Partneriaeth Bwyd Conwy Food Partnership - Grantiau ar agor rŵan!
Gallwch wneud cais am hyd
at £2000 ar gyfer eich digwyddiad neu weithgaredd sy’n gysylltiedig â bwyd.
Mae Partneriaeth Bwyd Conwy, a sefydlwyd yn 2023, yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n dod â budd-ddeiliaid amrywiol at ei gilydd ac yn annog cydweithio i sicrhau system fwyd gryfach yng Nghonwy. Nod y bartneriaeth yw lleihau milltiroedd bwyd, rhoi mwy o fynediad at fwyd iach a fforddiadwy i bawb, a grymuso cymunedau gyda
gwybodaeth a sgiliau fel eu bod yn teimlo'n hyderus wrth dyfu, prynu a choginio cynnyrch lleol maethlon, a deall manteision gwneud hynny.
Rydym yn gwahodd ceisiadau am grantiau hyd at £2000 i hwyluso digwyddiad neu weithgaredd sy’n gysylltiedig â bwyd i’w gynnal cyn dydd Gwener 31 Hydref 2024. Mae’r grant ar gael i grwpiau
cymunedol, elusennau, ysgolion, adrannau awdurdodau lleol, sefydliadau a busnesau yn Sir Conwy i gynnal digwyddiadau neu weithgareddau sy’n dod â chymunedau at ei gilydd trwy gyfrwng bwyd maethlon.
Bydd grantiau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymwys yn cael eu dyfarnu ar sail y cyntaf i’r felin, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
yw dydd Mercher 7 Awst 2024.Rydym yn anelu at ddod i benderfyniad cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn eich cais, cyn belled â’n bod wedi derbyn yr holl ddogfennau perthnasol.
*Am fwy o wybodaeth gweler atodiadau ynghlwm yn yr ebost yma