Fe wnes i wirfoddoli gyda Phanel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid Conwy gyda phobl ifanc eraill o Sir Conwy.
Fe wnes i wirfoddoli gyda’r Panel am y tro cyntaf rhwng 2017 a 2019. Fe wnes i gymryd bwlch o 3 blynedd i fynd i’r Brifysgol, ac wedyn dychwelyd i’r panel ym mis Mawrth 2022.
Roedd fy mhrofiad i
gyda Phanel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid Conwy wedi fy ngalluogi i ddod i werthfawrogi’r sector elusennol lleol ac wedi rhoi cyfle i mi fod yn rhan o rai prosiectau fy hun. Er enghraifft, yn ystod fy nghyfnod cyntaf ar y Panel, fe wnaethon ni gydweithio i wneud ffilm fer, gan godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern. Fe wnes i hefyd fwynhau’r cyfle i ystyried ceisiadau am arian a bod yn un o’r rhai oedd yn gwneud penderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd yn fy nghymuned leol
i.
Fe roddodd y profiad gwirfoddoli yma sgiliau i mi y gallwn i eu defnyddio yn fy nghais i astudio Cymdeithaseg yn y Brifysgol ac ar fy CV. Fe wnes i ddatblygu fy ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol a wnaeth fy helpu i’n fawr gyda fy nghais.
Yn ogystal, fe wnes i ddod yn ymwybodol o'r broses ymgeisio am grant drwy wirfoddoli gyda'r panel. Fe wnaeth hyn fy helpu i wneud ceisiadau am swyddi, ac rydw i nawr yn gweithio fel Swyddog Grantiau gyda CGGC. Oherwydd y profiad yma roedd gen i'r wybodaeth a'r sgiliau ar gyfer y swydd!
Mae wedi bod yn bleser gwirfoddoli gyda’r panel. Mae gwirfoddoli ochr yn ochr â phobl fy oedran i’n brofiad mor arbennig, ac mae'n wych teimlo ein bod ni wedi gallu cael effaith gadarnhaol ar ein cymuned.
“Pan ddaeth Josephine yn ôl i wirfoddoli ar y Panel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid ar ôl gorffen ei hastudiaethau, roeddwn i’n gyfrifol am y grŵp fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr CGGC. Roedd Josephine yn aelod hynod werthfawr o’r panel, bob amser yn barod i rannu ei phrofiad ag eraill ac i fod yn fentor iddyn nhw. Roedd hi bob
amser yn gwneud ymdrech i ddod i’r cyfarfodydd ac yn cyfrannu at bob trafodaeth. Roedd ei gwylio hi’n magu mwy a mwy o hyder a datblygu sgiliau arwain yn ysbrydoledig iawn. Rydw i’n falch iawn bod y profiad o wirfoddoli gyda’r panel wedi helpu Josephine i gael swydd fel Swyddog Grantiau a nawr fe all barhau i fod yn rhan o CGGC fel aelod o staff.”
Kasia Kwiecien - Cydlynydd Gwirfoddolwyr CGGC