North Wales Social Prescribing Survey 2024 / Arolwg Presgripsiynu Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru 2024

Published: Mon, 01/08/24

Iechyd Cyhoeddus • Public Health, 
Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr
University Health Board


Blwyddyn Newydd Dda / Happy New Year

Please see below details of the 2024 North Wales Social Prescribing Study.
 
Yn dilyn lansio’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru yn ddiweddar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol | LLYW.CYMRU , rydym yn casglu gwybodaeth am gyd-destun lleol Presgripsiynu Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru er mwyn paratoi i ddatblygu cyflwyno'r fframwaith hwn o dan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
Fel y mae llawer ohonoch yn ymwybodol, rydw i wedi bod yn cyfarfod partneriaid dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac rydw i wedi cael llawer iawn o sgyrsiau positif a diddorol. Fel yr addawyd, gweler dolen i Astudiaeth Presgripsiynu Cymdeithasol Gogledd Cymru 2024 yma: Astudiaeth / Study (office.com)
A fyddech cystal â rhannu'r arolwg hwn yn eang gyda'ch rhwydweithiau cymorth ar draws rhanbarth Gogledd Cymru - rydym yn gobeithio dysgu cymaint â phosibl am yr holl weithgarwch Presgripsiynu Cymdeithasol sy'n cael ei gyflwyno ar draws y rhanbarth, a ffynonellau cyllid, cyfyngiadau a rhyngddibyniaethau sy'n gysylltiedig â chomisiynu, darparu, adrodd a gwerthuso'r gwasanaethau hyn. Byddwn yn adrodd yn ôl ar ein canfyddiadau ac argymhellion i'r holl bartneriaid ym mis Mawrth 2024.
A fyddai'r holl gomisiynwyr a darparwyr Gwasanaethau Presgripsiynu Cymdeithasol cystal â rhoi o'u hamser i gwblhau'r arolwg erbyn dydd Mercher 31 Ionawr.
Sylwch fod rhai cwestiynau'n gallu bod ag atebion lluosog (e.e. C3 'Pa ardaloedd daearyddol ydych chi'n gyfrifol amdanynt?'). Yn yr achosion hyn, ticiwch bob un blwch sy'n berthnasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau wrth gwblhau'r ffurflenni, cysylltwch â mi'n uniongyrchol ar brian.laing@wales.nhs.uk unrhyw bryd a byddaf yn fwy na pharod i roi unrhyw gymorth ac arweiniad, yn ôl yr angen.
Diolch yn fawr unwaith eto am bopeth yr ydych yn ei wneud  i wella bywydau ar draws gogledd Cymru - rydym yn hynod ddiolchgar.
Diolch o galon bawb.
Further to the recent launch of the National Social Prescribing Framework for Wales National framework for social prescribing | GOV.WALES we are gathering information about the local context of Social Prescribing in North Wales in preparation for taking forward the delivery of this framework under the Regional Partnership Board.
As many of you are aware I have been meeting with partners for the past few months and have had many very positive and interesting conversations. As promised, please find a link to our North Wales Social Prescribing Study 2024 here: Astudiaeth / Study (office.com)
Please share this survey far and wide with your networks of contacts across the North Wales region - we are hoping to learn as much as possible about all of the various Social Prescribing activity being delivered across the region, and the sources of funding, constraints and interdependencies associated with commissioning, providing, reporting and evaluating these services. We will be reporting our findings and recommendations back to all partners in March 2024.
Can all commissioners and providers of Social Prescribing services please take time to complete the survey by Wednesday 31st January.
Please note some questions can have multiple answers (eg Q3 ‘Which geographic areas do you cover?’) in these instances please tick all boxes that apply.
If you have any questions or issues completing the returns please contact me direct brian.laing@wales.nhs.uk anytime and I will be more than happy to provide any support and guidance as required.
Thanks again for all that you do to improve lives across north Wales – it really is greatly appreciated.
Diolch o galon bawb.
 
Community & Voluntary Support Conwy/Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Road/Ffordd Rhiw
Colwyn Bay/Bae Colwyn
LL29 7TG
Tel: 01492 534091
Web: www.cvsc.org.uk
Registered Charity/Elusen Gofrestredig 1151397
Company Limited by Guarantee/Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 3867751

7 Rhiw Rd
Colwyn Bay
- Wales LL29 7TG
GB


Unsubscribe   |   Change Subscriber Options