Newyddion Croeso i rhifyn mis Chwefror o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
Amdani – prosiect gwirfoddoli Spirit of 2012
Amdani Conwy – prosiect ‘Spirit of’ 2012 – rydym wedi cwblhau’r broses recriwtio ac rydym yn cychwyn yn syth trwy groesawu Jasmine Pilling i swydd Rheolwr Rhaglen Gwirfoddoli Amdani. Daw
Jasmine â phrofiad helaeth o ymwneud â gwirfoddolwyr a rheoli trwy ei chyfnodau gyda CAIS ac yn ddiweddarach Creu Menter o fewn prosiect Gweithio gyda Theuluoedd trwy gronfa’r Loteri Genedlaethol. Dywedodd Jasmine, "Fi yw Rheolwr Rhaglen Gwirfoddolwyr newydd Amdani ar gyfer CGGC yn gweithio mewn partneriaeth â Creu Conwy a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Rwy'n gyffrous iawn am fy rôl newydd ac yn edrych ymlaen at adeiladu rhwydweithiau newydd. Rwyf wedi gweithio mewn partneriaeth â CGGC drwy gydol
fy swydd flaenorol felly mae'n wych dod yn rhan o'u tîm! Mae Celfyddydau Anabledd Cymru wedi penodi David Cleary, artist a churadur sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru ac yn Gymrawd Curadurol Dysgu ac Ymgysylltu presennol ym MOSTYN, Llandudno. Yn flaenorol yn Gydlynydd Dysgu ac Arddangosfeydd yn Oriel Humber Street, mae ei ymarfer curadurol wedi’i wreiddio mewn dysgu, hygyrchedd i gelfyddydau cyfoes mewn daearyddiaeth anghysbell a datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid.
|
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Urdd Gobaith Cymru – Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 Gerddi Clocaenog - Yr Arddorfa
|
|
Yn Ebrill 2022 dyranwyd £15,380.00 i Urdd Gobaith Cymru ar gyfer eu prosiect Gerddi Clocaenog – Yr Arddorfa yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. Bwriad y prosiect oedd datblygu ardal newydd a chyffrous drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc a chydweithio gyda phartneriaid yn ardal Clocaenog ac ar faes Eisteddfod yr Urdd. Gyda arian cronfa Clocaenog llwyddwyd i gynnal gweithdai garddio ar faes yr Eisteddfod, ac yn y gymuned gydag artistiaid profiadol yn arwain. Plethwyd yr holl waith at ei gilydd
er mwyn llwyfannu ardal unigryw o ansawdd uchel ar faes Eisteddfod yr Urdd 2022. Yn rhan o’r prosiect hefyd roedd gwirfoddolwyr o’r gymdeithas arddio leol, Dinbych yn Blodeuo yn rhoi help llaw. Buont yn allweddol fel rhan o’r gweithdai adeiladol o greu’r ardd gyda Sioned Edwards, ac yna cadw trefn ar yr ardd, yn dyfrio a thacluso yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac yn ailblannu’r gerddi yn y gymuned yn dilyn wythnos yr ŵyl.
Llwyddwyd i ddenu 118,000 o ymwelwyr i Faes yr Eisteddfod 2022, ac maent yn amcangyfrif bod canran uchel iawn o’r ymwelwyr wedi ymweld a chael profiad rhyngweithiol o’r gerddi. Dywedodd Lowri Morris, Rheolwr Nawdd a Threfnydd Cynorthwyol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Urdd Gobaith Cymru: Mi fydd effaith a bodolaeth y prosiect yma yn cael ei gofio a’i drysori gan y sawl oedd yn cymryd rhan, ac oherwydd ei lwyddiant, y gobaith yw cynnig yr un math o brofiad ar y maes mewn Eisteddfodau’r dyfodol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y prosiect ar faes yr Eisteddfod yn 2022, maent wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau ‘Art & Business’ Cymru 2023 yn y categori ‘Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd’. Dymunwn pob lwc iddynt.
|
|
Sesiwn Gyllido Galw Heibio Y Ganolfan Llandrillo, 2 Chwefror 2023
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ddatrysiad codi arian ar-lein dim risg, dim ffioedd - a nawr mae gennych reswm ychwanegol i gofrestru - BLWYDDYN gyfan o HelloFresh! Hefyd, os ydych wedi cofrestru a’ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 25 Chwefror byddwch yn cael mynediad at y
wobr atodol genedlaethol ychwanegol i’w hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd. |
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Rhydweithio i Drefnwyr Gwirfoddolwyr Dydd Mercher 8fed o Fawrth 2023
Mae Vision Support yn chwilio am Ymddiriedolwr i ymuno â'u Bwrdd Llywodraethwyr i wneud cyfraniad gwerthfawr at eu cenhadaeth i wella ansawdd bywyd, hyrwyddo annibyniaeth
barhaus a chodi ymwybyddiaeth o bobl â nam ar eu golwg o bob oedran ar draws Sir Caer a Gogledd Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rhan ddylanwadol mewn elusen uchel ei pharch, i ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad i wneud byd o wahaniaeth, ac i fod yn rhan o grŵp cyfeillgar ac angerddol. Maen nhw eisiau ehangu cyfres sgiliau'r Bwrdd ac yn arbennig o awyddus i recriwtio rhywun sydd â phrofiad o Lywodraethu Elusennau, Adnoddau Dynol neu Dechnoleg Gwybodaeth. Byddwch yn mynychu cyfarfodydd
Bwrdd bob deufis a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol unwaith y flwyddyn (wyneb yn wyneb neu’n rhithwir), ac yn rhan o gynllunio strategol, cyllido a gweithdrefnau. Mae'r cyfle hwn ar eich cyfer chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn gwella ansawdd bywyd i bobl â nam ar eu golwg, ac os ydych chi’n barod i rannu eich sgiliau i gefnogi Vision Support i gyflawni ei genhadaeth.
