Sicrhewch fewnwelediadau i’r sector gyda Baromedr Cymru
Yr hydref yma, mae WCVA yn lansio Baromedr Cymru – baromedr newydd i’r sector gwirfoddol yng Nghymru a fydd yn rhoi mewnwelediadau cyfredol i ni am yr hyn sy’n digwydd ar draws y
sector.
Drwy gofrestru, byddwch yn cyfrannu at arolwg byr bob chwarter ac, yn gyfnewid, yn derbyn:
- Dangosfwrdd personol sy’n cymharu ymatebion eich sefydliad â sefydliadau eraill.
- Mynediad at ddangosfwrdd sector eang sy’n tynnu sylw at dueddiadau a newidiadau.
- Adroddiad chwarterol gyda’r prif ganfyddiadau ac adolygiad mwy manwl.
Mewnwelediadau tymor hir o ymchwil academaidd i’ch cefnogi gyda chynllunio a dylanwadu.
Gall yr wybodaeth yma gryfhau eich ceisiadau cyllido, cynllunio strategol, a’ch sgyrsiau gyda rhanddeiliaid.
Bydd y Baromedr cyntaf yn cael ei lansio ym Mis Hydref,
felly dyma’r amser i gofrestru a bod yn rhan o’r arolwg cenedlaethol cyntaf o Gymru.