Deddf Absenoldeb i Ofalwyr
Beth sydd angen i chi ei wybod a’i wneud cyn i’r Ddeddf Absenoldeb i Ofalwyr
ddod yn gyfraith.
Gallai Deddf Absenoldeb i Ofalwyr 2023 ddod i rym mor gynnar â mis Ebrill 2024 ac erbyn hynny, mae angen i chi fod yn barod igyflwyno newidiadau i'r ffordd rydych chi’n cynnig cymorth i bob gofalwr di-dâl yn eich gweithlu.
Pwy sy’n ofalwr?
Efallai nad ydych chi wedi meddwl am ofalwyr yn eich gweithle mewn gwirionedd.
Mae gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind hŷn, anabl neu ddifrifol wael yn rhywbeth rydym yn aml yn ei wneud heb weld ein hunain fel gofalwr.
I rai ohonom, mae'n digwydd yn sydyn: mae rhywun rydych chi'n ei garu yn cael ei daro'n sâl neu'n cael damwain, mae eich
plentyn yn cael ei eni ag anabledd.
I eraill, maen nhw’n dechrau gofalu am rywun heb sylwi: dydy eich rhieni ddim yn gallu ymdopi ar eu pen eu hunain mwyach, mae iechyd eich partner yn gwaethygu'n raddol.
Felly, dyma dri rheswm pwysig pam mae angen i chi weithredu nawr i baratoi ar gyfer y Ddeddf Absenoldeb i Ofalwyr.
Mae mwy nag un o bob saith o bobl mewn unrhyw weithle yn ofalwr.
Mae Absenoldeb i Ofalwyr wedi symud o fod yn Fil i fod yn Ddeddf, a bydd yn golygu newidiadau i chi
Mae cefnogi gofalwyr yn eich gweithle yn gwneud synnwyr busnes gwych.
CLICIWCH YMA i ddarganfod mwy am y newidiadau a sut allent effeithio arnoch chi