Just Transition to Net Zero Wales: Call for Evidence

Published: Wed, 02/22/23


Please click here for the English text

Annwyl bawb

Ar 6 Rhagfyr 2022 lansiodd Llywodraeth Cymru y Pontio Teg tuag at Sero Net Cymru: Cais am Dystiolaeth a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr.
 
Pwrpas y Cais yw gwella ein dealltwriaeth o effeithiau a chyfleoedd y cyfnod pontio, fel y gallwn ni geisio sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn modd teg. Bydd y Cais am Dystiolaeth yn llywio’r gwaith o ddatblygu llwybr datgarboneiddio Cymru i fod yn sero net erbyn 2050. Mae hefyd yn gam tuag at ddatblygu Fframwaith Pontio Teg i Gymru arfaethedig a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2023.

Mae cyfnodau pontio economaidd blaenorol wedi cael effaith niweidiol ar bobl Cymru, ond nid oes angen i’r pontio i Gymru lanach, wyrddach a thecach fod mor niweidiol. Wrth i gyflymder a graddfa’r camau gweithredu ar yr hinsawdd gynyddu, mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r risgiau sydd ynghlwm wrth gyfnod pontio ‘digynllun’ tuag at sero net. Mae angen i ni sicrhau cyfnod pontio teg a fydd yn cyfoethogi llesiant Cymru ac yn cyfrannu at ffyniant byd-eang a chynaliadwyedd hirdymor, heb wneud yr anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes yn waeth a gobeithio, eu lleihau. Mae cyfleoedd pwysig y gallwn ni fanteisio arnynt o’r broses hon, ond mae hefyd heriau a gwendidau. Felly, er mwyn sicrhau cyfnod pontio teg, mae angen i ni gydnabod y bydd yr effeithiau a’r cyfleoedd yn digwydd i wahanol grwpiau o’r gymdeithas, ar wahanol adegau a gwahanol fannau ar hyd a lled Cymru. Dyma pam rydyn ni’n datblygu’r Fframwaith Pontio Teg - er mwyn cyflawni gweledigaeth sy’n deg ac yn gynhwysol, sy’n cael ei gyrru gan ‘lesiant’ gwell i gymdeithas, ac sy’n dilyn yr egwyddor o ‘beidio â gadael unrhyw un ar ôl’.

Byddem yn croesawu tystiolaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r cwestiynau yn fawr, ond rydym ni wedi amlygu’r cwestiynau isod oherwydd gallent fod yn arbennig o berthnasol o safbwynt cydraddoldeb ac mewn perthynas â mudiadau gwirfoddol yn benodol:
 
Mae’r Cais ar agor tan 15 Mawrth 2023 a hoffem pe bai mudiadau perthnasol â thystiolaeth, e.e. mudiadau’r trydydd sector, y byd academaidd, mudiadau’r sector cyhoeddus, busnesau, undebau llafur ac ati yn ymateb i’r Cais. Byddem felly’n ddiolchgar iawn pe baech chi’n gallu darparu unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi ac anfon y ddolen at eich rhwydweithiau mewnol ac allanol.
 

*************************************************************************
Dear all

On 6 December 2022 Welsh Government launched the Just Transition to Net Zero Wales: Call for Evidence. and we’d really value your input.
 
The Purpose of the Call is to improve our understanding around the impacts and opportunities of the transition, so we can try and ensure it is undertaken in a fair way. The Call for Evidence will inform the development of Wales’s decarbonisation pathway to net zero by 2050. It also provides an initial step towards developing a proposed Just Transition Framework for Wales to be published in 2023.
 
Previous economic transitions have had damaging impacts upon the people of Wales, however, the transition to a cleaner, greener, and fairer Wales does not have to be as damaging. As the speed and scale of climate action increases, it is vital that we address the risks posed by an unplanned transition towards net zero. We need to ensure a fair transition that advances Wales’ wellbeing and contributes to global prosperity and long-term sustainability, without exacerbating existing inequalities and hopefully reducing them. There are significant opportunities that may be grasped from this process, however, there are also challenges and vulnerabilities. Therefore, to ensure a just transition we need to recognise that the impacts and opportunities will happen on different groups of society, at different times and different places across Wales. This is why we are developing the Just Transition Framework to achieve a vision which is fair, inclusive, driven by improved ‘wellbeing’ for society, and the guiding principle of ‘leave no-one behind’.
 
Evidence relating to any of the questions would be very welcome, but I’ve highlighted the questions below as they may be of particular relevance from an equalities perspective and for voluntary organisations specifically:
   
The Call is open until 15 March 2023 and we would like relevant organisations with evidence e.g. third sector organisations, academia, public sector organisations, businesses, and trade unions etc to respond to the Call, so would be very grateful if you could provide any evidence that you have and forward the link to your internal and external networks.


 
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options