Mae proses enwebu Gwobrau’r Uchel Siryf ar gyfer 2025 ar agor bellach. Enwebwch rywun arbennig sy'n gwneud pethau gwych yma yng Nghonwy!
Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2013, yn cydnabod unigolion a grwpiau cymunedol sydd ag amcanion
elusennol ac sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol yn eu cymunedau. Dros y blynyddoedd mae gwirfoddolwyr a grwpiau di-ri wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.
Mae tair gwobr yn cael eu rhoi ar gyfer pob un o’r siroedd sy’n ffurfio’r hen Sir Clwyd: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam:
- Dwy wobr am gyfraniad eithriadol gan unigolyn
- Un wobr am gyfraniad eithriadol gan grŵp gwirfoddol
neu gymunedol sydd ag amcanion elusennol
Mae posib lawrlwytho ffurflenni enwebu a nodiadau canllaw oddi ar wefan Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau wedi'u llofnodi yw hanner dydd, ddydd Gwener 17 Ionawr 2025. Dylid anfon pob enwebiad, o bob un o’r siroedd, i Cefnogaeth
Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC) ar volunteering@cvsc.org.uk
Bydd eu gwobrau yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn seremoni gydnabod arbennig a fydd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Mawrth 2025.