Newyddion Croeso i rhifyn mis Medi o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Mae CGGC yn falch o gyhoeddi ein Cynhadledd Trydydd Sector yn Venue Cymru ar Dachwedd 3ydd fel rhan o'n cyllid Meithrin Gallu. Mae’r digwyddiad hwn yn
bosibl drwy gyllid hael gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu o fewn neu'n gysylltiedig â Sir Conwy, mae'r gynhadledd yn addo profiad cyfoethog. Ymgollwch mewn diwrnod o sesiynau hyfforddi wedi'u targedu sy'n ymdrin â phynciau
hanfodol fel cyfleoedd ariannu, rheoli gwirfoddolwyr yn effeithlon, llywodraethu effeithiol, a chyfarfodydd rhwydweithio craff. I ehangu eich profiad ymhellach, rydym wrth ein bodd yn cynnal Ffair Ariannu ddeinamig, yn cynnwys amrywiaeth eang o gyllidwyr sy'n awyddus i gefnogi eich mentrau. Gan ychwanegu at y cyffro, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CGGC yn ystod amser cinio, gan roi llwyfan i ymgysylltu â’n cenhadaeth a’n cynnydd. Marciwch eich calendrau! Bydd archebu'n agor ganol mis Medi, a bydd ein tocynnau adar cynnar ar gael i'n
haelodau gwerthfawr yn unig. Gallwch ddod yn aelod yma - https://www.cvsc.org.uk/cy/cvsc-membership-cy/sign-up Ymunwch â ni ar y daith hon i rymuso a dyrchafu’r trydydd sector yn Sir Conwy.
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cronfa Allweddol y Sector
Gwirfoddol
Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yn gweinyddu Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol: cronfa o
£800,000 ar gyfer grwpiau trydydd sector yng Nghonwy, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Tîm Grantiau CGGC fydd yn gweinyddu'r cynllun grantiau. Bydd 2 fath o grant ar gael: - Cronfa Meicro: £500-£1999
- Prif Gronfa: £2000-£60,000
Mae Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol wedi’i hanelu at brosiectau yng Nghonwy a fydd yn cefnogi cyflawni rhai o nodau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: - Prosiectau Gwirfoddoli Effeithiol a/neu Weithredu Cymdeithasol
- Meithrin Gallu a Chymorth Isadeiledd i Grwpiau Lleol
- Cynlluniau Ymgysylltu Cymunedol, Adfywio Lleol
- Mesurau Cymunedol i Leihau Costau Byw
- Astudiaethau Dichonoldeb Perthnasol
Rydym yn eich annog i gael sgwrs anffurfiol gyda swyddog grantiau CGGC cyn llenwi eich cais. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch
â thîm grantiau CGGC ar grants@cvsc.org.uk / 01492
523845.
Sesiwn Galw Heibio, Llyfrgell Llanrwst - 6/09/2023
Sesiwn Galw Heibio, Abergele Community Action - 8/09/2023
Rôl Y Trysorydd - Hyfforddiant AM DDIM - 27/09/2023
Adolygiad o’r Côd Ymarfer ar gyfer ariannu’r Trydydd Sector
Mae Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd CGGC yn cynnal gweminar ddydd Mercher, 27 Medi 2023 rhwng
10.30 am a 12 pm a fydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am yr adolygiad, y newidiadau arfaethedig ac i roi eich barn i helpu i lywio’r camau nesaf. I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad ac i archebu eich lle, cliciwch yma.
