Mae’r wybodaeth a geir yn y Briff Newyddion hwn yn cynnwys cymysgedd o ddiweddariadau gan CVSC a chynnwys a rannwyd gan
sefydliadau eraill. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r sefydliad perthnasol yn uniongyrchol. | Information featured in this News Brief comes from a mixture of CVSC updates and content shared by other organisations. For more
details, please contact the relevant organisation directly. |
Ymddeoliad Hapus! Happy Retirement!
|
Llongyfarchiadau mawr i Marian ar ei
ymddeoliad. Mae Marian wedi bod yn rhan o gronfa Clocaenog ers y dechrau, ac wedi bod yn rhan annatod o’r tîm. Pob hwyl ti Mar - mwynha! A
diolch | Congratulations to Marian on her retirement. Marian has been a part of the Clocaenog fund since the very start, and has been such an integral part of the team. We wish you all the best Mar - enjoy! And thanks
|
Trac Pwmp Tarmac Mwyaf Cymru yn Agor yn Swyddogol, Diolch i Gefnogaeth gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr | Wales' Largest Tarmac Pump Track Officially Opens, Thanks to Support from Gwynt y Môr Community Fund
|
Mae buddsoddiad sylweddol o £10,000 gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr a £10,000 gan Gronfa Gymunedol Gwastadeddau'r Rhyl wedi
cefnogi dyluniad a gwaith adeiladu'r trac pwmp tarmac mwyaf yng Nghymru. Dan arweiniad CIC Abergele Wheelers, nod y prosiect yma yw cael mwy o bobl i symud a mwynhau'r awyr agored. Mae gan y trac pwmp, sydd wedi'i leoli ym Mharc Pentre Mawr yn Abergele, 378 o fetrau
trawiadol o ofod reidio cyfun. Mae gan y trac dair prif nodwedd, sef; prif drac 210 o fetrau, trac dechreuwyr 70 o fetrau, a llinell naid uwch 74 o fetrau. Mae'r trac wedi'i gynllunio ar gyfer dechreuwyr a beicwyr brwd fel ei gilydd, ac mae posib ei ddefnyddio gyda phob math o offer, gan gynnwys beiciau, sgwteri a sglefrfyrddau. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio'n ofalus gyda phob oedran a gallu mewn golwg. | An significant investment of £10,000 from the Gwynt y Môr Community Fund and £10,000 from the Rhyl Flats Community Fund has backed the design and construction of the largest tarmac pump track in Wales. Led by Abergele Wheelers CIC, this project aims to get more people moving and enjoying the outdoors. The pump track, which is located in Pentre Mawr Park in Abergele, has an impressive 378 metres of combined riding space. The track has three main features, comprising; a 210 metre main track, a 70 metre beginner track, and a 74 metre advanced jump line. The
track is designed for beginners and keen riders alike, and can be used with all kinds of equipment, including bikes, scooters and skateboards. The layout has been carefully designed with all ages and abilities in mind.
|
Wythnos y Gwirfoddolwyr 2026Roedd Wythnos y Gwirfoddolwyr 2026 yn ddathliad gwych o wirfoddoli ledled Conwy. Roeddem yn falch o lansio ein prosiect newydd, Cariad Crew, mewn partneriaeth â Hosbis Dewi Sant, dathlu cyfraniad anhygoel ein gwirfoddolwyr lleol yn ein Digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr, a chynnal
Ffair Wirfoddoli gyda dros 20 o sefydliadau yn arddangos cyfleoedd gwirfoddoli o bob rhan o'r sir. Diolch yn fawr i bawb a fynychodd, a wirfoddolodd, a fu'n arddangos, ac a helpodd i wneud yr wythnos yn llwyddiant ysgubol. Roedd hi'n ysbrydoledig gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd i ddathlu gwirfoddoli, cysylltu â sefydliadau lleol, a darganfod
ffyrdd newydd o wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Edrychwch ar rai o uchafbwyntiau ein Wythnos y Gwirfoddolwyr isod! 📸 |
Volunteers' Week 2026Volunteers' Week 2026 was a fantastic celebration of volunteering across Conwy. We were proud to launch our new Cariad Crew project in partnership with St David's Hospice, celebrate the incredible contribution of our local volunteers at our Volunteer Celebration Event, and host a
Volunteering Fair with over 20 organisations showcasing opportunities from across the county. A huge thank you to everyone who attended, volunteered, exhibited, and helped make the week such a success. It was inspiring to see so many people coming together to celebrate volunteering, connect with local organisations, and discover new ways to make