|
|
Ultra-Trail Snowdonia (UTS
Mae Ultra-Trail Snowdonia (UTS) yn dychwelyd i Ogledd Cymru ym mis Mai gyda chyfleoedd anhygoel i wirfoddolwyr gymryd rhan! Yr hyn sy'n gwneud UTS mor unigryw yw ei lwybrau mynyddig gyda phedwar pellter ar gael, yn amrywio o 25km i 100 milltir. Mae holl lwybrau’r ras yn dechrau yn Llanberis ac yn mynd â’r cyfranogwyr ar daith drawiadol o amgylch
mynyddoedd godidog Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys copaon a llwybrau mwyaf nodedig yr ardal. Mae'r tîm y tu ôl i Ultra-Trail Snowdonia yn gobeithio recriwtio 150 o wirfoddolwyr i helpu i gyflwyno'r digwyddiad byd-eang hwn a darparu profiad unigryw i'r 2,000 o gyfranogwyr. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Gwener 12, dydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Mai 2023. Os gallwch chi ymuno â’r tîm am un diwrnod, dau ddiwrnod neu’r tri, bydd eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr! Bydd y
gwirfoddolwyr yn cael eu lleoli ar y llinell ddechrau a’r llinell orffen y tu allan i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, yn ogystal â mewn gorsafoedd cymorth ar sawl pwynt allweddol ledled Eryri. Bydd y gwirfoddolwyr yn cyfarch y cyfranogwyr a’r gwylwyr, yn cyflwyno medalau, yn goruchwylio’r gorsafoedd cymorth gan sicrhau bod popeth yn gweithio’n hwylus yno, ac yn gyrru cerbydau’r digwyddiad - i enwi dim ond rhai o'r tasgau. Mae rhywbeth at ddant pawb ar gael a does dim angen unrhyw brofiad
blaenorol. Ymunwch â'r tîm a helpu i wneud y digwyddiad yma’n llwyddiant mawr!
|
|
Siop Ddodrefn Llandudno Sefydliad Prydeinig y Galon
Mae Siop Ddodrefn Llandudno Sefydliad Prydeinig y Galon yn chwilio ar hyn o bryd am wirfoddolwyr manwerthu. Os ydych chi ar eich hapusaf yn sgwrsio gyda chwsmeriaid ar lawr y siop, yn ffafrio cuddio
yn yr ystafell stoc yn helpu i ddidoli rhoddion, cadw'n heini yn y warws neu'n ymchwilio i eitemau anarferol i'w gwerthu ar eBay - mae ganddyn nhw rôl i chi! Gwirfoddolwyr y Llawr Gwerthu yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid pan fyddant yn dod i mewn i'r siop. Byddwch yn cyfarch cwsmeriaid, yn eu helpu i ddod o hyd i'r eitemau maen nhw’n chwilio
amdanyn nhw ac yn ateb eu cwestiynau, gyda help wrth law gan dîm y siop. Byddwch yn darparu cymorth amhrisiadwy i redeg y siop, gan ei chadw'n llawn gydag arddangosfa ddeniadol. Mae Gwirfoddolwyr y Warws yn cadw'r stoc yn symud o'r fan i'r warws a'r llawr gwerthu, ac yn ôl i'r fan i'w ddosbarthu pan fydd eitemau'n cael eu gwerthu. Gall y rôl hon fod
yn un gorfforol ond nid dim ond symud dodrefn o gwmpas mae’n ei gynnwys. Mae cyfleoedd eraill i helpu, fel logisteg warws, archebu stoc, gosod dodrefn pecyn fflat at ei gilydd, a phrofi eitemau trydanol – fe allwch chi roi cynnig ar wahanol dasgau. Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, neu ddim ond rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol wrth helpu i gyllido ymchwil sy’n achub bywydau yn eich ardal chi, dyma'r lle i chi! Gweld rhywbeth y byddech
chi’n ei fwynhau? Cysylltwch â Gwirfoddoli CGGC ar 01492 523858 neu volunteering@cvsc.org.uk am fwy o wybodaeth.
|
|
|
|