Newyddion gan Betsi Cadwaladr - News from Betsi Cadwaladr

Published: Mon, 12/19/22

Circulated on behalf of Betsi Cadwaladr University Health Board  



 
 
Diweddariad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022 
 
 
1.    Canolbwyntio ar ein blaenoriaethau 
 
Rydym yn edrych ar ein meysydd blaenoriaeth wrth i ni barhau i gynllunio ein gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 
 
Er ein bod yn disgwyl cynnydd yn ein cyllideb o tua 1.5% ar gyfer 2023-24, mae effaith chwyddiant, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ar bron i 11%, yn golygu ein bod yn wynebu toriad yn ein gwariant. Fel yr ydym wedi crybwyll eisoes, mae’r cynnydd mewn costau ynni yn unig yn golygu y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i £30 miliwn yn ychwanegol. 
 
Bydd ein gwaith i wella gwasanaethau sydd wedi’u hamlygu yn ein rhaglen Ymyrraeth wedi’i Thargedu (TI) yn parhau, ond mae’n golygu efallai y bydd yn rhaid i ni droi a chanolbwyntio ar feysydd eraill i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cyrraedd anghenion pobl Gogledd Cymru. 
 
O ran ein gwariant cyfalaf ar welliannau mawr, rydym yn parhau i weithio ar flaenoriaethau ein hystâd, ond mae llawer o hyn yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiectau hyn. 
 
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein cynlluniau wrth iddynt gael eu cyhoeddi. 
 
2.    Gweithredu diwydiannol gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) 
 
Yn dilyn gweithredu diwydiannol gan aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol ddoe, mae diwrnod arall o weithredu wedi’i gynllunio ar gyfer 20 Rhagfyr. 
 
Rydym felly’n ailadrodd ein neges i’r cyhoedd, yn gofyn iddynt beidio â ffonio’r Bwrdd Iechyd i holi am apwyntiadau sydd wedi’u trefnu pan fydd camau diwydiannol yn cael eu cymryd ar y diwrnod hwnnw. 
 
Byddwn yn cysylltu â chleifion os oes unrhyw newidiadau i driniaethau neu apwyntiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer Rhagfyr 20. 
 
Bydd canser a llawdriniaethau brys yn cael eu blaenoriaethu a bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i wneud y defnydd gorau o gyfleusterau cleifion allanol a gofal dydd.  
 
Dylai cleifion sydd i fod i fynychu ein safleoedd acíwt, a’r rhai sydd yn y gymuned, ddydd Mawrth, Rhagfyr 20, fynychu fel arfer, oni bai eu bod yn cael eu cynghori gan ein staff i beidio â gwneud hynny. I unrhyw un a allai gael ei effeithio gan hyn, byddwn yn dod o hyd i ddyddiadau amgen ar eu cyfer. Bydd y rhai sydd ar fin cael llawdriniaeth arall fel cleifion mewnol yn cael eu hailbenodi cyn gynted â phosib. 
 
Mae ein cyfarwyddwr nyrsio gweithredol, Angela Wood, wedi diolch unwaith eto i aelodau o’r cyhoedd am eu dealltwriaeth cyn y gweithredu diwydiannol arfaethedig. 
 
3.    Ap yn cynnig cyngor ar faeth a gweithgarwch corfforol i ferched beichiog 
 
Mae Ap symudol cyntaf o’i fath wedi’i lansio i helpu cefnogi merched beichiog gyda gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol y GIG. 
 
Mae’r Ap o’r enw Foodwise in Pregnancy, yn cynnwys chwe adran i weithio drwyddynt yn eu cyflymder eu hunain, gyda ryseitiau, awgrymiadau siopa a chynlluniwr prydau bwyd, yn ogystal ag ymarferion cam wrth gam sy’n ddelfrydol ar gyfer beichiogrwydd. Mae'r Ap hefyd yn caniatáu i bobl osod nodau trwy gydol eu beichiogrwydd, cofnodi gweithgarwch o ran bwyd ac ymarfer corff, ac mae'n cynnwys gemau rhyngweithiol, cwisiau ac offer. 
 
Mae’r Dietegydd Iechyd Cyhoeddus, Andrea Basu, a dietegydd y Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio gyda Sgiliau Maeth am Oes, sef sefydliad sy’n cynnwys dietegwyr a maethegwyr o Fyrddau Iechyd ledled Cymru, i helpu cynllunio, datblygu ac adolygu cynnwys ar gyfer yr Ap. 
 
Mae rhyddhau’r ap yn ymateb i waith ymchwil Insight yng Ngogledd Cymru, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru a amlygodd y byddai merched beichiog a bydwragedd yn gwerthfawrogi ap er mwyn galluogi mynediad cyflym a hawdd i wybodaeth gyfredol ar bynciau allweddol megis bwyd a maeth. 
 
