Webinar: Introduction to Safeguarding | Gweminar: Cyflwyniad i Ddiogelu

Published: Tue, 03/14/23

 
 
 
Cylchredwyd ar ran CGGC /Circulated on behalf of WCVA


Gweminar: Cyflwyniad i Ddiogelu

21 Mawrth 2023 | 2 pm – 3 pm

Bydd hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Bydd y weminar hon yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i fynychwyr i bolisïau, egwyddorion ac arferion diogelu yng nghyd-destun Cymru. 

Amcanion

Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol, yn enwedig i’r rheini sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. Mae prosesau diogelu da a phriodol yn rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd am eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da’r sector yn gyffredinol. 

Cynnwys

Ymunwch â Thîm Diogelu CGGC i gael cyflwyniad i Ddiogelu. Bydd y weminar yn rhoi dadansoddiad o’r ddeddfwriaeth, y canllawiau a’r pethau sydd wrth wraidd diogelu yng Nghymru i fynychwyr ac yn edrych ar yr egwyddorion a’r arferion y dylid eu rhoi ar waith yn eich mudiad. 

Yn ystod y weminar hon, bydd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC, yn edrych ar negeseuon diogelu allweddol. Bydd amser ar ddiwedd y weminar i ofyn cwestiynau.

Noder: bydd y weminar hon yn rhan o gyfres gylchol ac yn cael ei hailadrodd heb unrhyw newidiadau.  

Canlyniadau dysgu

Negeseuon allweddol o ran polisïau ac arferion wrth ddiogelu mewn mudiadau gwirfoddol  

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac elusennau.Gweminar: Cyflwyniad i Ddiogelu - CGGC (wcva.cymru)

Hefyd ar y gweill yn fuan...

Rheoli risg
30 Mawrth 2023 | 9.30 am – 12.30 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg 


Hwb Gwybodaeth 
Os ydych chi’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae’r Hwb Gwybodaeth newydd yn rhoi mynediad hawdd i chi at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein. Cofrestrwch am ddim

Torf-gyllido hyfforddiant

Y cwrs cywir ond yn y lleoliad neu iaith anghywir? Os gwelwch gwrs sy’n ennyn eich diddordeb yn y rhaglen hyfforddi hon neu rywle ar ein gwefan ond nid yw’n cael ei gynnal mewn lleoliad cyfleus neu byddai’n well gennych wneud y cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yna mae croeso i chi gysylltu â ni. Os gallwch ddod o hyd i ddiddordeb yn y cwrs yn eich ardal yna gallwn ni ddod atoch chi a’ch helpu i’w hyrwyddo hefyd.

Hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi’u teilwra

Gallwn ni ddod atoch chi! Mae modd cynnal pob un o’n cyrsiau yn arbennig i chi yn eich mudiad. Mae hyn yn aml yn rhatach gan ddibynnu ar y niferoedd. Mae cyrsiau Cymraeg a dwyieithog hefyd ar gael. Gallwn weithio gyda mudiadau ledled Cymru a Lloegr.

Cymryd Rhan

I weld manylion llawn y cwrs, gan gynnwys prisiau a faint o leoedd sydd ar gael, cliciwch ar ddyddiad y cwrs neu cysylltwch â'n Lein Gymorth 0300 111 0124 neu training@wcva.cymru

Aim

Safeguarding should be a priority for all voluntary organisations, especially those that work with children, young people and adults at risk. Good and appropriate safeguarding provides public reassurance about your organisation and contributes to the positive reputation of the sector in general. 

This webinar will provide attendees with a basic introduction to safeguarding policy, principles and practice in the Welsh context.

Content

Join WCVA’s Safeguarding Team for an introduction to Safeguarding, the webinar will provide attendees with a breakdown of the underlying foundations, legislation and guidance for safeguarding in Wales and explore the principles and practice to put in place in your organisation. 

During this webinar Suzanne Mollison, WCVA’s Safeguarding Officer will explore key safeguarding messages. There will be time at the end of the webinar for questions.  

Please note: this webinar will be part of a recurring series and will be repeated and unchanged.  

 

Learning outcomes

Key messages for policy and practice in delivering safeguarding in voluntary organisations 

Who this course is for

Voluntary organisations, community groups and charities Webinar: Introduction to Safeguarding  - WCVA

Also coming up... 

Risk management 
30 March 2023 | 9.30 am – 12.30 pm
Delivered through the medium of Welsh 


Knowledge Hub 
If you work in the voluntary sector in Wales the new Knowledge Hub gives you easy access to a range of online information, networking and learning.

Register for free






Crowd sourcing training
The right course but in the wrong location or language? If you see a course that interests you on this training programme or more widely on our website but it is not being delivered in a location convenient for you or you would rather it be delivered in Welsh or bilingually then please do get in touch. If you can find interest for the course in your area then we can come to you and help you to promote it too.
Bespoke training and consultancy
We can come to you! All our courses can be delivered to you in your own organisation and it often works out to be cheaper depending on numbers. Welsh and bilingual courses are also available.
Get involved

To view full course information including prices and places available, please click course date or contact our helpdesk on 0300 111 0124 or training@wcva.cymru



Bydd y weminar hon yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i fynychwyr i bolisïau, egwyddorion ac arferion diogelu yng nghyd-destun Cymru
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options