O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad yn y sector cyhoeddus wahanu ei wastraff i’w ailgylchu yn ôl y gyfraith. Bydd hyn yn gwella ansawdd a maint y ffordd rydym yn casglu ac yn gwahanu gwastraff. Bydd y gofynion cyfreithiol i ddidoli gwastraff yn effeithio ar y canlynol: Pob gweithle (busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector). Y rhai sy'n casglu'r gwastraff, neu'n trefnu i'r gwastraff gael ei gasglu. Y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff – bydd rhaid iddyn nhw gadw'r gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff neu sylweddau. Bydd angen didoli’r deunyddiau canlynol cyn iddyn nhw gael eu casglu, a’u casglu ar wahân: Bwyd ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos. Papur a chardfwrdd. Gwydr. Metel,
plastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg. Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu. Tecstilau heb eu gwerthu. Bydd y canlynol hefyd yn cael eu gwahardd: Taflu gwastraff bwyd i garthffosydd Anfon rhai mathau o wastraff a gesglir ar wahân a phob math o wastraff pren i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi Os ydych chi’n weithle: Edrychwch ar y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu a
dewiswch y gwasanaeth cywir gan eich contractwr gwastraff. Ystyriwch a oes angen prynu biniau newydd, neu fwy o finiau. Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff ac egluro’r newidiadau wrth ymwelwyr neu’r rhai sy’n defnyddio’ch eiddo. Os ydych yn gasglwr
gwastraff:Dechreuwch gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid am y newidiadau arfaethedig. Ystyriwch yr angen i gaffael mwy o finiau neu brynu biniau newydd. Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff i baratoi cwsmeriaid ar gyfer y newidiadau. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru
(CNC) yn rheoleiddio'r gofynion ar gyfer didoli gwastraff a'r gwaharddiad ar anfon gwastraff i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi. Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig. Bydd yn dod yn gyfraith o 6 Ebrill 2024 ymlaen, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ac os na fyddwch yn cydymffurfio gallech wynebu dirwy. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac
Awdurdodau Lleol yn helpu gweithleoedd i gydymffurfio a rheoli gwastraff yn y ffordd gywir. Nid yn unig mae'r newidiadau hyn yn canolbwyntio ar wella maint ac ansawdd yr hyn sy'n cael ei ailgylchu, ond maen nhw hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni ymrwymiad Cymru i sicrhau dim gwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol |
|
Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU |