Hyfforddiant Ar Gyfer
Y Rheng Flaen Mewn Tai
Cyfraith Digartrefedd yng Nghymru – Lefel 1 – 11 Ebrill 2024
Mae Lefel 1 o Gwrs Sylfaen Shelter Cymru yng Nghyfraith Digartrefedd Cymru yn arwain dysgwyr drwy drosolwg o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a’i thermau allweddol. Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno cyflwyniad ardderchog i ddeall pwy, beth, pryd, ble a pham o ran y gyfraith ynghylch digartrefedd yng Nghymru.
Dewch i'n cwrs hyfforddi mewnol Hawliau ac Opsiynau Cam-drin Domestig Domestic Abuse Rights and Options - rhifyn eDdysgu.
Mae deall hawliau ac opsiynau tai yn hanfodol i gefnogi pobl sy’n profi cam-drin domestig. Gyda'r un cynnwys yn union â'n cwrs byw a ddarperir gan arbenigwyr mewn cyfraith tai, bydd yn ymdrin â hawliau tai ac opsiynau
dioddefwyr a goroeswyr sy'n rhentu neu'n berchen ar eu cartrefi; boed yn briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil.
Am fwy o wybodaeth ewch i training.sheltercymru.org.uk lle gallwch hefyd weld ein hystod lawn o gyrsiau mewnol, e-ddysgu a rhaglenni cyhoeddus
Os hoffech gael
hyfforddiant mwy penodol e-bostiwch ni ar training@sheltercymu.org.uk