Swydd gyffrous newydd 'Cydlynydd Lles a Chymorth KBI'.
Mae'r Swydd Ddisgrifiad ar gael ar gais.
Menter Kind
Bay
"Dod â'r Gymuned ynghyd"
Ydych chi'n angerddol dros gefnogi'r rhai yn ein cymuned sydd yn ddigartref, yn unig ac yn ynysig, y rhai sy'n agored i niwed ac yn
ei chael hi'n anodd wynebu nifer o heriau ac anawsterau mewn bywyd?
Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm bywiog sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r rhai sydd ei angen fwyaf?
Os felly, hoffem glywed gennych!
Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol rydym yn falch iawn o allu cynnig y swydd ganlynol: -
flwyddyn
**Lleoliad:** Hwb Llesiant a Chymorth Menter Kind Bay, 52 Ffordd Seaview**Teitl Swydd:** Cydlynydd Hwb Llesiant a Chymorth Menter Kind Bay – 2 flynedd tymor sefydlog (estyniad o 2 flynedd
pellach – yn ddibynnol ar gyllid)
**Oriau:** 30 awr yr wythnos dros gyfnod o 4 diwrnod (yn ystod yr wythnos) - i gynnwys ychydig oriau y mis (Coop FoodShare) a gwaith brys ar benwythnosau os oes angen.
**Cyflog:** £23,400 y, Bae Colwyn LL29 8DG a'r ardal gyfagos.
**Adrodd i:** Cadeirydd Menter Kind Bay
Sefydlwyd Menter Kind Bay yn 2019 i gefnogi'r rheini sy'n cysgu allan, y digartref, y rheini sy'n ei chael hi'n anodd gyda'u hiechyd meddwl a'r rhai sy'n agored i niwed ym Mae Colwyn a'r ardaloedd cyfagos – gan gynnwys cyn-droseddwyr a'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau. Mae Menter Kind Bay yn
darparu bwyd poeth wedi'i goginio am ddim, FoodShare, dillad brys, cyfeirio, eiriolaeth, cymorth iechyd meddwl a mwy. Yn y prosiect newydd hwn, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd y ddarpariaeth yn cynnwys dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd lefel isel, nyrs leol, sesiynau galw heibio ychwanegol gyda darparwyr iechyd, yn ogystal â llu o weithgareddau celf a llesiant. Byddwn hefyd yn cynyddu ein gwasanaethau cymorth eiriolaeth.
Ynghylch y swydd:
Fel Cydlynydd Hwb Llesiant a Chymorth Menter Kind Bay, byddwch yn
gyfrifol am redeg ein Hwb prysur a hyfryd ym Mae Colwyn o ddydd i ddydd, lle byddwch yn rheoli a chydlynu sesiynau galw heibio, gweithio ochr yn ochr â llu o asiantaethau a sefydliadau, ac yn arwain tîm bywiog o wirfoddolwyr.
Gan fod eiriolaeth, heb oedi, yn rhan hanfodol o'r hyn y mae ein
mynychwyr ei angen yn aml, byddwch yn helpu i siarad dros y rhai sy'n wynebu cymaint o rwystrau yn eu bywydau beunyddiol ac yn eu cynorthwyo i gael yr help a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Mae Menter Kind Bay yn ddarpariaeth ar lawr gwlad, yn aml yn fan galw cyntaf i lawer mewn argyfwng.
Mae'r swydd hon yn gofyn am berson sy'n wydn, yn gweithio'n galed, yn adnoddgar, heb farnu ac yn rhywun sydd â'r awydd mawr i alluogi a chynorthwyo'r rhai sy'n wynebu llawer o rwystrau mewn bywyd - i ddod o hyd i'r cymorth y maent yn chwilio amdano'n daer!
Y person rydym ni'n chwilio amdano:
- Rhywun sy'n deall yr heriau a'r rhwystrau y mae ein mynychwyr yn aml yn eu hwynebu bob dydd.
- Rhywun positif, angerddol dros helpu eraill ac yn galluogi newid, gwrandäwr da, ac yn gallu gweithio fel tîm yn ogystal â rhedeg tîm o wirfoddolwyr.
- Rhywun sydd ddim yn
barnu ac yn wydn, yn gallu delio â sefyllfaoedd anodd ac yn adnoddgar.
- Rhywun trefnus, effeithlon, ac yn gallu delio â rheolaeth ddydd i ddydd yr Hwb.
- Rhywun sy'n hapus i weithio ochr yn ochr ag asiantaethau a sefydliadau ac yn helpu i hyrwyddo a datblygu cysylltiadau lleol, gan barhau ag ethos Menter Kind Bay o 'Ddod â'r gymuned
ynghyd'.
- Rhywun sy'n hyblyg ac yn gallu addasu ac yn deall cymhlethdodau gweithio gyda phobl ag anghenion cymhleth.
Beth allwn ni ei gynnig i chi:
- Cefnogaeth
tîm cyfeillgar ac ymroddedig sy'n angerddol am yr hyn rydym yn ei wneud.
- Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd, a chael mynediad i gyfleoedd hyfforddi perthnasol.
Pam ymuno â ni?
Rydym yn wasanaeth hanfodol ym Mae Colwyn, tîm bywiog, wedi'i danio gan garedigrwydd a thosturi ac rydym yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae gennym amgylchedd gwaith hyfryd ac rydym yn poeni'n fawr am alluogi'r rhai sy'n dod atom ni.
Gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, byddwn bellach yn gallu cynyddu ein darpariaeth, gan gynnig mwy o lesiant a chymorth nag erioed o'r blaen, a fydd yn helpu i drawsnewid bywydau'r rhai sydd mewn angen mawr!
Os hoffech ymuno â ni a bod yn rhan o wneud gwahaniaeth enfawr yn ein cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r swydd hon wedi'i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol!
I gael
mwy o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â ni yn: -
Helen@kindbayinitiative.co.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Tachwedd 2024 @ 12pm
Dewch i ymuno â ni!