Mae CGGC yn falch o gael rhyddhau tocynnau i’n haelodau ar gyfer ein Cynhadledd Trydydd Sector yn Venue Cymru ar Dachwedd 3ydd fel rhan o’n cyllid Meithrin Gallu.
Mae’r digwyddiad hwn yn bosibl drwy gyllid hael gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu o fewn neu'n gysylltiedig â Sir Conwy, mae'r gynhadledd yn addo profiad cyfoethog.
Ymgollwch mewn diwrnod o sesiynau hyfforddi wedi'u targedu sy'n ymdrin â phynciau hanfodol
fel cyfleoedd ariannu, rheoli gwirfoddolwyr yn effeithlon, llywodraethu effeithiol, a chyfarfodydd rhwydweithio craff. I ehangu eich profiad ymhellach, byddwn yn cynnal Ffair Ariannu sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gyllidwyr sy'n awyddus i gefnogi eich mentrau.
Gan ychwanegu at y cyffro, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CGGC yn ystod amser
cinio, gan roi llwyfan i ymgysylltu â’n cenhadaeth a’n cynnydd.
Mae archebion nawr ar agor i aelodau - https://www.eventbrite.co.uk/e/cvsc-cynhadledd-trydydd-sector-ccb-third-sector-conference-agm-tickets-709274919377
Mae'n rhaid i chi gadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn, a dim ond trwy'r archeb hon y bydd modd archebu lle ar gyfer sesiynau unigol i’r
diwrnod.
Ymunwch â ni ar y daith hon i rymuso a dyrchafu’r trydydd sector yn Sir Conwy.