Mae Anabledd Dysgu Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Rydym yn chwilio am rhywun sydd yn llais dros newid ac sydd â'r amser i ymrwymo i weithio gyda'n bwrdd ymddiriedolwyr i'n helpu i gyflawni ein cenhadaeth.
Rydym
am i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl gydag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Fe fydd y Cadeirydd hefyd yn cefnogi ein Prif Swyddog Gweithredol i ddatblygu'r corff a sicrhau ei fod wedi'i lywodraethu'n dda.
I ddechrau, mae'r cyfnod yn y swydd am 3 blynedd a gellir ei ymestyn am ail dymor o 3 blynedd drwy gytundeb gyda'r Bwrdd Ymddiriedolwyr. I'ch helpu i ymgartrefu yn eich rôl newydd, bydd ein cadeirydd presennol yn darparu cymorth.
Rydym
wedi ymrwymo i gyflawni Bwrdd Ymddiriedolwyr cynhwysol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan bobl o'r mwyafrif byd-eang a nodweddion gwarchodedig eraill.
Nid oes tâl am wneud y rôl, ond mae treuliau yn cael eu had-dalu.
Am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i'n gwefan
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Mawrth 2024