Newyddion Croeso i rhifyn mis Gorffennaf o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â
ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf! |
Rydyn ni'n diweddaru sut rydych chi'n cofrestru gyda CGGC ar gyfer ein haelodaeth am ddim. Mae'n bwysig i ni gael gwybodaeth cywir, felly mae cael person cyswllt ar gyfer eich sefydliad yn hanfodol. Dim ond un ffurflen sydd nawr ar gyfer cofrestru neu ddiweddaru eich aelodaeth. Llenwch eich manylion
yma. Rydym am i chi fod y cyntaf i glywed am grantiau newydd, sesiynau hyfforddi, a digwyddiadau. Felly, llenwch y ffurflen hyd yn oed os yw'ch sefydliad eisoes yn aelod. Diolch am fod yn aelod gwerthfawr o CGGC! Rydyn ni'n gyffrous i
gynnig proses gwell, symlach a mwy o fanteision aelodaeth i chi!
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid? Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol: Cronfa Gymunedol y Loteri
Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, a Swyddog Cyllid CGGC. Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Ydych chi'n sefydliad sy'n gweithio yn Sir Conwy? Trefnwch sesiwn Meistroli Llywodraethu AM DDIM i gynllunio ar gyfer dyfodol eich sefydliad. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i: • Adolygu eich dogfen lywodraethu. • Adolygu eich polisïau. • Baratoi am grantiau! • Fod yn fwy gwydn i newid. Mae apwyntiadau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin - e-bostiwch jasonedwards@cvsc.org.uk i archebu heddiw! • Mae'r slotiau yn 1 awr o hyd. • Wyneb yn wyneb (ar-lein trwy gais). • Yn swyddfa'r CVSC ym Mae Colwyn.
Oeddech chi'n gwybod? 🧐 Yn ogystal â'r grantiau niferus y mae CGGC yn eu gweinyddu, mae gennym ni hefyd Swyddog Cyllid Cynaliadwy sy'n gallu cynorthwyo grwpiau yng
Nghonwy nad ydynt efallai'n gymwys ar gyfer ein cyllid grant ni ein hunain neu sy'n chwilio am gyllid cyfatebol. Gall ein Swyddog Cyllid wneud y canlynol: - dod o hyd i gyllid i chi
- eich helpu gyda'ch gweithgareddau codi arian
- cynorthwyo gydag unrhyw gais am gyllid.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch! 01492
523842
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae'n Sefyllfa Ennill Pan Byddwch yn Codi Arian Gyda Loto Lwcus. Datrysiad codi arian ar-lein heb risg, dim ffioedd - a nawr mae gennym rheswm ychwanegol i gofrestru – Bwndel Ninja Parti Barbeciw yr Haf! Bydd eich cefnogwyr yn cael cyfle i ennill gwobrau ariannol wythnosol o hyd at £25,000! Hefyd, os ydych wedi cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 27 Gorffennaf byddwch yn cael mynediad at y wobr atodol genedlaethol ychwanegol i'w hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd – Bwndel Ninja Parti Barbeciw yr Haf! Mae pawb ar eu hennill, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr yno i gefnogi
eich achos – dim ond bonws ychwanegol yw’r cyfle i ennill y wobr anhygoel hon!
|
|
Dathlu Ymrwymiad: Crynodeb o'r Digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr, yn nodi 40 mlynedd Wythnos y Gwirfoddolwyr
|
Ar Fehefin 6ed, 2024, daeth gwirfoddolwyr, cynrychiolwyr sefydliadau gwirfoddol a gwesteion arbennig ynghyd yn Venue Cymru yn Llandudno ar gyfer y digwyddiad disgwyliedig Dathlu Gwirfoddolwyr. Pwrpas y digwyddiad hwn oedd anrhydeddu ac arddangos gwerthfawrogiad o'r cyfraniadau anhunanol gan wirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser ac ymdrech i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
|
|
Gweld rhywbeth byddech chi'n ei fwynhau? Cysylltwch â Gwirfoddoli CGGC ar 01492 523 858 neu volunteering@cvsc.org.uk am ragor o wybodaeth.
