Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru newydd gael ei lansio! Mae’n rhaglen sy’n cynnig hyfforddiant am ddim i gefnogi arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ar bob cam yn eu taith fel arweinwyr.
Rydyn ni’n derbyn ceisiadau ar gyfer: Arweinwyr Cymunedol y Rhyl Chwefror–Mehefin 2026 (Pob lefel o brofiad)
Ariennir y rhaglen gan Gronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr prysur mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol sy’n byw / gweithio yn yr ardaloedd sy’n elwa o Gronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl.
Caiff
yr holl sesiynau yn y cnawd eu cynnal yng Nghanolfan ASK, 9 Stryd y Dŵr, Y Rhyl LL18 1SP
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminarau
Ddydd Mercher, 3 Rhagfyr 12:30pm–1pm,
i ddysgu
mwy am y rhaglen, i gwrdd â’r tîm a chyfranogwyr blaenorol, ac i gael atebion i’ch cwestiynau. Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar yma. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Cofrestrwch i fod yn bresennol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener, 19 Rhagfyr am 11.59pm.
Ymgeisiwch nawr Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership, a WCVA/CGGC.