Arolwg ymchwil iechyd meddwl i rieni
Cefnogwch Samaritans
Cymru – arolwg ymchwil iechyd meddwl i rieni
Mae ein tîm yn Samaritans Cymru yn gweithio ar brosiect iechyd meddwl newydd i rieni gyda’r nod:
- I leihau hunanladdiad ymysg rhieni newydd a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i bob rhiant
- I wella canlyniadau ar gyfer unrhyw un sy’n dod yn rhiant – yn enwedig trwy ymwreiddio mesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar, a gwella gofal argyfwng
- Mynd i’r afael â’r stigma ynghylch dod yn rhiant ac iechyd meddwl
- Codi proffil a gwella
dealltwriaeth o iechyd meddwl gwael a risg hunanladdiad ymysg tadau newydd
Rydym yn galw ar y trydydd sector, gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol, cynghreiriau a rhwydweithiau, a llawer o sefydliadau eraill, i’n helpu ni hyrwyddo’r arolwg hwn cymaint â phosibl.
Cwblhewch yr arolwg yma
Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw cefnogi unrhyw un sy’n dod yn rhiant, felly mae’n rhaid inni sicrhau cyfradd ymateb uchel. Po fwyaf yr ymgysylltu, y mwyaf o ddata a gawn i lywio ein galwadau polisi i wella
cymorth ar gyfer iechyd meddwl i rieni, a’r mwyaf o wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn ein hadnodd ni.
Nod y prosiect hwn yw cefnogi unrhyw un sy’n dod yn rhiant. Bydd yn canolbwyntio ar y cyfnod amenedigol, anffrwythlondeb, colli baban, mabwysiadu, cenhedlu trwy roddwr a’r cyfnod ôl-enedigol. Bydd hefyd yn gynhwysol er mwyn cefnogi dynion, menywod, dynion a menywod traws,
cyplau cis ac o’r un rhyw, a rheini neu ofalwyr sengl.
I gyflawni hyn, hoffem ddysgu mwy am brofiadau pobl o ddod yn rhiant, yr effaith a gafodd ar eu hiechyd meddwl a pha gymorth – os o gwbl – a gawsant yn ystod y cyfnod hwn.
Byddem wrth ein bodd i
glywed oddi wrth unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Dros 18 oed
- Yn byw yng Nghymru
- Wedi ceisio beichiogi, wedi colli baban, wedi bod yn feichiog, wedi ceisio mabwysiadu plentyn, wedi profi anffrwythlondeb neu wedi cael triniaethau
ffrwythloni (fel rhoi wy), wedi rhoi genedigaeth a/neu wedi bod yn rhiant newydd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf (naill ai chi neu’ch partner)
- Cawsant drafferth gyda’u hiechyd meddwl ar y pryd
Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn cael eu holi am ddod, neu geisio dod, yn rhiant, eu hiechyd meddwl, a’r cymorth a
gawsant. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud i’w orffen a’r dyddiad cau yw 4 Mawrth 2024.
Caiff yr atebion eu cadw’n gyfrinachol ac yn ddienw. Bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio i ddatblygu adroddiad polisi y bydd Samaritans Cymru yn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar newid yng Nghymru ac i lunio adnodd di-dâl i gefnogi unrhyw un sy’n dod yn rhiant yng
Nghymru.
Byddem wir yn gwerthfawrogi cael eich cefnogaeth chi i’n helpu ni hyrwyddo’r arolwg ymchwil hwn. Mae’n agor heddiw a bydd yn cau ar Dydd Llun 4 Mawrth 2024.
Mae taflen wybodaeth wedi’i hatodi y gallwch ei dosbarthu i’ch rhwydweithiau. Fel
arall, gallwch anfon y neges e-bost hon ymlaen atynt. Cysylltwch â ni os oes unrhyw gennych unrhyw gwestiynau. Am gopi caled o’r arolwg hwn, anfonwch e-bost at e.gooding@samaritans.org
Samaritans Cymru