Annwyl bawb,
Mae Cronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru ar gael ar gyfer 2023/24 - cyfle i
sefydliadau wneud cais am gyllid rhwng £500 a £5,000 i gefnogi cydlyniant cymunedol mewn cymunedau.
Bydd ceisiadau ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn gymwys.
Mae’r dogfennau amgaeedig yn esbonio at beth y gellir defnyddio'r grant, pwy all wneud cais a'r gofynion o ran cyflwyno cais.
Gofynnir i gydweithwyr yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus gylchredeg yr e-bost hwn i unrhyw sefydliadau priodol yn eich ardal.
Os ydych yn grŵp gwirfoddol neu gymunedol, a fyddech cystal ag ystyried rhannu’r e-bost hwn â chyd-wirfoddolwyr neu sefydliadau neu weithwyr trydydd sector.
Y dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais am grant yw hanner dydd, dydd Mercher 10 Mai, 2023.
Ffurflen gais
Os oes gennych unrhwy gwestiynau neu ymholiadau cysylltwch gyda communitycohesion@ynysmon.llyw.cymru