Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol
Mae Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC) yn gweinyddu Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol: cronfa o £400,000 ar gyfer grwpiau Trydydd Sector yng Nghonwy, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Tîm Grantiau CCGC fydd yn gweinyddu'r cynllun grantiau.
Bydd 2 fath o grant ar gael:
- Cronfa Meicro: £500-£2,499
- Prif Gronfa: £2,500-£25,000
Mae Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol wedi’i hanelu at brosiectau yng Nghonwy a fydd yn cefnogi
cyflawni rhai o nodau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU:
- Gwella Iechyd a Lles
- Dod â Chymunedau Ynghyd, Mynd i'r Afael â Digartrefedd
Rydym yn eich annog i gael sgwrs anffurfiol gyda swyddog grantiau CCGC cyn llenwi eich cais. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm grantiau CCGC ar grants@cvsc.org.uk / 01492 523845 ac ewch i’n gwefan.