Uned Diogelwch Cam-drin Domestig
Mae DASU Gogledd Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr caredig ac ymroddedig i gefnogi unigolion sydd wedi profi cam-drin domestig. Drwy gynnig cefnogaeth emosiynol, cynnal gweithgareddau, a hwyluso grwpiau cefnogi cyfeillion, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywyd rhywun. Mae’r swyddi i wirfoddolwyr yn cynnwys: - Darparwyr Cefnogaeth
Emosiynol
- Cydlynwyr Gweithgareddau
- Hwyluswyr Grŵp Cefnogi Cyfeillion
Drwy wirfoddoli gyda DASU gallwch gael effaith ystyrlon yn eich cymuned a chael profiad a hyfforddiant gwerthfawr. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ond dylech fod yn ddibynadwy, yn ymroddedig a dangos sgiliau gwrando a chyfathrebu da. Os ydych chi’n garedig, os oes gennych chi agwedd gadarnhaol ac os ydych chi’n dymuno bod yn
rhan o dîm cefnogol a gofalgar, efallai mai hon yw’r rôl i chi. Bydd unrhyw gostau teithio’n cael eu had-dalu. Mae angen archwiliad DBS ar gyfer y rôl hon ond bydd hynny'n cael ei drefnu gan y sefydliad.
|
|
Nod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yw gwella bywydau gofalwyr drwy roi seibiant iddyn nhw o ofalu, gan roi amser iddyn nhw eu hunain i bob un, gan wybod bod y person maen nhw’n gofalu amdano mewn dwylo diogel. Maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia. Mae gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn
darparu cefnogaeth amhrisiadwy yn un o’r canolfannau ym Mochdre, Bae Colwyn lle mae pobl mewn cyfnodau amrywiol o Ddementia yn dod i dreulio’r diwrnod mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar er mwyn i’w gofalwyr a / neu eu hanwyliaid gael seibiant byr. Maen nhw’n chwilio am unigolion croesawgar a deallus sy'n barod i wirfoddoli yn y ganolfan i helpu gyda lluniaeth a gweithgareddau amrywiol. O wneud paneidiau o de i olchi llestri, tacluso, cael sgwrs neu gydganu, does dim dau
ddiwrnod yr un fath byth. Mae cyflwyniad i'r rôl yn cael ei gynnig i’r gwirfoddolwyr, arweiniad ar bolisi a gweithdrefn, a chroeso mawr iawn hefyd. Os ydych chi'n teimlo bod y rôl wirfoddoli yma ar eich cyfer chi, ac os hoffech chi ein helpu ni i wneud gwahaniaeth, ffoniwch am sgwrs anffurfiol.
|
|
|
Edrychwch ar ein tudalen we newydd ar gyfer cefnogaeth ariannol ac ynni ar gael i drigolion Conwy.
Hwb Cymorth Cymunedol CGGCMae Hwb Cymorth Cymunedol CGGC yn gam cadarnhaol ac arwyddocaol i sicrhau bod trigolion Conwy yn cael mynediad ystyrlon i wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ymarferol gan ddarparwyr dibynadwy ledled yr ardal. Bydd staff hyfforddedig a gwybodus CGGC wrth law i gefnogi preswylwyr sy’n dymuno cael gwybodaeth a chymorth ar ystod o faterion sy’n effeithio ar eu lles. Yma yn CGGC, rydym yn cydnabod y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wybodaeth a chymorth, felly nid yw hwn yn wasanaeth cyfeirio arall eto - rydym yma i helpu. Dim ond un alwad i’n
gwasanaeth ffôn pwrpasol sydd ei angen, i ddarganfod yr ystod lawn o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth a gynigir gan y sector gwirfoddol a chymunedol a sut y gall fod o fudd i’ch lles eich hun.
Mae'r holl staff yn parhau i fod ar gael yn llawn drwy e-bost a ffôn, ac yn y swyddfa trwy apwyntiad yn unig. Rydyn ni yma i gefnogi nid yn unig grwpiau gwirfoddol a chymunedol presennol, ond unrhyw fentrau a gweithgareddau gwirfoddol newydd. Mae ein rôl yn fwy
hanfodol byth rwan wrth eich helpu chi i gefnogi'ch cymunedau yng Nghonwy, gydag arweiniad, gwybodaeth am gyllid ac ati. Ffoniwch ni ar 01492 534091 neu e-bostiwch mail@cvsc.org.uk neu volunteering@cvsc.org.uk |
|