Lansio HWB DECHRAU GORAU ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Annwyl Bartneriaid,
Bob blwyddyn, mae oddeutu 6,300 o unigolion o bob rhan o Ogledd Cymru, yn ymweld â thudalennau gwe Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i chwilio am
wybodaeth a chyngor i gael mynediad at wasanaethau penodol cyn, yn ystod a rhwng beichiogrwydd.
Mae tîm Dechrau Gorau wedi ymgysylltu â thros 50 o arbenigwyr o bob rhan o BIPBC i ddatblygu dros 70 o adrannau newydd i Hwb Dechrau Gorau ar wefan BIPBC.
Prif nod y tudalennau gwe wedi’u hailstrwythuro yw symleiddio'r broses i unigolion, cyplau, a theuluoedd i gyrchu a darganfod gwybodaeth berthnasol i iechyd a lles wedi'i deilwra i gyfnodau gwahanol o'u bywydau.
Mae'r tudalennau ar eu newydd wedd hefyd yn adnodd gwerthfawr i’n rhanddeiliaid, gan gynnig cyfoeth o wybodaeth ar ystod eang o bynciau er mwyn hwyluso rhyngweithiadau ystyrlon ymysg defnyddwyr gwasanaeth.
Caiff Hwb Dechrau Gorau ei lansio'n swyddogol ddydd Llun Hydref 16eg 2023, i gydfynd gydag Wythnos Genedlaethol Rhiantu. Fel rhan o'r
lansiad, byddai tîm Dechrau Gorau yn croesawu eich cyfraniad wrth rannu Hwb Dechrau Gorau ymhlith eich staff a defnyddwyr gwasanaeth.
Mae adnoddau hyrwyddo wedi cael eu datblygu er mwyn caniatáu i holl gydweithwyr gymryd rhan wrth hyrwyddo Hwb Dechrau Gorau. Mae'r rhain ar gael i'w cyrchu'n gyfleus trwy Badlet Hwb Dechrau Gorau.
Gellir lawrlwytho'r adnoddau hyn yn hawdd i'ch cyfrifiadur personol. Gan ei gwneud yn hawdd i bawb eu cyrchu, eu cadw, argraffu a'u rhannu pan fo’r angen ar draws eich
sefydliad, ymysg eich partneriaid ac yn bwysicaf oll, ymysg eich defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd.
Byddem yn ddiolchgar iawn o gael eich barn gychwynnol o’r adran newydd Hwb Dechrau Gorau, trwy gymryd rhan yn arolwg byr Hwb Dechrau Gorau, a wnaiff helpu'r tîm i werthuso'r prosiect.
Felly, paratowch i ymuno â'r dathliadau wrth i ni lansio Hwb Dechrau Gorau
ddydd Llun, 16eg o Hydref. Gyda'n gilydd, gadewch i ni sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i deuluoedd Gogledd Cymru.