Gyda'n gilydd gallwn – creu'r amodau i rymuso ein cymunedau i ffynnu/Together we can–creating the conditions to emp

Published: Tue, 05/30/23



Cylchredwyd ar ran Archwilio Cymru / Circulated on behalf of Audit Wales

Annwyl bawb/ Dear all


Mae nodyn i’r dyddiadur ar gyfer seminar rhannu dysg sy’n cael ei chynnal gan dîm y Gyfnewidfa Arfer Dda yn Archwilio Cymru isod. Byddwn yn gwerthfawrogi os gallech chi rhannu hwn gydag unrhyw un fyddai â diddordeb.

Mae’r digwyddiad arlein, ac mae gennym raglen gyffrous ar eich cyfer.


Please find a diary marker of a shared learning seminar that is being run by the Good Practice Exchange team at Audit Wales below. If you would please share this with anybody who may be interested that would be much appreciated.

The event is an online, and we have an exciting programme prepared.

Llawer o ddiolch/ Many thanks
 

Gyda'n gilydd gallwn – creu'r amodau i rymuso ein cymunedau i ffynnu

Bydd y digwyddiad dysgu ar y cyd hwn yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth. Byddwn yn rhannu canfyddiadau ein hadroddiadau ar fentrau cymdeithasol a gwydnwch cymunedol, gan gynnwys ein hargymhellion wrth symud ymlaen.
Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o ddulliau gweithredu gan sefydliadau yng Nghymru a'r DU sy'n cael effaith wirioneddol ar draws cymunedau.
Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi wynebu pwysau sylweddol, gan ddelio ag argyfwng ar ôl argyfwng, sydd wedi newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Gwnaeth gyni roi gallu llywodraeth leol i newid ac ymateb ar brawf.
Addasodd awdurdodau lleol yn dda wrth ymateb i'r her hon, gan ddyfeisio a gweithredu ystod o fesurau effeithlonrwydd a oedd yn lleihau cost gwasanaethau, ond hefyd dod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio.
Ond erbyn hyn, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu eu heriau mwyaf sylweddol ers cenhedlaeth. Eisoes mae gan Gymru rhai o'r lefelau tlodi mwyaf a dyfnaf ym Mhrydain Fawr ac mae cymunedau'n wynebu argyfwng costau byw. Ynghyd â rhagolygon ariannol heriol a phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n amlwg y bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gynnal gwasanaethau a pharhau i ategu'r gymuned ehangach ac yn arbennig y rhai sydd fwyaf mewn angen.
Gwnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ddiweddar.

oedd ein hadroddiad cyntaf yn darparu llinell sylfaen sy'n dangos mai tlodi yw'r her fawr sy'n wynebu pob haen o lywodraeth. Gyda'r cyd-destun hwn mewn golwg, edrychodd ein hail adroddiad ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithio i dyfu ac ehangu mentrau cymdeithasol i helpu llywodraeth leol i ddarparu mwy o wasanaethau a lleihau'r galw. Yn olaf, canolbwyntiodd ein trydydd adroddiad ar ddeall sut mae awdurdodau lleol yn creu'r amodau sydd eu hangen i drawsnewid ffyrdd o weithio a grymuso cymunedau i ffynnu mor annibynnol â phosibl.


Nod ein hargymhellion yw ategu awdurdodau lleol i ddefnyddio ein hadroddiad i hunan-werthuso cyfathrebu, rheoli, perfformiad ac ymarfer cyfredol er mwyn nodi lle mae angen gwella.

Ble a phryd
10:00 – 12:00

Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

Rhennir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Dylech sicrhau eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cadw lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch chi.

Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad, anfonwch e-bost i good.practice@audit.wales
 
 
Together we can – creating the conditions to empower our communities to thrive

This shared learning event will bring people together from across public services to share ideas, learning and knowledge. We will share the findings of our reports on social enterprises and community resilience, including our recommendations going forward.

We will also share examples of approaches being taken by organisations within Wales and the UK that are having real impact across communities.

In the last 15 years, local government in Wales has faced significant pressures, dealing with crisis after crisis, which has changed the way services are provided. Austerity tested local government’s ability to change and react.

Local authorities adapted well in responding to this challenge, devising and implementing a range of efficiency measures that reduced the cost of services, but also finding innovative ways of working.
 
However, public services now face their most significant challenges in a generation. Wales already has some of the greatest and deepest levels of poverty in Great Britain and communities are facing a cost of living crisis. Coupled with a challenging financial outlook and an aging population, it’s clear that public services will need to find different ways of maintaining services and continuing to support the wider community and in particular those most in need.
 
We recently published a series of reports. Our first report provided a baseline showing that poverty is the major challenge facing all tiers of government. With this context in mind, our second report looked at how local authorities are working to grow and expand social enterprises to help local government deliver more services and reduce demand. Finally, our third report focused on understanding how local authorities are creating the conditions needed to transform ways of working and empower communities to thrive as independently as possible.

Our recommendations are designed to support local authorities to use our report to self-evaluate current engagement, management, performance, and practice to identify where improvement is needed.

Where and when
10:00 – 12:00
Tuesday 20th June 2023

Register

To register for the seminar please complete our online booking form [opens in new window]. We have a delegate privacy notice [opens in new window] , telling you how we deal with your personal data as part of the registration process.

Joining instructions are circulated 1-2 weeks before the event. Please ensure you provide your email address when booking a place to ensure that we can send information to you.

For further information on the event, please email good.practice@audit.wales
 

www.archwilio.cymru
www.audit.wales


​​​​​​​
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options