Mae ‘Eat it Up Fund’ Hubbub a Starbucks yn derbyn Ceisiadau yn y DU
Crëwyd Eat it Up Fund y llynedd gyda chyllid wedi’i ddarparu gan Starbucks (yn defnyddio’r arian a godwyd drwy ffi 5 ceiniog am gwpan Starbucks) mewn partneriaeth â Hubbub Foundation UK, elusen amgylcheddol.
Bellach yn ei ail flwyddyn, mae’r gronfa grantiau yn cynnig chwe grant sydd yn £60,000 yr un i gefnogi syniadau arloesol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd yn y DU. Mae’n
rhaid defnyddio’r grant o fewn blwyddyn.
Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU, gyda phrosiect gwastraff bwyd camau cynnar sydd â phosibilrwydd o gael effaith ar raddfa.
Mae’r cyllid ar gyfer mentrau sydd yn cyflawni un neu fwy o’r
canlynol:
Mynd i’r afael â gwastraff cyn gât y fferm (proses cynhyrchu bwyd, hyd at y pwynt lle mae’r cynnyrch wedi’i gynaeafu a’i baratoi fel cynnyrch i’w werthu).
Atal bwyd rhag cael ei wastraffu yn y cam gweithgynhyrchu a phrosesu.
Lleihau gwastraff bwyd gan fanwerthwyr.
Dod o hyd i ffyrdd creadigol i ddefnyddio bwyd dros ben mewn cymunedau neu gartref.
Gall y gronfa gefnogi syniadau sydd yn barod i gael eu profi, neu syniadau sydd wedi
cael eu profi ac yn barod i’w datblygu ymhellach.
Mae’r ffocws y cyllid hwn mor uchel â phosibl ar yr hierarchaeth gwastraff bwyd. Rhoddir blaenoriaeth i atal ac adfer/ ailddefnyddio bwytadwy yn hytrach na mentrau nad ydynt yn arwain at gadw bwyd o fewn cadwyn fwyd y bod dynol.
Bydd ceisiadau yn cael eu derbyn gan unrhyw sefydliad a all brofi eu bod yn gorff a gyfansoddwyd yn swyddogol, ac wedi’i gofrestru yn y DU.
Mae hyn yn cynnwys:
Elusennau cofrestredig, gan gynnwys sefydliadau elusennol wedi’u hymgorffori a chwmnïau nid–er -elw.
Mentrau Cymdeithasol.
Cwmnïau Buddiannau Cymunedol.
Ysgolion, prifysgolion a
cholegau.
Awdurdodau lleol.
Busnesau
micro a bychain sydd â phwrpas cymdeithasol amlwg.
Croesawir ceisiadau gan gydweithrediad o sefydliadau cyhyd â bod y prif sefydliad yn un o’r mathau o sefydliadau a restrir uchod.
Mae dau gam i’r broses ymgeisio.
Y dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb yw 14 Mehefin 2024 (5pm).