Newyddion Croeso i rhifyn mis Mehefin o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn
cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd. - Cyfnod enwebu’n cau - 26 Mehefin 2023
- Rhestr fer yn derbyn hysbysiad - wythnos yn dechrau 31 Gorffennaf 2023
- Seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd - 11 Hydref 2023
Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Welsh Charity Awards 2023
|
|
|
Recriwtio Llysgenhadon #iWill 2023 - nawr ar agor
Rydyn ni’n falch o roi gwybod i chi bod recriwtio ar
gyfer llysgenhadon newydd #iwill ar draws gwledydd Prydain bellach ar agor i bobl rhwng 10 a 24 oed sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod Cymru wedi’i hadeiladu ar ysbryd cymunedol a bod miloedd o bobl ifanc yn cyfrannu at wneud Cymru’n lle gwell i fyw, i weithio, ac i astudio. Mae mudiad #iwill yn credu y gall pob unigolyn ifanc arwain newid cadarnhaol os cânt eu grymuso i wneud hynny, ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl ifanc sy’n gwneud gwahaniaeth mewn unrhyw ffordd. Dywedodd ein llysgenhadon
#iwill eu hunain yn ddiweddar “does dim angen i chi greu newid mawr i greu newid”, ac mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n driw iddo ym mudiad #iwill. Gall pobl ifanc gyflwyno eu cais eu hunain, neu gallant gael eu henwebu gan
oedolyn neu gyfoedion. Mae ceisiadau’n cau ar 11 Mehefin - rhowch wybod os oes gennych unrhyw gwestiynau! Gwybodaeth Recriwtio - Cymraeg
|
|
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Grŵpiau Lleol yn derbyn arian Gwynt y Môr
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ddatrysiad codi arian ar-lein dim risg, dim ffioedd - Mae Pawb Ar Eu Hennill Pan Fyddwch yn Codi Arian gyda Loto Lwcus. Bydd eich cefnogwyr yn cael cyfle i ennill gwobrau ariannol wythnosol o hyd at £25,000!
Hefyd, os ydych wedi'ch cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 24 Mehefin byddwch yn cael mynediad at y wobr atodol genedlaethol ychwanegol i'w hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd – Bwndel Theatr Cartref Sony! Mae pawb ar eu hennill, gan fod y rhan fwyaf o'r cefnogwyr yn ymuno i gefnogi eich achos chi - dim ond bonws ychwanegol yw'r cyfle i ennill gwyliau
moethus! |
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn ŵyl wirfoddoli ledled y DU sy'n cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn, ac mae'n wythnos arbennig pan fydd sefydliadau sy'n defnyddio gwirfoddolwyr yn dweud diolch yn fawr wrthyn
nhw! Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i waith nifer o elusennau a sefydliadau eraill yma yng Nghonwy. Maen nhw’n bresenoldeb gwerthfawr mewn llawer o gymunedau, gan wneud gwahaniaeth mewn llefydd mor amrywiol â chlybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, ysgolion, coetiroedd ac ysbytai. Mae'n gyfle i
ni i gyd ddiolch i'n gwirfoddolwyr anhygoel ni! Fe allwn ddathlu'r pŵer y mae gwirfoddoli'n ei gynnig i gadw cymunedau at ei gilydd, ac am fod yno pan fydd eu hangen.
