Ffair Gwirfoddoli 22 o Fawrth 2024
Fe fydd Tîm Gwirfoddoli CGGC yn cynnal Ffair Gwirfoddoli yng Nghanolfan Siopa BayView ym Mae Colwyn (uned wag wrth ochr i Specsavers), a hoffem eich gwahodd chi i fynychu fel stondinwr i hyrwyddo eich cyfleoedd
gwirfoddoli. Bydd y digwyddiad yma hefyd yn cynnwys elfen rwydweithio oherwydd byddwn yn dechrau'r diwrnod gyda sesiwn am gadw gwirfoddolwyr.
Trefn y diwrnod:
10:30-11:30 - Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr - ‘Cadw gwirfoddolwyr – y gwersi a ddysgwyd’, cyfle i rannu eich safbwyntiau a’ch profiadau gyda rheolwyr a chydlynwyr
gwirfoddolwyr o’ch ardal leol. Hefyd bydd Amdani! Conwy yn rhannu eu cynghorion ar wneud gwirfoddoli yn hyblyg ac yn hygyrch.
11:30-12:00 – paratoi stondin
12:00-4:00 - Ffair Wirfoddoli
Bydd te, coffi, cacennau a bisgedi yn cael eu darparu.
Archebwch eich lle cyn 15eg o Fawrth