Ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i argyfyngau
Ein pum egwyddor ar gyfer cadw cymunedau’n ddiogel – dweud eich dweud
Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn ymgynghoriad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol pum mlynedd 2024-2029 a’n Cynllun Gweithredu ar gyfer 2024-2025 i ddweud eich dweud ar ein pum egwyddor ar gyfer cadw cymunedau’n ddiogel.
Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) yw nodi risgiau sy'n wynebu'r gymuned ac
mae'n disgrifio sut y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.
Mae'r ymgynghoriad hwn felly yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac mae gwrando ar eich barn yn bwysig i ni.
Mae'r Awdurdod eisiau gwybod
eich barn CHI
Rydym yn gofyn am eich barn ynghylch a ydym wedi nodi'r risgiau mwyaf priodol ac a fydd ein cynlluniau a'n hamcanion yn bodloni nodau ein pum egwyddor.
Dyma rai o’r cwestiynau allweddol yn yr ymgynghoriad.
Mae eich adborth yn bwysig iawn - rydym eisiau gwybod beth yw eich barn am ein cynlluniau cyn i'r Awdurdod Tân ac Achub wneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
Felly cymerwch amser i gwblhau holiadur yr ymgynghoriad.
Mae’r
ymgynghoriad yn agor ar 25 Mawrth 2024 ac yn cau am hanner nos ar 16 Mehefin 2024.
I gymryd rhan, ewch i www.tangogleddcymru.llyw.cymru i gwblhau'r holiadur a chael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ateb y cwestiynau. Dolen uniongyrchol yma.
Gallwch ein ffonio
neu anfon neges destun atom ar 07787 578 386, neu anfon e-bost at Einpumegwyddor@tangogleddcymru.llyw.cymru os hoffech gopi papur o’r holiadur, y gallwch ei ddychwelyd atom yn rhad ac am ddim.
Gallwch gael mynediad at fformat hawdd ei ddarllen o’r wybodaeth ategol ar ein gwefan ac mae bar offer cynorthwyol ar y wefan hefyd ar gyfer swyddogaeth darllen yn uchel, testun mwy ac i weld y
wybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd ychwanegol.
Diolch am eich cyfranogiad.
Cynghorydd Dylan Rees
Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru