Cyfleoedd i ddefnyddio datrysiadau seiliedig ar natur trwy grant newydd CNC/Opportunities for using nature-based solutio

Published: Fri, 06/23/23


Rydym yn anfon yr e-bost hwn er mwyn rhannu gwybodaeth am y Grant Dichonoldeb newydd ar gyfer Draenio Cynaliadwy a dangos lle gallwch fynd i gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn.  

Mae'r Grant Dichonoldeb ar gyfer Draenio Cynaliadwy wedi cael cyllid o £450,000 gan y Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr i gefnogi datblygiad cynlluniau draenio trefol cynaliadwy ar raddfa fach neu gynlluniau draenio cynaliadwy (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel SuDS) yng Nghymru.

Gwybodaeth allweddol:
  • Mae gan CNC gronfa o £450,000 ar gyfer grantiau datblygu dichonoldeb rhwng £25,000 a £40,000.
  • Gall ymgeiswyr ofyn am hyd at 100% o gostau'r prosiect.
  • Bydd CNC yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio arian cyhoeddus i gyflawni ein polisi.
  • Bydd arian cyfatebol yn cael ei ystyried yn fanteisiol. Gall arian cyfatebol gynnwys: cyfraniad ariannol, amser gwirfoddolwyr ac amser staff.
  • Rydym yn derbyn ceisiadau o 19 Mehefin 2023 ar wefan CNC yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfleoedd cyllid grant presennol.
  • Rhaid i ymgeiswyr wneud cais cyn hanner nos 23:59 ar 25 Medi 2023.
  • Nod CNC yw rhoi penderfyniad i ymgeiswyr ar eu cais erbyn mis Rhagfyr 2023.
  • Y dyddiad olaf i hawlio fydd 28 Chwefror 2025.
  • Cynhelir gweminarau ar gyfer ein rhanddeiliaid a'n partneriaid allanol ddydd Llun 10 Gorffennaf. Cofrestrwch ar ein gwefan.

Ffynonellau tystiolaeth defnyddiol:
Beth fyddwn ni'n ei gefnogi gyda'r cyllid:
Bydd CNC yn ariannu astudiaethau dichonoldeb sy'n cyd-fynd ag amcanion canlynol y rhaglen:
 
  1. Datblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cynlluniau rheoli dŵr wyneb/draenio cynaliadwy ar raddfa fach, wedi’u hailosod, a fyddai'n rheoli dŵr glaw, yn cynnig gwytnwch ar gyfer y rhwydweithiau carthffosiaeth ac yn gwella ansawdd dŵr.
2.      Gwella bioamrywiaeth ac ecoleg drwy                       ddatrysiadau seiliedig ar natur.
  1. Cynnig buddion o ran iechyd, lles ac amwynder.
 
  1. Cefnogi/gwreiddio cydweithredu â'r gymuned.
 
  1. Cynnwys technegau arloesol neu newydd sy'n gwella dulliau gweithredu cyfredol ac yn darparu tystiolaeth newydd.
 
  1. Cyfrannu at leihau allyriadau carbon.

Rhaid i'r prosiect fod yng Nghymru hefyd - yn achos unrhyw gynigion trawsffiniol, dim ond yr elfen Gymreig y byddwn yn ei hystyried.

Dylid cyfeirio pob ymholiad grant a phroses ymgeisio at: grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Caniatewch 48 awr i gael ymateb cychwynnol
 

This email is to share information about the new Sustainable Drainage Feasiblity Grant, and shows where you can go to get further information about this grant.  

The Sustainable Drainage Feasiblity Grant, has been funded £450,000 by the Water Quality Capital Programme to support the development of small-scale sustainable urban drainage schemes or sustainable drainage schemes (collectively referred to as SuDS) in Wales.


Key information:
  • NRW has developed a fund of £450,000 to be made available for feasibility development grants between £25,000 - £40,000.
  • Applicants can ask for up to 100% of the project costs.
  • NRW will consider value for money when they make decisions about using public money to deliver our policy.
  • Match funding will be viewed favourably. Match funding can include: cash contribution, volunteer time and staff time.
  • We're accepting applications from 19 June 2023 on the NRW website here: Natural Resources Wales / Current grant opportunities.
  • Applicants must apply before midnight 23:59 on 25 September 2023.
  • NRW aim to give applicants a decision on their application by December 2023.
  • The final claim date will be 28 February 2025.
  • Webinars for our external stakeholders and partners will be held on Monday 10th July. Register on our website.
Useful evidence sources:

What we will Support with the Funding:
NRW will fund feasibility studies that align with the following programme objectives:
 
  1. To develop feasibility studies for retro-fit, small scale sustainable drainage/surface water management schemes that would manage rainwater, offer resilience for the sewerage networks and improve water quality.
 
  1. Enhance biodiversity and ecology through nature-based solutions.
 
  1. Provide health, well-being, and amenity benefits.
 
  1. Support/embed collaboration with the community.
 
  1. Include innovative or novel techniques that improve current approaches and provide new evidence.
 
  1. Contribute to reduction of carbon emissions.


The project must also be in Wales - for any cross-border proposals, we will consider only the Welsh element.

All grant queries and application process should be directed to: grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Please allow 48 hours for an initial response
 
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options