|
|
Ffair Ariannu, Llangollen Medi 13eg
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ddatrysiad codi arian ar-lein dim risg, dim ffioedd - Mae'n Sefyllfa Ennill Pan Byddwch yn Codi Arian gyda Loto Lwcus.Bydd eich cefnogwyr yn cael cyfle i ennill gwobrau
ariannol wythnosol o hyd at £25,000! Hefyd, os ydych wedi cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 30 Medi, byddwch yn cael mynediad i'r wobr Super Draw cenedlaethol ychwanegol i'w hyrwyddo i ddarpar cefnogwyr newydd – CERDYN RHODD IKEA gwerth £1,500! Mae pawb ar eu hennill, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr yno i gefnogi'ch achos - dim ond bonws ychwanegol yw'r cyfle i ennill Cerdyn Rhodd IKEA! Gyda’n Super Draw newydd, gall
cefnogwyr hefyd brynu tocynnau ychwanegol i “ychwanegu” ar gyfer wythnos Super Draw – neu os nad ydyn nhw eisiau tocynnau wythnosol, gallant brynu tocynnau ar gyfer y Super Draw yn unig! |
Mae garddwyr gwirfoddol yn
gwneud gwaith ymarferol i helpu i gadw Neuadd Bodysgallen mewn cyflwr gwych ac yn drawiadol i’r llygad. Drwy gymryd rhan, fe allech chi gadw'n heini ac yn iach, baeddu eich dwylo a mwynhau'r awyr agored. Byddwch yn rhan o dîm amrywiol a brwdfrydig ac yn gwneud ffrindiau newydd i fwynhau paned o de gyda hwy ar ôl yr holl awyr iach. Bydd y rôl hon yn
addas i chi os ydych chi’n awyddus i weithio mewn tîm, yn hapus i weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, â diddordeb mewn garddio a bod gennych chi ychydig o brofiad ac yn weddol heini – dydyn ni ddim yn siarad am Mo Farah, ond fe fyddwch chi ar eich traed, yn plygu ac yn ymestyn yn ystod y dydd. Os ydych chi ar gael o leiaf unwaith bob pythefnos ac yn dymuno helpu gyda thasgau ymarferol bob dydd i gadw'r ardd yn edrych ar ei gorau, yn ogystal â phrosiectau newydd fel plannu planhigion newydd
neu glirio ardaloedd sydd wedi gordyfu, ac os hoffech chi fod yn wyneb cyfeillgar i ymwelwyr, ac ateb unrhyw cwestiynau, beth am roi galwad i ni. Rydyn ni’n darparu offer i'ch helpu chi i wneud y rôl hon yn dda ac yn ddiogel. Byddwch yn cael cyfnod sefydlu a hyfforddiant. Byddwn hefyd yn ad-dalu costau teithio y cytunwyd arnynt rhwng eich cartref a Neuadd Bodysgallen.
|
|
Mae Parkinson’s UK Cymru yn chwilio am unigolion awyddus i drefnu rhaglen gyfathrebu sesiynau misol "Live Loud!" yn Llandudno. Mae
"Live Loud!" yn rhaglen cefnogi llais am ddim, hwyliog a chymdeithasol i helpu pobl sydd â Parkinson’s sydd eisiau ymarfer siarad yn uwch ac yn gliriach. Mae aelodau o Parkinson’s UK Cymru yn dweud yn aml eu bod yn cael anhawster gyda’u llais yn colli cryfder a’r unigedd a ddaw yn sgil hynny. Mae mwy nag 80% o bobl sydd â Parkinson's yn cael
problemau gyda'u llais. Mae Live Loud! yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ymarfer eu sgiliau cyfathrebu a magu hyder, mewn amgylchedd cefnogol. Mae gwirfoddolwyr lleol yn cynnal sesiynau hwyliog ac amrywiol. Gallent gynnwys: clymau tafod, dweud jôcs, darllen barddoniaeth a straeon, cwisiau, ymarferion anadlu, ioga wyneb a mwy. Mae'r rôl hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n gynnes, yn gyfeillgar, yn gydymdeimladol, yn ddibynadwy ac yn gallu cysylltu â phobl o ystod eang o gefndiroedd. Mae’r
gwirfoddolwyr arweiniol yn gosod y naws ar gyfer y sesiynau, gan wneud yn siŵr bod croeso cynnes i bawb a’u bod yn cael cyfle i siarad cymaint â phosibl. Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau arwain, gwaith tîm a chyfathrebu a gwneud rhywbeth defnyddiol ac ystyrlon i bobl sy'n byw gyda Parkinson's. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn cael eu darparu.
|
|
Ydych chi'n mwynhau teithiau cerdded a hanes yr ardal leol? Ydych chi'n angerddol am dreftadaeth a diwylliant? Os felly, beth am fod yn Wirfoddolwr Cerdded gydag Amgueddfa Llandudno. Maen nhw’n chwilio am unigolion brwdfrydig i arwain grwpiau drwy deithiau cerdded neu gynorthwyo arweinwyr cerdded gwirfoddol eraill. Byddwch yn cwrdd â phobl o'r un
anian ac yn rhan o dîm cyfeillgar. Y cyfan sydd arnoch ei angen yw sgiliau gwrando da, dealltwriaeth o faterion diogelwch a'r angen am gyfrinachedd a synnwyr digrifwch. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd ac ehangu eich gwybodaeth yn ogystal â chyfrannu at hyrwyddo a chadw hanes lleol. Mae'r teithiau cerdded 75 i 90 munud yn ardal Llandudno. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu i'ch helpu chi i ddod yn arweinydd hyderus. Gweld rhywbeth y byddech chi'n ei fwynhau? Cysylltwch â Gwirfoddoli CGGC ar 01492 523 858 neu volunteering@cvsc.org.uk am ragor o wybodaeth.
|
|
|
|