Newyddion Croeso i rhifyn mis Chwefror o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â
ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
Newyddion Ymddeoliad - Wendy Jones Prif Swyddog
Fe ddechreuodd Wendy gyda CGGC yn ein dyddiau cynnar iawn ni yn 1999 ac oherwydd ei galluoedd symudodd yn gyflym i rôl Swyddog Cyllid, gan osod y safon yn uchel gyda'n Ffair Gyllidwyr gyntaf. Yn dilyn bwlch byr yn gweinyddu ac yn asesu cyllid grant WCVA ac Ewrop, dychwelodd i CGGC fel Rheolwr Cyllid, gan gymryd
rôl y Prif Swyddog yn 2010 yn y pen draw. Roedd Wendy felly yn adnabod CGGC tu chwith allan a gwnaeth gyfraniad enfawr at yr ethos a safonau’r gwasanaeth, ymhell cyn ymgymryd â'i rôl arwain. Gan fanteisio ar ei chryfderau, ers hynny mae CGGC wedi dod yn un o’r CGSau sy’n perfformio orau yng Nghymru, gyda phresenoldeb pwerus ac enw da ym maes dosbarthu grantiau. Cyflawniad anhygoel – sy’n cael ei gydnabod ymhell ac
agos. Mae wedi bod yn wir erioed bod Tîm CGGC yn cael ei weld gan bawb fel “teulu” gyda chydweithwyr yn cefnogi ac yn dathlu gyda’i gilydd drwy sawl carreg filltir! Wendy – fel staff a gwirfoddolwyr, mae ein dyled ni i gyd yn fawr i chi – am eich cyfeillgarwch hael, eich arweiniad a’ch cymhelliant – ond yn bennaf am eich angerdd dros bopeth rydych
chi’n ei wneud - rydych chi wir yn ysbrydoliaeth a bydd colled fawr ar eich ôl. Colled i'r Trydydd Sector ehangach hefyd, nid dim ond yma yng Nghonwy, ond yn rhanbarthol ac yn genedlaethol oherwydd eich holl ddulliau synhwyrol ac ymarferol o weithio sydd wedi bod mor boblogaidd, yn rhyngwladol weithiau hyd yn oed. Rydyn ni eisiau manteisio ar y cyfle
yma i ddymuno cyfnod newydd hir ac iach i chi o R ac R cwbl haeddiannol! Dymuniadau gorau a diolch o galon i chi gan eich holl Dîm yma yn CGGC!
|
|
|
Cyhoeddiad GYM ar gyfer gweinyddiaeth CGGC
Barod I helpu, “ac unrhyw ddyletswydd arall”! |
Cyflawni BmP ar gyfer CGGC, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2008
|
Am siwrnai - Am lawenydd!
Ar ddiwedd 1999, cymerais ddiswyddiad gwirfoddol gan gorff preifat mawr a chwilio am swydd leol i'm cadw i fynd, tra oeddwn i’n chwilio am rywbeth addas ar gyfer yr ychydig flynyddoedd gwaith nesaf. Fe wnes i ymateb i hysbyseb yn y papur lleol (The North Wales Chronicle) yn hysbysebu swydd weinyddol / derbynfa gydag elusen ym Mae Colwyn. Dyna oedd dechrau fy siwrnai gyffrous a
dadlennol i gyda’r 3ydd Sector, a oedd i ddod yn brofiad mor angerddol a gwerth chweil. Fe gefais i fy syfrdanu'n llwyr o glywed am nifer, ansawdd ac amrywiaeth y sefydliadau elusennol lleol oedd yn bodoli yn sir Conwy. Roeddwn i wedi dod o hyd i fy lle, roeddwn i'n gwybod lle roeddwn i eisiau gweithio, a gyda phobl sy'n ymdrechu bob dydd i wneud pethau'n well i eraill, i'w cymunedau ac i bobl sydd mewn angen.
