Gweithiwch i ni
Mae Cyngor ar Bopeth Conwy’n croesawu ceisiadau am swyddi. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â thîm ymroddedig, proffesiynol a chleient-ganolog yna
hoffem glywed gennych chi
Gallwn oll wynebu problemau sy’n ymddangos yn gymhleth neu’n arswydus. Yng Nghyngor ar Bopeth Conwy rydym yn darparu cyngor o safon yn rhad ac am ddim, sy’n annibynnol, diduedd a chyfrinachol, y mae pobl ei angen ar gyfer y problemau a wynebant.
Mae gennym nifer o swyddi llawn amser a/neu ran amser i Gynghorwyr a Gweithwyr Achos. Yn ddelfrydol, byddwch wedi gweithio mewn lleoliad rhoi cyngor neu wybodaeth yn barod. Bydd angen i ymgeiswyr am swyddi gweithwyr achos gael isafswm o 12 mis o brofiad o gynghori.
Cynghorwyr £20,208 - £23,235 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)
Gweithwyr achos £25,000 - £27,768 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)
Bydd y swyddi i gyd wedi eu seilio yn Llandudno ac efallai y bydd gofyn gweithio o leoliadau allgymorth gyda’r hyblygedd ychwanegol o weithio o adref bob hyn a hyn.
Mae’r manteision yn cynnwys cyflogau cystadleuol, hawliad hael i wyliau blynyddol, hyfforddiant wedi’i achredu a chyfleoedd datblygiad parhaus, amser hyblyg ac wythnos waith 35 awr.
Bydd angen i’r ymgeiswyr i gyd ddangos:
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol (byddai dwyieithrwydd yn fanteisiol)
- Dealltwriaeth o’r problemau sy’n effeithio ar ein cymdeithas a’u goblygiadau i’r cleientiaid a darpariaeth y
gwasanaeth
- Y gallu i weithio’n hyblyg fel aelod o dîm amrywiol
- Sgiliau technoleg gwybodaeth a rhifedd hyfedr
trosglwyddadwy
Rydym yn sefydliad cefnogol a chynhwysol sy’n hynod o frwdfrydig am weithio yng nghalon ein cymunedau lleol a chawn ein gyrru gan ddymuniad i wneud gwahaniaeth. Os yw hyn yn apelio atoch chi – anfonwch eich CV i HR@caconwy.org.uk yn y lle cyntaf heb fod yn hwyrach na hanner dydd ar 12 Hydref 2023. Os byddwn eisiau cymryd eich diddordeb ymhellach, byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion y cam nesaf.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu.
Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.