Amdani! Cynhaliwyd lansiad Conwy yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ar 30 Mai 2023. Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn gyda throsolwg o’r prosiect gwirfoddoli newydd, cyffrous a pherfformiadau gan Dr Sara Louise Wheeler, Ruth Fabby a Ghostbuskers! Yr Amdani! Mae tîm Conwy nawr yn recriwtio gwirfoddolwyr. Cysylltwch ar Amdani@cvsc.org.uk
Gynorthwy-ydd Sesiwn Gwirfoddol
Mae Clwb Beicio Wedi’i Addasu Freewheelers Conwy yn chwilio am gynorthwywyr i gefnogi sesiynau’r clwb ochr yn ochr â hyfforddwyr, beicwyr, rhieni, gofalwyr a gwirfoddolwyr eraill i ddarparu
sesiynau clwb misol hwyliog, safonol a diogel. Byddwch yn rhoi anogaeth i'r cyfranogwr gan helpu i symud beiciau wedi'u haddasu o’r storfa i ardaloedd beicio, yn ogystal â helpu gyda thasgau gweinyddol o fewn y clwb. Bydd y cynorthwy-ydd delfrydol yn llawn cymhelliant, yn gyfrifol ac yn ddibynadwy, yn barod i ddysgu mwy am gynhwysiant a chyfrannu'n gadarnhaol at sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfle i feicio mewn amgylchedd diogel, hwyliog a chynhwysol. I ddod yn Gynorthwy-ydd Sesiwn
Gwirfoddol mae angen i chi fod yn barod i gwblhau archwiliad gan y DBS. Bydd y cynorthwywyr yn cael eu cefnogi gyda chyngor ac Addysg Hyfforddi gan Dîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy. Mae angen hyfforddwyr ac arweinwyr sesiynau gwirfoddol hefyd. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal unwaith y mis.
|
|
Gwirfoddolwr gyda Cynghrair y Cyfeillion
Mae Cynghrair y Cyfeillion yn sefydliad nid-er-elw sy'n rhedeg siop a bar te yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, mae’r incwm sydd wedi cael ei gynhyrchu o fasnachu wedi
galluogi Cynghrair y Cyfeillion i ddarparu gwerth mwy na £10 miliwn o offer arbenigol ar gyfer yr ysbyty. Ei nod yw darparu gwasanaeth i'r holl staff, y cleifion ac ymwelwyr. Nawr bod rhai o fesurau Covid yr ysbyty wedi'u codi, maen nhw'n chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â'r tîm presennol i redeg siop yr ysbyty a’r bar te. Mae nifer o shifftiau ar gael dros gyfnod o wythnos - boreau,
prynhawniau, gyda’r nosau a phenwythnosau. Mae’r tasgau'n cynnwys glanhau cyffredinol, gwasanaethu cwsmeriaid ar y til a'r cownter bwyd poeth ar gyfer pasteiod. Nid oes angen unrhyw brofiad a bydd unrhyw hyfforddiant sydd arnoch ei angen yn cael ei drefnu. Os oes gennych chi ychydig o oriau rhydd a’ch bod yn mwynhau cwrdd â phobl newydd, rhyngweithio yn gymdeithasol ac yn teimlo yr hoffech roi rhywbeth yn ôl i'r GIG, beth am ymuno a chefnogi Cynghrair y Cyfeillion?
|
|
Mae Cyngor ar Bopeth yn chwilio am Gynghorwyr Gwirfoddol ar gyfer eu sesiynau wyneb yn wyneb o amgylch Sir Conwy. Pan fyddwch yn dod yn Gynghorydd Gwirfoddol,
byddwch yn cael hyfforddiant achrededig llawn yn y sgiliau sydd eu hangen i helpu pobl i ddelio â'u problemau. Byddwch yn dysgu sut i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen ar y cleient, o system wybodaeth electronig Cyngor ar Bopeth a ffynonellau eraill. Bydd eich rôl yn cynnwys cyfweld â chleientiaid mewn sesiynau galw heibio ac apwyntiadau lleol i ddysgu pwyntiau allweddol am broblem y cleient, rhoi gwybodaeth a darparu cyngor a chefnogaeth neu gyfeirio cleientiaid at asiantaethau eraill.
Byddwch yn cael cynnig mynd ar gyrsiau fel rhan o’ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a bydd costau teithio ar gael. Does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Mae cyfeillgarwch a hyder i gwrdd a chyfarch pobl newydd yn ddymunol iawn, yn ogystal â dymuniad i helpu pobl ac eirioli ar eu rhan, ynghyd â Saesneg da, a llawer o frwdfrydedd!
|
|
|
|