Mae’r ap Foodwise In Pregnancy ar gael i’w lawrlwytho am ddim o Google Play neu Apple Store, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan 
. 
4.    Galw ar wirfoddolwyr i hybu ymchwil feddygol 
 
Mae Canolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (NWCRF) yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn datblygu cronfa ddata diogel o wirfoddolwyr a chleifion sy'n fodlon i ni gysylltu â nhw am brosiectau ymchwil yn y dyfodol. 
 
Gwaith ymchwil yw’r unig ffordd o wella ein dealltwriaeth o salwch ac i ddatblygu gwell triniaethau. 
 
Mae’r gronfa ddata Consent 4 (C4C) yn gronfa ddata mewnol diogel o gleifion a gwirfoddolwyr sy’n dymuno cael eu hystyried fel cyfranogwyr posib ar gyfer prosiectau ymchwil. Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o NWCRF fydd yr unig bobl fydd â mynediad at y wybodaeth. 
 
Dywedodd Dr Orod Osanlou, Cyfarwyddwr NWCRF a Meddyg Ymgynghorol mewn ffarmacoleg glinigol a therapiwteg, meddygaeth fewnol: “Rydym yn annog gwirfoddolwyr a chleifion i gofrestru i gymryd rhan yn ein prosiectau ymchwil. Ar gyfer bron pob darn o ymchwil, mae cymorth gwirfoddolwyr er mwyn datblygu’r gweithdrefnau hyn a chanfod a ydynt yn effeithiol.” 
 
Bydd rhai astudiaethau hefyd yn digolledu’r gwirfoddolwyr am unrhyw gostau teithio ac anghyfleustra. 
 
Ers i'r ganolfan ymchwil agor, mae'r cyfleuster wedi cynnal amryw o brosiectau ymchwil ar raddfa genedlaethol, gan gynnwys treialon brechlyn COVID-19, astudiaethau atgyfnerthu ac ymchwil imiwnedd. Mae’r ganolfan hefyd yn cydweithio â sefydliadau ymchwil blaenllaw fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, prifysgolion, ac ymddiriedolaethau Prifysgolion y GIG. 
 
Dylai unrhyw un sy’n dymuno ymuno â’r gronfa ddata C4C gysylltu â thîm ymchwil NWCRF drwy ffonio 03000 858032 neu drwy e-bostio BCU.NWCRFParticipant@wales.nhs.uk. 
 
5.    Apêl Nadolig Kenya 
 
Y Nadolig hwn, mae apêl ‘Shillings for Sheets’ yn cael ei ail-lansio gan Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru, i godi arian i brynu cynfasau gwely angenrheidiol ar gyfer ysbyty yn Kenya sydd â chysylltiadau â Gogledd Cymru. 
 
Pan lansiwyd yr apêl ddiwethaf yn ôl yn 2019, codwyd swm anhygoel o £2,700, gan brynu 170 o gynfasau gwely ar gyfer Ysbyty Cyfeirio Sir Busia, diolch i haelioni pobl Gogledd Cymru. 
 
Ar y pryd, nid oedd unrhyw gynfasau gwely ar welyau’r prif wardiau yn yr ysbyty, felly nid oedd y cleifion yn gallu gorchuddio’u hunain er mwyn cadw’n gynnes neu i gynnal eu hurddas. 
 
Y flwyddyn hon, mae’r cyswllt Iechyd Betsi Kenya yn gobeithio codi arian i brynu cynfasau ar gyfer ward y newydd-enedig a ward y plant. Gellir gwneud rhodd i Awyr Las drwy Awyr Las | Shillings for Sheets. 
 
6.    Tywydd rhewllyd yn gweld cynnydd mewn anafiadau 
 
Rydym yn atgoffa pobl i gymryd gofal wrth i’r tywydd oer achosi mewnlifiad yn y nifer o anafiadau sy’n gysylltiedig â’r rhew, gan ychwanegu at y pwysau sydd ar yr adrannau man anafiadau. 
 
Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu ein Hunedau Man Anafiadau (MUIs) ac Adrannau Achosion Brys gydag anafiadau sy’n gysylltiedig â rhew, ac mae hyn yn bwysau ychwanegol ar wasanaethau sydd eisoes dan straen sylweddol. Rydym yn annog unrhyw un sydd wir angen mynd allan yn y tywydd rhewllyd i gymryd gofal arbennig, ac i gofio gwisgo dillad cynnes ac esgidiau sy’n gallu gwrthsefyll y rhew.  
 
 
 
   
Betsi Cadwaladr University Health Board update Friday 16 December 2022 
 
 
1.    Focussing on our priorities 
 
We are looking at our priority areas as we continue to plan our services for the next financial year. 
 
Although we are expecting an increase in our budget of about 1.5% for 2023-24, the effect of inflation which is currently running at almost 11% means that we are facing a real terms cut in our expenditure. As we’ve already mentioned, the rise in energy costs alone means that we will have to find an additional £30 million. 
 