a difference in their communities. Take a look at some of our Volunteers' Week highlights below! 📸 |
Beth yw'r panel?Mae Panel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid Conwy yn cynnwys pobl ifanc (14–25 oed) sy'n penderfynu ar geisiadau am gyllid. Mae aelodau hefyd yn helpu i hyrwyddo'r grant ac yn ymweld â phrosiectau a ariennir. Nid oes angen profiad – bydd hyfforddiant llawn yn cael ei
ddarparu, a bydd costau teithio'n cael eu talu. Pa mor aml mae'r panel yn cyfarfod?Fel arfer bob pythefnos, ond y panel sy'n penderfynu ar yr amserlen i gyd-fynd ag ymrwymiadau fel arholiadau. Ydy e'n addas i mi?Dewch i gyfarfod
prawf heb ymrwymiad! Efallai y byddwch yn ei fwynhau os ydych yn hoffi: - Cyfarfodydd hwyliog
- Byrbrydau
- Gwneud gwahaniaeth yn y gymuned
- Datblygu sgiliau newydd
- Cymryd rôl arwain
Dal ddim yn siŵr?Cysylltwch â ni: 📧 [email protected] 📞 01492 523858
|
What is the panel?The Conwy Youth Led Grants Panel is made up of young people aged 14–25 who decide how Youth Led Grant funding is awarded. Members also help promote the grant and visit funded projects. No experience is needed – full training is provided, and travel expenses are
covered. How often does the panel meet?Usually every two weeks, but the panel decides the meeting schedule to fit around commitments such as exams. Is it right for me?Why not come along to a no-obligation taster session? You might enjoy it if you like: - Fun meetings
- Snacks
- Making a difference in your community
- Developing new skills
- Taking on leadership opportunities
Still not sure?Get in touch for a chat: 📧 [email protected] 📞 01492 523858
|
Conwy Climbing Monkeys- Gorsaf Bad Achub LlandudnoMae Conwy Climbing Monkeys yn chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar i gefnogi sesiynau dringo wythnosol ar gyfer plant a phobl ifanc 5–18 oed ag ASD ac ADHD. Byddwch yn croesawu
teuluoedd, yn helpu gyda'r gofrestr a thaliadau aelodaeth, yn annog y plant wrth iddynt ddringo, ac yn helpu i greu amgylchedd diogel a chadarnhaol. Nid oes angen unrhyw brofiad dringo – bydd yr holl weithgareddau dringo yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys. Cynhelir y sesiynau bob nos Iau rhwng 6pm a 8pm yn ystod y tymor ysgol. Os hoffech gefnogi clwb lleol gwych lle gall plant feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a chyrraedd eu potensial, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! |
Conwy Climbing Monkeys- Llandudno Lifeboat StationConwy Climbing Monkeys is looking for friendly volunteers to support its weekly climbing sessions for children aged 5–18 with ASD and ADHD. You'll welcome families, help with the
register and membership payments, encourage children as they climb, and help create a safe, positive environment. No climbing experience is needed – qualified instructors manage all climbing activities. Sessions take place on Thursday evenings (6–8pm) during term time. If you'd like to support a fantastic local club
where children can build confidence, develop new skills, and reach their potential, we'd love to hear from you! |
‼️ Mae Cronfa Busnes Fferm Wynt Coedwig Clocaenog NAWR AR AGOR! 📆 Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2026, 5pm Rhaid i bob prosiect gyflawni o leiaf un o’r themâu canlynol: - Cymunedau Ffyniannus
- Iechyd a Lles
- Yr Economi
- Cadwraeth a’r Amgylchedd
- Digidol
Dylai ymgeiswyr hefyd ystyried sut mae eu prosiect yn cyfrannu at gymaint â phosibl o’r themâu canlynol: effaith amgylcheddol, y Gymraeg,
pobl ifanc, datblygiad economaidd, a chyfle cyfartal. **SICRHEWCH EICH BOD YN SIARAD GYDA RHEOLWR Y GRONFA NEU SWYDDOG CCGC CYN CYFLWYNO EICH CAIS** |
 Clocaenog Forest Wind Farm Business Fund is
now OPEN!  Closing date: July 13th 2026 5pm Every project must achieve at least one of the 5 themes: - Prosperous Communities
- Health and Wellbeing
- The economy
- Conservation and the Environment
- Digital
All applicants will need to consider as many of the following themes as they can in their delivery: Environmental impact, the Welsh language, young people, economic development, equal opportunities. **PLEASE ENSURE THAT YOU SPEAK TO THE FUND MANAGER OR A CVSC OFFICER BEFORE
SUBMITTING YOUR APPLICATION** |
*Information Only Provided In English/Dim ond yn Saesneg derbynwys y wybodaeth isod
|
|