Roeddwn i wedi dod o hyd i’r bobl sy’n ‘gallu gwneud’! 23 o flynyddoedd yn ddiweddarach (a chredwch chi fi, mae wedi gwibio heibio), rydw i wedi dal sawl swydd, i gyd o fewn y sector gwirfoddol; swyddog cyllido, asesydd grantiau, rheolwr grantiau, swyddog cyllid, ac yn olaf Prif Swyddog. Er mai o fewn CGGC oedd hyn yn bennaf, fe fues i am tua 4 blynedd yn gweithio i WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). Heb os nac oni
bai, dyma'r profiad mwyaf gwerth chweil, heriol, ac, ar adegau, gostyngedig. Rydw i'n falch o'r hyn y mae tîm CGGC wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd, gan gynnwys y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'n sefydliad, ein haelodau ac, wrth gwrs, yn y pen draw, i'r bobl yn ein cymunedau ni. Mae’r amser wedi dod i mi gamu i lawr, a throsglwyddo’r awenau i rywun sydd â’r egni a’r angerdd i barhau â’r siwrnai ymlaen. Rhywun sy’n
gweld y weledigaeth ac sydd â’r cryfder a’r ymrwymiad i’r sector i barhau â’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud bob dydd yn CGGC ac rydw i’n falch iawn bod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi penodi’r union berson hwnnw! …ac i mi? Rydw i'n edrych ymlaen at y bennod nesaf. Mae gen i bethau i'w gwneud, a llefydd i'w gweld! Rydw i’n dechrau gyda blwyddyn ‘fwlch’ ond bod fy mwlch i ar ôl i mi orffen gweithio, ac nid cyn hynny, yn
teithio yn Ne Ddwyrain Asia i ddechrau, a phwy a ŵyr ble nesa… Mae’n braf iawn peidio â bod ag agenda! Rydw i’n mynd i golli’r bobl sy’n ‘gallu gwneud’, ond pwy a ŵyr pryd neu ble y bydda’ i’n ymddangos yn y dyfodol…. mewn rôl wirfoddol wrth gwrs! Dymunaf y gorau i chi i gyd, Wendy.
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri
Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Oeddech chi'n gwybod? 🧐 Yn ogystal â'r grantiau niferus y mae CGGC yn eu gweinyddu, mae gennym ni hefyd Swyddog Cyllid Cynaliadwy sy'n gallu cynorthwyo grwpiau yng
Nghonwy nad ydynt efallai'n gymwys ar gyfer ein cyllid grant ni ein hunain neu sy'n chwilio am gyllid cyfatebol. Gall ein Swyddog Cyllid wneud y canlynol: - dod o hyd i gyllid i chi
- eich helpu gyda'ch gweithgareddau codi arian
- cynorthwyo gydag unrhyw gais am gyllid.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch! 01492
523842
CRONFA MEICRO YN ÔL AR AGOR - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol
Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yn gweinyddu Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol: cronfa o £800,000 ar gyfer grwpiau trydydd sector yng Nghonwy, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae tanwariant yn y Gronfa Ficro. Mae ceisiadau bellach wedi ailagor ar gyfer grantiau o hyd at £1,999 ar sail y cyntaf i'r felin. Ni dderbynnir ceisiadau
gan sefydliadau sydd eisoes wedi derbyn cyllid gan Gronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol.
Mae Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol wedi'i hanelu at brosiectau yng Nghonwy a fydd yn cefnogi cyflawni rhai o nodau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU:
- Prosiectau Gwirfoddoli Effeithiol a/neu Weithredu Cymdeithasol
- Meithrin Capasiti a Chefnogaeth Seilwaith ar gyfer Grwpiau Lleol
- Cynlluniau Ymgysylltu â'r Gymuned, Adfywio Lleol
- Mesurau cymunedol i
leihau costau byw
- Astudiaethau Dichonoldeb Perthnasol
Rydym yn eich annog i gael sgwrs anffurfiol gyda swyddog grantiau CVSC cyn llenwi'ch cais. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm grantiau'r CGGC ar grants@cvsc.org.uk / 01492 523845 ac ymweld â'n gwefan: CVSC - Cronfa Allweddol Sector Gwirfoddol - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ddatrysiad codi arian ar-lein dim risg, dim ffioedd - a nawr mae gennym reswm ychwanegol i gofrestru - y bwndel GORAU gan Nintendo Switch. Mae'n Sefyllfa Ennill Pan rydach Chi'n Chwarae Loto Lwcus. Mae ein loteri eisoes yn helpu achosion lleol i godi arian diderfyn trwy gydol y flwyddyn. Gall y rhan fwyaf
o grwpiau di-elw gofrestru i ddechrau defnyddio'r ateb codi arian cymunedol ar-lein hwn heddiw! Bydd eich cefnogwyr yn cael cyfle i ennill gwobrau ariannol wythnosol o hyd at £25,000! Hefyd, os ydych wedi cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 24 Chwefror byddwch yn cael mynediad i'r wobr atodol genedlaethol ychwanegol i'w hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd - bwndel Nintendo Switch UCHAF! Mae pawb ar eu hennill, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr yno i gefnogi
eich achos – dim ond bonws ychwanegol yw’r cyfle i ennill y wobr anhygoel hon!
