Shaping the future of Wales, for the people of Wales
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn adolygu cryfderau a gwendidau datganoli, yn canfod beth mae
pobl yn ei feddwl, ac yn archwilio opsiynau a allai wella dyfodol Cymru. Arweinir y Comisiwn gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams. Mae’n cynnwys naw comisiynydd o gefndiroedd gwahanol, sydd i gyd â safbwyntiau gwahanol. Mae pob un wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd a chynnal ymchwiliad teg.
Mae’r Comisiwn wedi bod yn cynnal sgwrs genedlaethol gyda chymunedau ers gwanwyn 2022. Mae wedi bod yn treulio amser yn casglu barn pobl o amrywiaeth o sectorau a chefndiroedd, gan gynnwys:
- dinasyddion Cymru
- paneli arbenigol
- cymunedau a grwpiau ledled Cymru
- sesiynau tystiolaeth
Sioe
deithiol a chyfres ddigwyddiadau’r haf
Fel rhan o’i sgwrs â dinasyddion Cymru, mae’r Comisiwn wedi bod yn teithio i wahanol leoedd a digwyddiadau ledled Cymru i dynnu sylw at ei waith a’r cyfleoedd i gymryd rhan.
Safle Sgwrsio
Lansiodd y Comisiwn safle sgwrsio ar-lein ym mis Ebrill 2023 i gefnogi’r sgwrs. Mae’n cynnig un lle i rannu gwybodaeth, adnoddau ac offer, gan alluogi mwy o bobl i ystyried dyfodol Cymru a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw. Yn y pen draw, mae’r platfform sgwrsio yn cynnig lle i ddinasyddion Cymru archwilio’r pwnc hwn mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys y cyfle i ofyn cwestiynau. Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, ewch
i’n safle sgwrsio. Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am y gwahanol opsiynau. Gwyliwch ein fideo sy’n esbonio’r opsiynau yma.
Fe welwch hefyd yr arolwg Dweud eich Dweud, sydd wedi’i gwblhau gan ychydig o dan 600 o bobl. Bu ymgyrch ymgysylltu i gael mwy o
bobl i gwblhau’r arolwg ac i fynd i’r safle ar-lein. Mae blogiau a chynnwys newydd yn cael eu hychwanegu at y safle bob wythnos ac mae digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned yn cael eu cynnal ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth.
Bydd yr holl
weithgareddau ymgysylltu cyn 1 Hydref yn cael eu dadansoddi a’u cynnwys yn Adroddiad Terfynol y Comisiwn. Cyhoeddir yr Adroddiad Terfynol, gan gynnwys yr argymhellion, y gaeaf hwn.
Ffyrdd o gymryd
rhan
- Gallwch rannu eich barn drwy gwblhau’r arolwg a chymryd rhan mewn trafodaethau ar ein safle
sgwrsio
- Gallwch godi ymwybyddiaeth o’r Comisiwn drwy ledaenu gwybodaeth amdano i’ch sianeli a’i drafod â’ch teulu a’ch ffrindiau. Gallwch hefyd rannu’r arolwg ar eich cyfryngau cymdeithasol!
- Dilynwch ni ar @Comisiwn