Annwyl alelod CCGC,
Diolch i chi am eich cefnogaeth werthfawr o Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC).
Mae'n rhaid adnewyddu eich aelodaeth ond rydym yn hapus i'ch trosglwyddo i gyfnod newydd o 12 mis os dymunwch. Os gwnewch hynny, nid oes angen i
chi wneud unrhyw beth, byddwn yn gwneud hyn yn awtomatig ar eich rhan. Os nad ydych am adnewyddu eich aelodaeth, ymatebwch i'r e-bost hwn gyda'ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn o fewn y 14 diwrnod nesaf fel y gallwn eich tynnu fel aelod.
Os ydych chi am adnewyddu eich aelodaeth ond bod eich manylion cyswllt wedi newid ers i chi ymuno, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n diwygio ein cofnodion yn unol â hynny.
Ar hyn o bryd, nid oes tâl am aelodaeth.
Unwaith eto, diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus, a gobeithiwn eich croesawu i un o'n nifer o ddigwyddiadau yn y dyfodol agos.
Cofion,