|
Mae Woody’s Lodge yn hwb cymdeithasol ym Mae Colwyn, sy’n arwain cyn-filwyr at y cymorth a’r gefnogaeth sydd arnynt eu hangen i ailgysylltu â’u teuluoedd a’u cymunedau. Maent yn chwilio am Wirfoddolwyr Cefnogi Cynorthwyol cydymdeimladol ac ymroddedig sy'n barod i gryfhau'r Tîm Cefnogi. Bydd eich rôl yn ganolog i ddarparu cymorth hollgynhwysol i'r Tîm
Cefnogi a'r buddiolwyr, gan sicrhau bod pob unigolyn yn cael yr arweiniad a'r cymorth mae’n eu haeddu. Gall y tasgau gynnwys: cydweithredu â’r Tîm Cefnogi i asesu a diwallu anghenion gweinyddol Cyn-filwyr; ymgysylltu â Chyn-filwyr i'w harwain drwy'r ddrysfa weinyddol o wasanaethau a hawliau; cynorthwyo i gadw cofnodion digidol am yr holl gymorth sy’n cael ei ddarparu. Mae’r rôl wirfoddol hon nid yn unig yn gyfle i roi yn ôl ond yn gyfle i ymgysylltu’n ddwfn â’n Cyn-filwyr, gan eu grymuso nhw a’u
teuluoedd tuag at ddyfodol disgleiriach a diogelach. Mae'r cyfle hwn yn cynnig trefniadau gwirfoddoli hyblyg, gan gynnwys gwirfoddoli o bell, i gyd-fynd â'ch amserlen. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth barhaus a hyfforddiant budd-daliadau, gan sicrhau bod gennych adnoddau da i wneud byd o wahaniaeth.
|
|
Mae cymuned wrth galon popeth y mae Gofal Canser Tenovus yn ei wneud i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Eu nod yw cyflawni gweledigaeth lle mae llai o bobl yn cael canser a'r rhai sy'n dioddef o ganser yn cael mynediad cyfartal at driniaeth ragorol. A gallwch chi helpu i gyrraedd y nod hwn. Mae siopau Gofal Canser Tenovus mewn
cymunedau lleol yn hanfodol i ni godi arian hanfodol. Allwch chi wirfoddoli eich amser a’ch ymrwymiad i helpu i wneud gwahaniaeth? Mae angen Gwirfoddolwyr Ystafell Stoc i brosesu rhoddion stoc yn barod ar gyfer llawr y siop. Gall bod yn wirfoddolwr gyda Gofal Canser Tenovus fod yn brofiad gwerth chweil ac yn sicr mae’n amhrisiadwy i’r elusen a’i nodau. Byddwch yn elwa o’r cyfle i fod yn greadigol a chynnig syniadau newydd ar gyfer y siop, i ddatblygu sgiliau newydd a phresennol
yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant a phob swydd wag fewnol. Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu.
