Newyddion Croeso i rhifyn mis Ebrill o fwletin newyddion CGGC!
Hoffai CGGC ddymuno Pasg hapus i bawb!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Unwaith eto mae CGGC yn hepgor ein ffioedd aelodaeth ar gyfer 2023/24 i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn ein gwybodaeth aelodaeth blaenoriaeth, ein canllawiau a'n cyfleoedd
cyllido mewn modd di-dor. Byddwn felly’n cario eich aelodaeth drosodd, ond rydym yn gofyn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni yngŷd a unrhyw newidiadau a diwygiadau i’ch
sefydliad neu eich gwybodaeth gyswllt – fel bod y person cywir wedyn yn gallu rhaeadru’r wybodaeth yn briodol – ac fel ein bod yn gallu parhau i gydweithio a chefnogi defnyddwyr ein gwasanaeth hyd eithaf ein gallu. Darllenwch fwy am aelodaeth a cewch fynediad i'n ffurflen gais isod, er hwylustod i chi, os bydd angen i chi wneud unrhyw newidiadau. Gallwch hefyd ddiweddaru eich manylion ar-lein yn: CVSC - CGGC Aelodaeth
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol
yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I
archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ddatrysiad codi arian ar-lein dim risg, dim ffioedd - Mae'n Sefyllfa Ennill Pan Byddwch yn Chwarae Loto Lwcus. Cofrestrwch a chefnogwch achos da heddiw ac nid yn unig bydd
gennych siawns o ennill gwobrau ariannol wythnosol o hyd at £25,000, os ydych wedi'ch cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 29 Ebrill byddwch yn cael mynediad at y wobr atodol genedlaethol ychwanegol i'w hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd - bwndel technoleg Apple anhygoel, gan gynnwys iPhone 14 Pro o'r radd flaenaf a chyfres Apple Watch 8! Mae pawb ar eu hennill, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr yno i gefnogi’ch achos – dim ond bonws
ychwanegol yw’r siawns o gael gwobr! |
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Llongyfarchiadau i'n Panel Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc sydd wedi ennill gwobrau!
Mae CGGC yn falch iawn o gyhoeddi bod Panel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid Conwy wedi derbyn Gwobr Gymunedol yr Uchel Siryf ar gyfer y Categori Gwirfoddoli Grŵp, i gydnabod eu hymrwymiad a’u
brwdfrydedd yn gwirfoddoli i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc eraill yn eu cymunedau. Cynrychiolodd dau aelod o'r panel y grŵp a mynychu’r seremoni wobrwyo yn Nhŷ Hanesyddol Nantclwyd y Dre yn Rhuthun,
ddydd Sadwrn 25ain Mawrth ynghyd â Phrif Swyddog CGGC, Wendy Jones, a Chydlynydd Gwirfoddolwyr CGGC, Kasia Kwiecien. Cafodd y ddau y Dystysgrif gan Uchel Siryf Clwyd, Zoë Henderson
|
|
Ffair Gwirfoddoli 11eg o Fai 2023
Digwyddiad Dathlu 6ed o Fehefin 2023
Siop Cyngor ar Fudd-daliadau
Mae’r Siop Cyngor ar Fudd-daliadau yn
elusen annibynnol sy’n darparu help a chefnogaeth oherwydd newidiadau a heriau cyson y system Budd-daliadau Lles. Ar hyn o bryd maen nhw’n chwilio am Wirfoddolwyr i gynorthwyo cleientiaid i lenwi ffurflenni budd-daliadau yn eu prif swyddfa yn y Rhyl, yn ogystal ag yn ystod allgymorth ym Mhrestatyn, Bae Colwyn ac Abergele. Os oes gennych chi sgiliau
pobl da, agwedd anfeirniadol ac os hoffech chi roi rhywbeth yn ôl i'r Gymuned, gallai hwn fod yn gyfle i chi. Rhoddir Hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad llawn. Maen nhw hefyd yn chwilio am aelodau i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr. Y cyfan sydd arnoch ei angen yw eich profiad, sgiliau bywyd a brwdfrydedd. Caiff treuliau eu had-dalu i wirfoddolwyr.
Mae Hosbis Sant Kentigern yn elusen leol sy’n darparu gofal a chymorth i gleifion sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Os hoffech eu helpu i barhau â’r gwasanaeth gwerthfawr yma, beth am ddod yn Wirfoddolwr Manwerthu? Mae siopau elusen ym Mae Colwyn, Hen Golwyn ac Abergele yn croesawu gwirfoddolwyr newydd sy'n
dymuno gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer yr hosbis a helpu i godi arian hanfodol. Mae’n rôl gymdeithasol wrth galon y gymuned, wrth i wirfoddolwyr manwerthu ymestyn yr ethos gofalgar i ddefnyddwyr y siop drwy ddarparu croeso cynnes a rhoi amser i wrando ar eu profiadau. Mae’r enghreifftiau o’r tasgau yn cynnwys y canlynol: • Didolwr diguro – hoffi didol a rhoi trefn ar bethau? Oes gennych chi lygad am yr hyn sy'n boblogaidd a beth sydd ddim? Cyfle i fynd drwy stoc sydd newydd ei gyfrannu a'i baratoi i'w werthu. • Trefnyddion y Til – gweithredu'r til a gwasanaethu cwsmeriaid. Yn ddelfrydol os ydych chi'n gyfeillgar, yn wych gyda phobl ac yn gallu meddwl ar eich traed. • Addurnwyr ffenestri ffantastig - oes gennych chi ddawn greadigol neu sgiliau marchnata gweledol i greu ffenestri siopau gwych ac arddangosfeydd trawiadol yn y siop? Mae'r rôl yma ar eich cyfer chi! Mae hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus yn cael eu darparu.
|
|
Mae Hope Restored yn Llandudno yn helpu pobl ddigartref a phobl llai ffodus na ni. Maen nhw’n darparu bwyd poeth, a hefyd unrhyw hanfodion sylfaenol mae pobl eu hangen. Ond yn bwysicach na dim, maen nhw’n parhau i roi’r gefnogaeth a’r gobaith y mae dirfawr ei angen ar bobl. Maen nhw ar hyn o bryd yn chwilio am Wirfoddolwyr Banc Bwyd i
helpu gyda didoli’r rhoddion a rhoi parseli bwyd at ei gilydd, ond hefyd i gynorthwyo gyda’u ‘Boreau Galw Heibio’ cyfeillgar lle mae’r tasgau’n cynnwys cadw llygad barcud ar bethau, helpu gyda dosbarthu nwyddau, paratoi te a choffi ar gyfer y bobl sy’n defnyddio'r gwasanaeth 'Galw Heibio' a bod yn wyneb cyfeillgar.
|
|
Ymunwch a'n panel Grantiau dan Arweiniad Pobl
Ifanc! Beth yw'r Panel Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc? Pwrpas y Panel Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc yw dosbarthu Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc WCVA yng Nghonwy. Rydym yn dadansoddi ceisiadau grant gan bobl ifanc (14-25) sy'n ymwneud â sefydliadau gwirfoddol lleol. Rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant yng nghyfarfodydd y panel, fel Ymwybyddiaeth o Ddiogelu, GDPR, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Chymorth Cyntaf. Rydym hefyd yn gyfrifol am yr ymgyrch hyrwyddo ar gyfer y grant, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chyfweliadau radio. Mae gennym gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd o wahanol gefndiroedd, ac ymweld â phrosiectau rydym wedi dyfarnu
cyllid iddynt. Cynhelir ein cyfarfodydd bob pythefnos yn swyddfa CGGC ar Rhiw Road, Bae Colwyn. |
|