Mae'r Wythnos Gwirfoddolwyr yn digwydd yn fuan iawn!
Fel rhan o ddathliadau'r Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, rydym yn cynnal
Digwyddiad Dathlu arbennig, i gydnabod a gwobrwyo cyfraniad rhagorol gwirfoddolwyr yn ein cymunedau. Hoffem eich annog i ddangos eich gwerthfawrogiad i’r bobl anhygoel hynny sy’n helpu eich sefydliad i ffynnu, drwy eu henwebu ar gyfer Tystysgrifa Cydnabyddiaeth yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr.
Bydd y gwirfoddolwyr gaiff eu henwebu yn cael eu cyflwyno gyda’r dystysgrif yn ystod ein Digwyddiad Dathlu, sy'n cael ei gynnal yn brydlon am 6yh ar y 6ed o Fehefin 2023 yn Neuadd Gymunedol Trinity, Trinity Avenue, Llandudno, LL30 2TQ.
I enwebu gwirfoddolwr llenwch y ffurflen sydd wedi'i hatodi neu ein ffurflen ddigidol YMA
Er mwyn sicrhau na fyddwn yn mynd y tu hwnt i nifer y
cyfranogwyr, byddwn yn gwahodd hyd at 3 wirfoddolwr ac 1 aelod o staff o bob sefydliad. Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw ofynion penodol sydd eu hangen.
Dychwelwch eich ffurflenni enwebu wedi'u llenwi erbyn dydd Gwneer, Mai 26ain 2023.
Mae croeso i chi enwebu mwy o wirfoddolwyr a chasglu tystysgrifau ar eu cyfer ar y diwrnod. Byddem hefyd yn hapus i ymweld â nhw yn eu lleoliad gwirfoddoli a chyflwyno'r tystysgrifau.