|
|
Elusen ranbarthol yw Vision Support, sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, sy’n bodoli i gefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg, a chodi ymwybyddiaeth o’u hanghenion. Mae'n gweithredu o fewn cymunedau lleol i wella ansawdd bywyd, hyrwyddo annibyniaeth barhaus, a chodi ymwybyddiaeth o bobl sydd â nam ar eu golwg o bob oedran yn ein cymuned ni. Ar hyn o bryd
maen nhw’n chwilio am Wirfoddolwyr Cyfeillion Cartref yn Sir Conwy sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i ddiwrnod rhywun. Bydd y rôl yma’n darparu cwmnïaeth gefnogol i ddefnyddwyr y gwasanaeth sydd â nam ar eu golwg. Byddwch yn ymweld ag unigolion yn eu cartref neu leoliad o ddewis i gael sgwrs, paned a mynd am dro fer efallai. Bydd gofyn i chi drefnu ymweliadau rheolaidd gyda'r defnyddwyr gwasanaeth sy’n cael eu cyfateb i chi, ond gallwch ddewis sawl un y byddwch yn cael eich
cyfateb iddynt. Unwaith y byddant wedi'u hyfforddi'n llawn, bydd y gwirfoddolwyr yn ymweld ar eu pen eu hunain ac yn dilyn polisi gweithio'n unigol Vision Support. Mae’r rôl yn amodol ar 2 eirda boddhaol ac Archwiliad Datgelu gan y DBS.
|
|
|
Lansio Hyfforddiant Diogelu, Fframwaith Dysgu a Datblygu, Tachwedd 2023 Bwriad y Fframwaith cenedlaethol newydd yma yw hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o egwyddorion, swyddogaethau a chyfrifoldebau diogelu, yn ogystal â diwylliant o ddysgu a datblygu
sy'n tynnu sylw at wybodaeth a sgiliau. Mae cynnwys yr hyfforddiant wedi'i drefnu o amgylch Grwpiau o ymarferyddion yn unol â'u rôl h.y. o Grŵp A hyd at Grŵp F. Mae Grŵp A (y lefel ymwybyddiaeth sylfaenol) wedi’i anelu at yr holl staff sy’n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal iechyd, adrannau awdurdodau lleol, yr heddlu, addysg, y blynyddoedd
cynnar, y trydydd sector a’r sector gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddolwyr) a chontractwyr annibynnol (gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu). Mae modiwl e-ddysgu ar gael a gellir ei ddefnyddio'n hyblyg. Dolen isod –https://socialcare.wales/learning-modules/group-a-safeguarding Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl y byddai eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn elwa o sesiwn wyneb yn wyneb, rydym yn gobeithio gallu cynnig a chyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gyfer y cwrs Grŵp A yma yn fuan – felly cadwch lygad am wybodaeth. Cysylltwch â Jan Smith am
fwy o wybodaeth - jansmith@cvsc.org.uk neu 01492 523846
Ysgrifennu Ceisiadau Grant ac Addar ar gyfer Ariannu: 19/02/24, 10:00-12:30 Ymunwch â ni am ddigwyddiad ar-lein cyffrous i wella eich sgiliau ysgrifennu cynigion a dysgu sut i wneud eich
sefydliad yn addas ar gyfer cyllid. Ydych chi wedi blino ar gyflwyno ceisiadau am gyllid aflwyddiannus? Eisiau gwella eich siawns o gael cymorth ariannol i'ch prosiectau? Edrychwch dim pellach! Bydd ein digwyddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ac awgrymiadau ymarferol i chi ar grefftio ceisiadau buddugol. Yn ogystal, byddwn yn ymchwilio i'r agwedd
hanfodol o wneud eich sefydliad yn addas ar gyfer cyllid. Dysgwch sut i sefydlu eich sefydliad ar gyfer llwyddiant er mwyn cynyddu eich siawns o sicrhau cyllid.
Rhaid archebu tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn:
Cylchlythyr pobl hyn Blwyddyn Newydd Dda! Croeso i'r cylchlythyr newydd a gwell i bobl hŷn. Mae'n dal i fod yn llawn gwybodaeth a hwyl. Peidiwch ag anghofio y gellir lawrlwytho rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr dwyieithog yn uniongyrchol o'n gwefan trwy'r ddolen hon:
Vision Support Uned Wybodaeth Chwefror 2024
Deddf newydd ar ailgylchu yn y gweithle O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad yn y sector cyhoeddus wahanu ei wastraff i’w ailgylchu yn ôl y gyfraith. Bydd hyn yn gwella ansawdd a
maint y ffordd rydym yn casglu ac yn gwahanu gwastraff. Bydd y gofynion cyfreithiol i ddidoli gwastraff yn effeithio ar y canlynol: - Pob gweithle (busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector).
