllid Dinas Gwirfoddoli Spirit of 20121.
Mae Amdani Conwy! (Go Conwy!) yn brosiect partneriaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Creu Conwy, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Disability Arts Cymru, a fydd yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl gydag anableddau ac i greu cyfleoedd gwirfoddoli newydd o fewn ein cymunedau gwledig.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden: “Mae creu rhaglen wirfoddoli yn elfen allweddol o strategaeth diwylliant Creu Conwy.
“Gydag Amdani Conwy! rydym eisiau creu rhaglen wirfoddoli newydd sy’n gynhwysfawr ac yn ymgysylltu, ac yn cefnogi preswylwyr a chymunedau Conwy i ffynnu. Rydym yn dymuno datblygu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n fwy ymatebol, hygyrch, cynhwysol a
llawn hwyl.
“Bydd y cyllid yn gallu trawsnewid o ran gallu creu llysgenhadon diwylliannol gwirfoddol ar draws y sir.”
Bydd Conwy’n derbyn £199,546, gyda chyllid ychwanegol o
£48,305 ar gyfer costau sy’n diddymu rhwystrau ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan, fel costau mynediad.
Disgwylir i’r prosiect bara rhwng dwy flynedd a dwy flynedd a hanner, gan orffen erbyn diwedd Mawrth 2025.
Dywedodd Ruth Hollis, Prif Weithredwr, Spirit of 2012: “Rwy’n falch o gyhoeddi grant ar gyfer Amdani Conwy! (Go Conwy!) heddiw ac yn llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r cais. Rydym yn gwybod ers peth amser sut mae gwirfoddoli yn cyflwyno buddion i bobl, cymunedau a
lleoedd, buddion sydd wir wedi dod i’r amlwg dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r pandemig a chyfnodau clo.
“Mae digwyddiadau mawr fel Dinas Diwylliant y DU a Gemau’r Gymanwlad wedi creu etifeddiaeth gwirfoddoli anhygoel ar gyfer y dinasoedd sydd wedi’u cynnal, ond prin iawn yw’r cyfleoedd mawr hyn. Mae gwaith, egni ac ymroddiad sylweddol yn rhan o waith paratoi ceisiadau Dinas Diwylliant, ac os ydynt yn llwyddiant neu beidio, mae ganddynt y potensial i dyfu a datblygu, a rhoi
cyfle i ‘ddinasoedd’ ategu at ddarpariaeth bresennol i greu rhaglen wirfoddoli yn lleol sy’n gynaliadwy”.
Dywedodd Wendy Jones, Prif Swyddog
CGGC: “Wrth i CGGC ddathlu 25 mlynedd o ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo gweithgarwch gwirfoddoli yng Nghonwy, mae’n bryd i ni edrych at y dyfodol o ran ymgysylltu â’n cymunedau, gan ymgorffori buddion gwirfoddoli mewn cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd sy’n agored ac yn hygyrch i bawb. Mae prosiect cynhwysol newydd Amdani Conwy! yn nodi cais llwyddiannus arall am gyllid a menter ar y cyd gyda chydweithwyr ar draws y sectorau, gan ddefnyddio ein cryfderau i wella lles a chydlyniant
cymunedol yma yng Nghonwy”.
Dywedodd Ruth Fabby MBE, Cyfarwyddwr Disability Arts Cymru: “Mae Disability Arts Cymru yn falch o fod yn rhan o’r
gwaith pwysig hwn i sicrhau fod pobl anabl a Byddar yn gallu cyfranogi mewn digwyddiadau diwylliannol fel gwirfoddolwyr gyda’r lefel briodol o gefnogaeth. Rydym yn gwybod o brofiad bod y cyfleoedd hyn yn cynnig cymaint o safbwynt datblygiad personol ond mae’r prosiect hefyd yn gallu hyrwyddo pobl anabl a Byddar fel arweinwyr yn eu cymunedau.”