Rheolir y Grant Dan Arweiniad Ieuenctid gan CVSC ar ran WCVA a Llywodraeth Cymru.
Nod y cynllun Grant Dan Arweiniad Ieuenctid yw cefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli bach, sy'n cael eu harwain a'u cynnal gan bobl ifanc yng Nghonwy.
Pwrpas y grant yw grymuso pobl ifanc i ddatblygu mentrau eu hunain; cymryd rôl weithredol yn eu cymunedau ac yn cynnwys/recriwtio pobl ifanc i gymryd
rhan.
Mae grantiau o hyd at £3000 ar gael i gefnogi gwirfoddoli neu sefydlu gweithgaredd gwirfoddoli.
Mae dau fath o brosiectau y gallwch wneud cais amdanynt:
- Prosiect 6 mis: Hyd at £1500. Rhaid ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.
- Prosiect estynedig: Hyd at £3000 (wedi'i dalu mewn 2 randaliad). Rhaid ei gwblhau erbyn 28 Chwefror 2025.
Dewisir ac argymhellir ceisiadau gan banel o bobl ifanc
rhwng 14-25 oed.