Ydych chi’n angerddol am hawliau a chydraddoldeb anabledd? Oes gennych chi syniadau creadigol a all symud ein sefydliad ymlaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl
ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r Bwrdd. Rydyn ni angen lleisiau newydd i hyrwyddo a lobïo newid ac felly rydym yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau ar y Bwrdd. Fel sefydliad, rydym am adlewyrchu’r gymuned gyfan o bobl anabl yng Nghymru. Ein nod fel Sefydliad Pobl Anabl yw dangos arfer da mewn llywodraethu. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy’n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu yn ogystal â chynyddu eu doniau trwy ystod o gyfleoedd. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl anabl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sefydliad ar hyn o bryd gan gynnwys: - Cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng
Nghymru
- Siaradwyr Cymraeg
- Pobl ifanc
Pam ddylech chi wneud cais? Angen ychydig eiriau o anogaeth cyn cyflwyno eich cais? Gwyliwch y fideo byr hwn i glywed rhai o’n Cyfarwyddwyr presennol yn siarad am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Aelod Bwrdd a pham nawr yw’r amser i ymuno. Gwybodaeth bellach Teitl y rôl - Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr Yn atebol i: Cadeirydd a Chyfarwyddwyr y Bwrdd Tymor: Cyfarwyddwyr Penodedig - hyd at dair blynedd Diben: Ynghyd â chyd-Gyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr i fod yn gyfrifol am ddatblygu polisi a gwaith AC; rheoli'r
sefydliad gan gynnwys ei arian a'i bobl; a gwasanaethu buddiannau gorau AC bob amser Ymrwymiad: Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a chymryd rhan mewn trafodaethau a gwneud penderfyniadau; darllen papurau cyn y cyfarfodydd; mynychu a chymryd rhan mewn Hyfforddiant Sefydlu Bwrdd a Hyfforddiant arall yn ôl yr angen; cymryd rhan
mewn Arfarniad Blynyddol a chyfweliadau datblygiad personol gyda'r Cadeirydd Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) ddydd Llun 4ydd o Dachwedd 2024 Cyfweliadau: Dyddiad i’w gadarnhau Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni i geisio sicrhau
Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw, edrychwn ymlaen i glywed gennych! Board Recruitment Pack Cymraeg Application Form Cymraeg Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: Leandra Craine - membership@disabilitywales.org |