Our work to improve services that have been highlighted in our targeted intervention programme will continue, but it does mean that we may have to refocus on other areas to ensure our services meet the needs of the people of North Wales. 
 
In terms of our capital spending for major improvements we are continuing to work on our estate priorities, but much of this is dependent on the availability of funding from Welsh Government for these projects. 
 
We will keep you fully informed of our plans as they are published. 
 
2.    Industrial action by the RCN 
 
Following the industrial action taken by members of the Royal College of Nursing yesterday, a further day of action is planned for 20 December. 
 
We’re therefore repeating our message to the public, asking them not to call the Health Board enquiring about any planned appointments when industrial action is taken on that day. 
 
Patients will be contacted if there are any changes to treatment or appointments arranged around December 20. 
 
Cancer and urgent surgery will again be prioritised and that the Health Board will continue to maximise the use of outpatient and day care facilities. 
 
Patients due to attend our acute sites and those in the community on Tuesday, December 20, should attend as normal, unless advised by our staff not to do so. For anyone affected, alternative dates will be found. Those due to undergo some other planned inpatient surgery will be reappointed as soon as possible. 
 
Our executive director of nursing Angela Wood has again thanked members of the public for their understanding ahead of planned industrial action. 
 
3.    App offers pregnant women nutritional and physical activity advice 
 
A first of its kind mobile App has been launched to help support pregnant women with information from NHS professionals. 
   
The App called Foodwise in Pregnancy, includes six sections to work through at their own pace with recipes, shopping tips and a meal planner, as well as step-by-step exercises ideal for pregnancy. The App also allows people to set goals throughout their pregnancy, record food and exercise activity, and includes interactive games, quizzes, and tools. 
 
Public Health Dietitian Andrea Basu and the Health Board’s dietetic have been working with Nutrition Skills for Life, which is an organisation made up of dietitians and nutritionists from Health Boards across Wales, to help plan, develop and review content for the App. 
 
The App’s release responds to Insight research work within North Wales, led by Public Health Wales which highlighted that both expectant women and midwives would value an App to enable quick and easy access to current information on key topics like food and nutrition. 
 
The Foodwise In Pregnancy App is free to download from Google Play or Apple Store and you can find more information on our website. 
 
4.    Volunteers needed to boost medical research 
 
North Wales Clinical Research Facility (NWCRF) based at Wrexham Maelor Hospital is developing a secure database of volunteers and patients who are willing to be contacted about future research projects. 
 
Research is the only way to improve our understanding of illnesses and to develop better treatments. 
 
The database called Consent 4 Consent (C4C) is an internal secure database of patients and volunteers who wish to be considered as potential participants for research projects. Healthcare professionals from NWCRF will be the only people to have access to the information. 
 
Dr Orod Osanlou, Director of NWCRF and Consultant in clinical pharmacology and therapeutics, internal medicine, said: “We are encouraging volunteers and patients to sign up to take part in our research projects. Nearly all research needs the help of volunteers in order to develop these procedures and find out whether they are effective.” 
 
Some studies will also compensate volunteers’ expenses for travel and inconvenience. 
  
Since the research centre first opened the facility has conducted various national scale research projects including COVID-19 vaccine trials, booster studies and immunity research. The centre also collaborates with leading research organisations such as Public Health Wales, universities, and NHS University trusts. 
 
Anyone who wishes to join the C4C database should contact the NWCRF research team via 03000 858032 or email BCU.NWCRFParticipant@wales.nhs.uk.  
 
5.    Christmas appeal for Kenya 
 
This Christmas, the ‘Shillings for Sheets’ appeal is being relaunched by the North Wales NHS Charity Awyr Las to raise money to buy much needed bedsheets for a hospital in Kenya with links to North Wales. 
 
When the last appeal was launched in 2019 an incredible £2,700 was raised, buying 170 precious bedsheets for the Busia County Referral Hospital, all thanks to the generosity of the people of North Wales. 
 
At the time no beds on the main wards at the hospital had any bedsheets, meaning the patients weren’t able to cover themselves to keep warm or to maintain their dignity. 
 
This year the Betsi Kenya Health Link is hoping to raise money to buy sheets for the neonatal and children’s ward. Donations to Awyr Las can be made at Awyr Las | Shillings for Sheets 
 
6.    Icy weather sparks rise in injuries 
 
We’re reminding people to take care during the cold snap as the cold weather has led to an influx in the number if ice-related injuries adding to the pressure on minor injuries departments. 
 
We have seen an increase in people attending our MIUs and Emergency Departments with ice-related injuries and this is putting additional pressure on services which were already under significant strain. We urge anyone who really needs to venture out in icy weather to take extra care and remember to wear warm clothes and non-slip shoes. 
 
 
 
 
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options