CGGC – Cynhadledd Trydydd Sector, Ffair Gyllidwyr a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Pryd: Dydd Gwener 3 Tachwedd 2023, 09:30yb - 4:30yh, gyda'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 1:45yh
Ble: Venue Cymru, Y Promenade, Cilgant Penrhyn, Llandudno LL30 1BB
Mae CGGC yn falch o’ch gwahodd i ymuno â ni ar gyfer ein Cynhadledd, Ffair Gyllidwyr a’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023.
Mae gennym ddiwrnod llawn o weithdai a chyfleoedd rhwydweithio wedi'u cynllunio, gyda sesiynau ar Ysgrifennu Ceisiadau Grant, Recriwtio Gwirfoddolwyr, Dylunio Gwasanaethau a Chyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial.
Cyllidwyr wedi’u cadarnhau ar gyfer ein Ffair Gyllidwyr hyd yn hyn:
- Ymddiriedolaeth Sefydledig Eglwysi
- Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
- Sefydliad Pêl-droed Cymru
- Cronfa Gymunedol Fferm
Wynt Gwynt y Môr
- Cronfa Genedlaethol Loteri Treftadaeth
- Cynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi
- Loto Lwcus
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl
- Chwaraeon Cymru
Bydd yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gael yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
I gofrestru eich presenoldeb i’r gynhadledd neu’r cyfarfod cyffredinol blynyddol
cliciwch yma neu cysylltwch â: 01492 534091 neu e-bost: mail@cvsc.org.uk, gan roi’r manylion canlynol:
Enw, sefydliad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac unrhyw ofynion penodol sydd gennych.