Mae proses enwebu Gwobrau’r Uchel Siryf ar gyfer 2024 ar agor bellach. Enwebwch rywun arbennig sy'n gwneud pethau gwych yma yng Nghonwy!
Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2013, yn cydnabod unigolion a grwpiau cymunedol sydd ag amcanion elusennol ac sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol yn eu cymunedau. Dros y blynyddoedd mae gwirfoddolwyr a grwpiau di-ri wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.
Mae tair gwobr yn cael eu rhoi ar gyfer pob un o’r
siroedd sy’n ffurfio’r hen Sir Clwyd: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam:
- Dwy wobr am gyfraniad eithriadol gan unigolyn
- Un wobr am gyfraniad eithriadol gan grŵp gwirfoddol neu gymunedol sydd ag amcanion elusennol
Dywedodd yr Uchel Siryf,
Kate Hill-Trevor, ‘Mae gwirfoddolwyr yn weithgar wrth galon pob cymuned yn y DU. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod, dathlu a chymeradwyo gweithredoedd a gwaith caled y gwirfoddolwyr rhagorol yng nghymunedau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.”
Ychwanegodd Prif Swyddog AVOW, Dawn Roberts-McCabe, ‘Mae Gwobrau’r Uchel Siryf yn gyfle i
gyflwyno enwebiadau er mwyn i’r unigolion a’r grwpiau elusennol eithriadol gael eu cydnabod am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud ar ran eu cymunedau!’
Mae Ffurflenni Enwebu ynghlwm. Mae posib lawrlwytho ffurflenni enwebu a nodiadau canllaw oddi ar wefan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau wedi'u llofnodi yw hanner dydd, dydd Llun 6ed
Tachwedd, 2023. Dylid anfon pob enwebiad, o bob un o’r siroedd, i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) ar info@avow.org
Bydd eu gwobrau yn cael eu cyflwyno i’r
enillwyr mewn seremoni gydnabod arbennig a fydd yn cael ei chynnal ddechrau mis Mawrth 2024.