- Y rhai sy'n casglu'r gwastraff, neu'n trefnu i'r gwastraff gael ei
gasglu.
- Y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff – bydd rhaid iddyn nhw gadw'r gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff neu sylweddau.
Bydd angen didoli’r deunyddiau canlynol cyn iddyn nhw gael eu casglu, a’u casglu ar wahân: - Bwyd ar gyfer eiddo
sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos.
- Papur a chardfwrdd.
- Gwydr.
- Metel, plastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg.
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu.
- Tecstilau heb eu
gwerthu.
Bydd y canlynol hefyd yn cael eu gwahardd: - Taflu gwastraff bwyd i garthffosydd
- Anfon rhai mathau o wastraff a gesglir ar wahân a phob math o wastraff pren i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi
Os ydych chi’n weithle: - Edrychwch ar y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu a dewiswch y gwasanaeth cywir gan eich contractwr gwastraff.
- Ystyriwch a oes angen prynu biniau newydd, neu fwy o finiau.
- Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff ac egluro’r newidiadau wrth ymwelwyr neu’r rhai
sy’n defnyddio’ch eiddo.
Os ydych yn gasglwr gwastraff: - Dechreuwch gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid am y newidiadau arfaethedig.
- Ystyriwch yr angen i gaffael mwy o finiau neu brynu biniau newydd.
- Meddyliwch am sut i
hyfforddi eich staff i baratoi cwsmeriaid ar gyfer y newidiadau.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio'r gofynion ar gyfer didoli gwastraff a'r gwaharddiad ar anfon gwastraff i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi. Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig. Bydd yn dod yn gyfraith o 6 Ebrill 2024 ymlaen, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ac os na fyddwch yn cydymffurfio gallech wynebu dirwy. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol yn helpu gweithleoedd i gydymffurfio a rheoli gwastraff yn y ffordd gywir. Nid yn unig mae'r newidiadau hyn yn
canolbwyntio ar wella maint ac ansawdd yr hyn sy'n cael ei ailgylchu, ond maen nhw hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni ymrwymiad Cymru i sicrhau dim gwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU
Edrychwch ar ein tudalen we newydd ar gyfer cefnogaeth ariannol ac ynni ar gael i drigolion Conwy.
Hwb Cymorth Cymunedol CGGCMae Hwb Cymorth Cymunedol CGGC yn gam cadarnhaol ac arwyddocaol i sicrhau bod trigolion Conwy yn cael mynediad ystyrlon i wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ymarferol gan ddarparwyr dibynadwy ledled yr ardal. Bydd staff hyfforddedig a gwybodus CGGC wrth law i gefnogi preswylwyr sy’n dymuno cael gwybodaeth a chymorth ar ystod o faterion sy’n effeithio ar eu lles. Yma yn CGGC, rydym yn cydnabod y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wybodaeth a chymorth, felly nid yw hwn yn wasanaeth cyfeirio arall eto - rydym yma i helpu. Dim ond un alwad i’n
gwasanaeth ffôn pwrpasol sydd ei angen, i ddarganfod yr ystod lawn o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth a gynigir gan y sector gwirfoddol a chymunedol a sut y gall fod o fudd i’ch lles eich hun.
Mae'r holl staff yn parhau i fod ar gael yn llawn drwy e-bost a ffôn, ac yn y swyddfa trwy apwyntiad yn unig. Rydyn ni yma i gefnogi nid yn unig grwpiau gwirfoddol a chymunedol presennol, ond unrhyw fentrau a gweithgareddau gwirfoddol newydd. Mae ein rôl yn fwy
hanfodol byth rwan wrth eich helpu chi i gefnogi'ch cymunedau yng Nghonwy, gydag arweiniad, gwybodaeth am gyllid ac ati. Ffoniwch ni ar 01492 534091 neu e-bostiwch mail@cvsc.org.uk neu volunteering@cvsc.org.uk |
|